Crïo-chwerthin ar yr A470



WEITHIAU, dwi’n amau a ddylwn i yswirio’r car rhag peryglon ‘gwrando ar Radio Cymru’. Mae’r orsaf yn gydymaith cyson i mi wrth igam-ogamu ar yr A470, heblaw am Fwlch Oerddrws a thir neb Sir Faesyfed lle caiff ei disodli gan orsaf Wyddeleg am ryw reswm. Cofiwch chi, mae hynny’n fendith weithiau pan fo’r DJ yn chwarae rhyw gân Nashville Gymraeg. Dwi mewn perygl o sgrialu i’r clawdd wrth wrando ar yr orsaf ambell dro, yn enwedig pan fo gwleidyddion a gohebwyr y Bae yn lladd yr iaith gyda’u “delifro”, “ffocysu”, “sgrwtineiddio” a “blaenori”. Dro arall, mae bwletinau newyddion yn gwneud i mi ferwi o glywed cyfieithiadau o sgriptiau Saesneg y Gorfforaeth. Dros y Calan, cyfeiriodd Siân Elin Dafydd at ddigwyddiad yn ‘Ysbyty Withybush’ Hwlffordd yn lle’r Llwynhelyg arferol.


Ar yr ochr gadarnhaol, mae ambell raglen arall yn gwneud i mi ’lanha chwerthin nes ’mod i’n gorfod stopio yn y gilfan agosaf i gallio. Rhaglen Tudur Owen amser cinio dydd Sadwrn ydi honno, awr a hanner o sgyrsiau difyr, ambell gân a rhagflas o gemau pêl-droed y p’nawn. Ond yr uchafbwynt heb os yw’r trafod a’r tynnu coes diddiwedd rhwng Tudur a’i gyd-gyflwynwyr, yn enwedig ei gyd-Fonwysyn Manon Rogers. Anghofiwch am Dafydd a Caryl, dyma’r ddeuawd orau ar Radio Cymru o bell-bell ffordd, gyda’r tynnu coes diddiwedd ar draul Manon druan, a Dyl Mei fel rhyw ddyfarnwr tawel ffraeth yn y canol. Ar ben hynny, mae’n rhaglen gartrefol braf a Chymraeg ei naws, sydd ddim yn gorfod trafod selebs Eingl-Americanaidd i ddenu’r gwrandawyr. Dyma’r ffisig perffaith i unrhyw un sy’n dal i ddiodde’ felan y flwyddyn newydd.

Roedd y digrifwr wrthi ar S4C wythnos diwethaf, mewn rhaglen arbennig Tudur Owen: Mentor y Mudiad. Ei “sialens” (gair arall i’w ychwanegu at fy nghas-restr) oedd helpu rhai o aelodau’r CFfI i gamu ar lwyfan Noson Lawen. Rydyn ni’n hen gyfarwydd â gweld ffarmwrs ifanc cydnerth mewn drag â bronnau anferth, a’r gynulleidfa’n gwlychu’u hunain am ben geiriau fel “daiarîa”. Gobaith Tudur Owen oedd cael criw Bro Ddyfi i dorri cwys newydd trwy berfformio sgetsh fwy modern, ac annog Sam Jones o Dregaron i wneud stand-up yn hytrach na’r adroddiad pum-munud digri. Gyda chynghorion gan Garry Slaymaker ac Ifan Gruffydd, lot fawr o baneidiau a bisgedi, nerfau, a hunllef bob sgwennwr - tudalen wen wag - llwyddodd y criw i serennu o flaen y camerâu. Rhaglen ddifyr a theyrnged glodwiw i ddoniau llawr gwlad yn lle ailbobiad gwael West End-aidd arall y mae S4C yn or-hoff ohono. Pob clod i’r cynhyrchwyr hefyd am osgoi defnyddio arddull banel Celebrity Britain’s got the X Factor on Ice.

Uchafbwynt arall yr wythnos ydi Stella, cyfres newydd sbon Ruth Jones (Gavin and Stacey) ar gyfer Sky1. Ie, cyfres ddrama-gomedi o Gymru ar sianel loeren Rupert Murdoch, er gwaetha’r Cymoedd ystrydebol ag ambell Dai. Mae’n llawn cymeriadau brith fel Alan y dyn lolipop hoffus (Steve Speirs) a Paula (Elizabeth Berrington) y trefnwr angladdau alcoholig a nwydwyllt, a llu o wynebau cyfarwydd Cymraeg fel Julian Lewis Jones, Beth Robert ac Aled Pugh. Llifodd yr awr heibio, gyda chymysgedd o sefyllfaoedd ecsentrig a chyfarwydd, a’r Rhondda ar ei orau dan haul braf.