Nid ar fara'n unig...



Ddechrau’r flwyddyn, gwelwyd deryn prin iawn yma yng Nghymru - cyfres ddrama Saesneg gan BBC Llandaf yn unswydd i’r gynulleidfa gynhenid. Dim actorion o Oxbridge yn teithio mewn Tardis neu’n datrys dirgelion sy’n seiliedig ar lyfrau Arthur Conan Doyle, a Chaerdydd a’r cyffiniau yn cogio bod yn unrhyw le heblaw Caerdydd a’r cyffiniau. ‘Haleliwia!’ meddwn i, a ‘hwrê’ meddai’r gwylwyr a roddodd groeso cyffredinol os nad gwresog i Baker Boys. Llwyddodd i ddenu ffans dros Glawdd Offa hefyd, gydag adolygydd The Stage, papur newydd diwydiant celfyddydau perfformio Prydain - teli a theatr a ballu i chi a fi - yn canmol dan y pennawd bras “The Welsh drama that deserves national attention”. Dim ond tair pennod gawsom ni, fodd bynnag, gan wneud i rywun amau fod toriadau’r Bîb yn dechrau brathu. Ond na phoener, mae hynt a helynt gweithwyr becws Valley Bara yn ôl am gyfres arall… o dair eto. O wel. Berig ein bod ni’n gorfod bodloni ar friwsion eto, tra chafodd Matt Smith a’r Tardis gyfres 13 pennod eleni a sbeshal dydd Dolig gydag eisin ar ei ben.



Yn y gyfres newydd, fe ailymunwn â’r criw chwe wythnos yn ddiweddarach. Mae’r gweithwyr yn dal i bobi am y gorau ond mewn limbo braidd ers i Rob (Matthew Gravelle), prif ariannwr y busnes ffoi i Ffrainc wedi i’w ddarpar wraig Sarah (Eve Myles) ailgynnau tân efo Owen (Gareth Jewell). Cawsom awr go gythryblus - os araf weithiau - o gyfeillgarwch dan straen, tor-perthynas, argyfwng morgais, a diweddglo ansicr wrth i un o brif gwsmeriaid y becws fynd i’r wal. Drama’r dirwasgiad go iawn, sy’n golygu cryn densiwn, dadlau a llythyron cas o’r banc. Trueni na chafodd actorion fel Steve Meo fwy o gyfle i ddangos fflachiadau o hiwmor Belonging-aidd yma ac acw. Efallai y daw haul ar fryn yn y briodas. O leia’ mae’r gacen yn saff.

Ar yr ochr gadarnhaol, mae’n wych gweld cyfres ddrama boblogaidd yn rhoi lle teilwng i Carla Readle o Abertawe, actores â pharlys yr ymennydd, fel Elen y rebel arddegol. Ac mae’n braf clywed cymeriad Mali Harries yn dweud ambell frawddeg Gymraeg yn naturiol braf yng nghanol sgyrsiau Saesneg, i gadarnhau’r ffaith nad yw’r iaith yn gwbl farw yn y cymoedd. Sy’n dod â ni’n dwt at y pwynt nesaf. Iawn, oce, mae bron i hanner poblogaeth ein gwlad - 1.43 miliwn - yn swatio yn y de-ddwyrain, ond mae’n hen bryd i ni gael drama deledu Saesneg y tu allan i ffiniau Valleywood. Ardal Abercynon a Chaerffili yw’r ‘Trefynydd’ ddychmygol yn Baker Boys, ac mae cyfres lwyddiannus cwmni Rondo Media o Borthaethwy, The Indian Doctor, ar gyfer BBC Prydain wedi’i gwreiddio’n ddwfn yng Nghwm Rhondda’r 1960au. Er bod cyfresi’r gorffennol wedi’u gosod yn Sir Benfro (The Lifeboat, 1994) a chefn gwlad Sir Frycheiniog (Mortimer’s Law, 1998), lleisiau a lleoliadau metropolis Caerdydd sy’n arglwyddiaethu o hyd.

Felly, dewch ’laen gynhyrchwyr a chomisiynwyr BBC Cymru-Wales. Ailosodwch eich system llywio lloeren, ac ystyriwch ardaloedd Wrecsam, Môn, Eryri neu Geredigion fel lleoliad eich drama nesaf.