Hydref ffrwythlon



Mae'n hwyr glas i’r haf ddarfod. Dwi wedi hen bwdu hefo ’nhymor pen-blwydd, wrth i’r barbeciw rydu yng nghornel yr ardd a gwerth hanner can punt o flodau patio yn sbïo’n soeglyd arna i. Mae hyd yn oed y gwlithod wedi rhoi’r gorau i besgi ar y begonias. Roeddwn i ’di laru gweld Morgan a Mari o ryw sioe neu ŵyl bwygilydd ar S4C, ac wedi diflasu efo gohebwyr Radio Cymru yn darlledu o garnifal Llanbedinodyns y byd bob pnawn Sadwrn. Rhowch i mi dymor Dysgub y Dail unrhyw bryd. Cyn belled â’n bod yn cael rhywfaint o haul i fynd am dro, hynny yw. Mae S4C eisoes wedi dangos hysbyseb sy’n cynnig blas ar arlwy ac adloniant yr hydref, i’n cadw’n ddiddig o flaen tân wrth iddi nosi’n gynnar. Er nad ydi sbloets newydd Only Men Aloud na Ruddy-ann, sori, Rhydian yn debygol o’m denu i'n bersonol, maen nhw’n siŵr o saethu i frig siart y gwylwyr gan blesio’r pen bandits a chynulleidfaoedd anrhaddodiadol y Sianel. Mae dau hen ffefryn eisoes yn eu holau, sef Straeon Tafarn Dewi Pws - neu Bro gyda pheint - ac ail gyfres o 100 Lle gyda John Davies ac Aled Sam a’i Fiat bach coch. Mae hon eisoes wedi codi’r awydd ynof i deithio i Bennant Melangell wrth droed anghysbell y Berwyn, ac mae’r gwaith camera bron cystal â champweithiau ffotograffig Marian Delyth. Cyfres addawol arall i hen grwydryn fel fi ydi Llwybr yr Arfordir dan arweiniad yr awdur Jon Gower yn Sir Benfro. Ac mae Byw yn ôl y papur newydd yn siŵr o godi gwên, mewn cyfuniad o wersi hanes a chomedi wrth i Tudur Owen a Bethan Gwanas gadw reiat yn y 1920au.


Ond dramâu ydi ’niléit i, ac mae’n braf gweld nad ydi’r fwyell wedi taro yma eto gan fod tair cyfres newydd sbon ar y gweill. Bydd Zanzibar yn dilyn hynt a helynt naw myfyriwr sy’n gweithio mewn bar o’r un enw yn Aberystwyth dros yr haf, a Sombreros (tair rhaglen awr o hyd) yn olrhain criw o ferched pedwardegrwbath oed sy’n mynd i Mallorca i “ddarganfod eu hunain”. Ond Gwaith/Cartref sy’n hoelio’r sylw, cyfres o ddeg wedi’i gosod mewn ysgol gyfun Gymraeg yn y ddinas fawr ddrwg. Dwi eisoes wedi cael cipolwg ar y bennod gyntaf, ac mae’n argoeli’n dda iawn iawn, gyda ’sgwennu bywiog, wynebau hen a newydd, talp o hiwmor a stamp cyfarwyddo crefftus Fiction Factory. Ac oes, mae ’na bwrpas i’r ‘blaenslaes’ bondibethma, gan fod rhan gynta’r ddrama yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau’r ysgol, a’r ail hanner wedi’i neilltuo i fywyd cartref a chymdeithasol yr athrawon brith.

Ac os ydi nos Sadwrn adra’n codi ofn arnoch, rhwng X Factor a’r uffern a elwir Ar Gamera, na phoener. Bydd Sarah Lund, Ditectif Arolygydd enwocaf Denmarc, yn ei hôl i achub eich noson mewn achos a chyfres newydd o Forbrydelsen (The Killing) ar BBC Four.

Ydy, mae’n hwyr glas i’r hydref gyrraedd.