Myddfai, middle-england

Anghofiwch am Jeremy Clarksons a Roger ‘iaith mwncwns’ Lewis y byd. Mae cangen Llandaf o’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig wedi cythruddo byd twitter, academia a Chymdeithas yr Iaith am ddarlledu rhaglen nawddoglyd uffernol nos Fercher diwethaf. Village SOS sy’n cael y bai, cyfres sy’n adrodd “stori ysbrydoledig” am chwe chymuned ledled Prydain a gafodd arian loteri i adfywio wedi blynyddoedd o ddiboblogi a cholli gwasanaethau. A’r cyflwynydd ydi’r Sarah Beeny fronnog sydd â’i bryd ar achub pentrefi cyfan ar ôl cynghori pobl lawn mor ddi-glem i uwchraddio’u cartrefi yn Property Ladder am flynyddoedd. Tsiampion, digon teg. Ond yr argraff ges i oedd cyfres sy’n hedfan ‘arbenigwyr’ o’r tu allan i ddweud wrth y brodorion sut i fyw eu bywydau.

Toedd pum munud cynta’r rhaglen ddim help, wrth i Ms Beeny gyfeirio’n siwgwrllyd o sentimental at “the great British countryside” a’r “green and pleasant land” ar drai, yn gefndir i awyrlun The Vicar of Dibley. Roedd hyn yn fwy poenus o ddeall mai Myddfai ger Llanymddyfri, yn un o siroedd Cymreicia’r wlad, oedd canolbwynt y rhaglen. Ac i gyfeiliant côr meibion (ticio’r bocsys ar restr cliché BBC Wales i weddill Prydain), clywsom Ms Beeny yn rhestru gwendidau Myddfai - dim siop, ysgol na thafarn, dim rhagolygon swyddi heblaw ffermio, 35% o’r cartrefi lleol yn dai haf, a phoblogaeth o 82 â chyfartaledd oedran o 47. Chlywyd ’run smic am iaith gynhenid y pentref, a dim ond rhyw “lake above the village” oedd Llyn y Fan Fach. Ond dechreuodd Ms Beeny a’r gerddoriaeth gefndir gyffroi’n lân wrth gyfeirio at y bwriad i droi’r hen neuadd preffab “quaint”, yn ganolfan amlbwrpas gyda llwyfan perfformio, siop i werthu crefftau lleol, a chyfle i’r ymwelwyr weld arddangosfa o hanes a chwedlau’r fro dros baned o de llysieuol “Ceredwen’s Brew” (sic) neu “Llyn y Fantastic” yn y caffi. Ac i goroni’r cyfan - a dyma a gododd gwrychyn llawer ynglŷn â’r rhaglen - cafodd cynghorydd Torïaid o Thanet, Caint, ei phenodi i lywio’r gwaith ar ran y brodorion di-glem. Rhaid nodi, fodd bynnag, nad syniad y Bîb oedd hyn, ac mai un o amodau’r cymorth grant oedd bod rhaid i’r pentref gael cymorth arbenigol o’r tu allan. Ond roedd agwedd y Cynghorydd Jo Gideon a’r trosleisydd Beeny yn gywilyddus wrth gyfeirio at bwysigrwydd sefydlu ‘brand Myddfai’ i ddenu pobl a phres i’r ardal, a’r lein ganlynol yn gwneud i mi ferwi: “Jo’s plan to develop a village brand is going to be especially tough, given that here in Myddfai (ciw rholio llygaid a cherddoriaeth ukelele hambons twp), branding is something that farmers do to their sheep” a “They don’t yet see it, because they don’t quiet understand what branding is…”

Mi wn yn iawn fod yna deuluoedd ifanc Cymraeg yn byw yn yr ardal, yn wir, fe’u gwelais ar y sgrin ar noson ola’r hen neuadd gondemniedig. Pam o pam felly na chlywsom bwt ganddyn nhw, gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin, yn lle safbwyntiau hanner dwsin o Toms a Barbaras The Good Life sydd wedi ymddeol yno?

Da iawn BBC Wales am un o’r portreadau mwyaf unochrog erioed o fywyd pentref gwledig yng Nghymru. Ac am godi ’mhwysau gwaed i lefel folcanig