Dinasti




“Mae gyda’r teulu ’ma safone.”
“Safonau?! BETH?! Yn Hong Kong, ’da Suzy Wong?”

Cracar o lein wrth i Miriam Ambrose fynd ben-ben â ‘Dadi’ ynglŷn â’i affêrs mewn golygfa gofiadwy o’r rhaglen Cofio Dinas, teyrnged hiraethus a thafod yn y boch i sioe sebon HTV a welwyd ar S4C rhwng 1985 a 1991. Gyda chyfuniad o glipiau a chyfweliadau gyda’r actorion a’r criw cynhyrchu, cawsom awr o nostalgia difyr. Ydy, mae’n hawdd chwerthin am ben arddull arbennig y gyfres, gydag actio mor stiff â marwdy ar brydiau, ebychiadau a seibiau dros ben llestri o Americanaidd, y gwisgoedd mawr a’r gwalltiau mwy. Ond fe lwyddodd Graham Jones y cynhyrchydd i dorri tir newydd a deffro’r gynulleidfa Gymraeg o’u trwmgwsg gwledig mewn cyfresi fel Minafon a Pobol y Cwm, trwy gyflwyno teulu’r Ambrose a Gregory ac ambell gyn-fyfyriwr fel Tony Llywelyn a Simon Fisher o’r rhagflaenydd, Coleg. Llwyddodd i gorddi’r dyfroedd hefyd, gyda’r defnydd helaeth o Saesneg busnes hirwyntog, ambell reg a slang Caerdydd a oedd yn wrthun i lawer. Ac mi fentrodd y cynhyrchwyr trwy ddewis dau wyneb newydd fel y prif gymeriadau, Geoff Morgan a oedd yn cael gwersi Cymraeg yng Nghlwb Ifor Bach rhwng dysgu’i sgriptiau, a Donna Edwards o Ferthyr - gambl lwyddiannus maes o law, gan iddi fynd ymlaen i ennill gwobr BAFTA Cymru am yr actores orau yn crème de la crème y ddrama Gymraeg, Tair Chwaer.

Un o’r clipiau mwyaf trawiadol oedd y llun awyr o Fae Caerdydd ugain mlynedd yn ôl, gydag adeilad eiconig y Pierhead yn sefyll yn unig ar lan y dyfroedd lleidiog. Roedd y gyfres ymhell o flaen ei hamser ar y pryd, yn portreadu’r datblygiadau mawr ar y gweill fel saga’r tŷ opera cenedlaethol. Gyda phopeth wythdegaidd yn ffasiynol eto - a’n helpo - ffilm Thatcher ar frig y siartiau a Dallas yn dychwelyd i’n sgriniau yn yr haf, beth am atgyfodi cyfres fer o Dinas eto? Does dim angen diweddaru arwyddgan bachog a chofiadwy Myfyr Isaac beth bynnag. Gallaf weld Paul Ambrose yn AC Torïaidd yn y Senedd a Miriam yn dangos pwy ydi’r bos mewn caffi-bar moethus ar lan y dŵr. Efallai mai Teulu yw’r peth agosaf iddi heddiw, a Mair Rowlands, arch-ast Dinas a laddwyd mewn damwain hofrennydd yn ei helfen fel y penteulu sy’n dal i drefnu swperau llawn tensiwn. Peidiwch â disgwyl i mi ddallt beth sy’n digwydd, chwaith, wrth i’r cymeriadau ffraeo a ffeirio partneriaid yng ngŵydd cleifion Glan Don. Heb sôn am geisio cadw wyneb syth gyda wig Matthew Gravelle. Ond mae’r ffigyrau gwylio’n siŵr o blesio, wrth i filoedd fwynhau awr o gecru a gwledd i’r llygaid bob nos Sul.