Selebs/4C




Blwyddyn Newydd Dda un ac oll, ac ymddiheuriadau i Roger Williams, awdur Gwaith Cartref am ei ailfedyddio’n Owen yn llith olaf 2011. Dyna un o’m haddunedau eleni - canolbwyntio ar gael cyfenwau’n gywir, a bod ychydig yn fwy goddefgar tuag at gynnyrch Cymraeg mewn cyfnod o gyni a newid mawr dan law Prif Weithredwr newydd Parc Tŷ Glas. Berig y bydda’ i wedi torri’r ail adduned yn rhacs jibidêrs erbyn diwedd yr erthygl…

Mi ddiflannodd y ’Dolig cyn gyflymed â phapur lapio presanta’r plant yn nhŷ fy chwaer y bore hwnnw. Ac am y tro cyntaf ers cantoedd, gwyliais Dechrau Canu Dechrau Canmol er mwyn cael profiad amgenach o’r ŵyl na gorfwyta a gorbopeth arall. Hynny a’r ffaith fod y rhaglen noswyl Nadolig yn cael ei darlledu dan olau cannwyll hyfryd o Eglwys Sant Grwst ym mro fy mebyd. Ond, a minnau’n disgwyl lleisiau a wynebau lleol, synnais o weld y gyfres hanner canrif oed yn rhoi cymaint o lwyfan i ferched yr hen orllewin Morgannwg - Siân Phillips ac Elin Manahan Thomas. Dyna chi slap a snobyddiaeth i lefarwyr ac unawdwyr tan gamp Dyffryn Conwy. Parhaodd obsesiwn S4C gyda rhaglenni “arbennig” gan rai o gyn-sêr cyfresi talent Lloegr. Dwi ddim yn amau doniau hogia OMA, Rhydian na Mark Evans am eiliad, ond gormod o bwdin a chomisiynau oedd hi ganddyn nhw yn 2011. Ar y llaw arall, cefais flas (bwm! bwm!) ar Dudley: Pryd o Sêr lle’r oedd rhagor o’r ‘selebs’ felltith - ac Eleanor Burnham - yn coginio dros achos da. Er gwaethaf strancio Rhodri Ogwen a Miss Cymru, roedd pawb yn cyd-dynnu’n rhyfeddol o dda yng ngwres y gegin. Chewch chi mo’r camera’n closio at ddagrau dros ben llestri mewn cyfres realaeth Gymraeg fel rhai Eingl-Americanaidd. Tydi byd y cyfryngau Cymraeg mor losgachol o fach i rywun ffraeo fel ci a chath siŵr iawn?

Un o uchafbwyntiau personol yr ŵyl oedd Orig, rhaglen deyrnged hyfryd i’r reslar diwylliedig o Ysbyty Ifan. Cawsom lu o hanesion difyr am reolwr-chwaraewr Nantlle Vale (“lladdwch nhw!”), un o ffans pennaf Cynan, a sut y cafodd ei enwi’n El Bandito gerbron tyrfa fawr o Fecsicaniaid ym Madison Square Gardens Efrog Newydd oherwydd ei fwstas enwog. Ac fe glosiodd y camera’n aml at wyneb dagreuol cyflwynydd a chynhyrchydd y rhaglen, Tara Bethan, wrth i’r hanesion a’r hiraeth am ei thad lifo. Byddai dôs o Gymreictod angerddol y diweddar Orig Williams yn hwb enfawr i Gynulliad gwantan Bae Caerdydd a’n chwaraewyr rygbi a phêl-droed simsan eu hanthem.

Siomedig braidd oedd ffilm ‘fawr’ Burton: Y Gyfrinach? a seiliwyd ar ddiwrnod tyngedfennol ym mywyd Richard Burton (Richard Harrington) a’i frawd Ifor (Dafydd Hywel) ym 1968, yng nghartre’r actor alltud ar lan llyn Genefa. Iawn, roedd yna hen ddigon o greu awyrgylch myglyd arbennig a gwaith camera trawiadol, ond erbyn y chweched olygfa lanw o gae o yd neu wydraid o wisgi, roeddwn i’n dechrau pendwmpian. Yn wir, llwyddodd y rhaglen ddogfen Richard a Burton a ddarlledwyd noson cyn y ffilm - amseru gwael iawn os bu erioed - i ddatgelu tipyn o gefndir y ffilm mewn cwta hanner awr ddifyr.