Be' sy'n drewi?

Gwyneth, Gwyneth, Gwyneth. Beth gythraul ddigwyddodd i Lisbeth Salander Cwmderi, a fu’n bwlio Dai Sgaffalde a dychryn Anti Marian gyda’i pharlwr tatŵs a’i beicars mawr blewog ers talwm? Yr unig gyffro yn ei bywyd heddiw ydi gwrando ar swnian carwriaethol Sheryl, gwylio fideos Tecwyn y Tractor hefo Gwern bach, lladd Brandon a rhoi indian head massage i Gwynfor a Madge. Woooooow!! Dal sownd am eiliad. Lladd Brandon?! Ie, wedi misoedd o amau Garry Monk, Dani a Brandi, mae storïwyr Pobol y Cwm wedi penderfynu mai Gwyneth losgodd fflat y siop sglods – a Brandon druan – yn golsyn. Hyn er gwaetha’r ffaith iddi fyw gyda’i chydwybod a gwenu’n ddel ar Britt Monk am fisoedd, a gadael i’w gwraig Yvonne bydru yn Cell Block H drosti. Do, cafodd llawer eu syfrdanu gan gyfaddefiad mawr wythnos diwethaf. Yn anffodus, mae’r trobwynt yn drewi o straeon anghredadwy, allan o gymeriad, Eastenders, ac mewn perygl o brofi amynedd ffyddloniaid y Cwm i’r eithaf. ’Sdim dwywaith y bydd Llinor ap Gwynedd yn actio o’i gorau, ond mi fydd hi’n dipyn o gamp disgwyl i ni gydymdeimlo â Gwyneth Jones y llofrudd yng nghanol brwydr arall yn erbyn canser.

Mi dagais ar fy swper nos Iau diwethaf o glywed Ifor ap Glyn yn dweud rhywbeth am “sianel garthu”. Nid cyfrannu ar Sam ar y Sgrîn oedd o, ond cyfeirio at doiledau cynnar y Rhufeiniaid yng nghyfres ddogfen newydd Tai Bach y Byd. Cyfeirio’n orfanwl ar brydiau hefyd, wrth i’r Prifardd ddisgrifio a dynwared arferion lle chwech drwy’r oesau, o bobl yn gwneud nymbar tŵ drwy dyllau uchel ym muriau castell Conwy (yn yr oesoedd canol, nid heddiw – gobeithio!) i fyddigions Dinbych y Pysgod yn defnyddio gwlân defaid i sychu eu pen olau yn oes y Tuduriaid. Ond yng nghanol obsesiwn od y cyflwynydd, roedd ambell ffaith ddiddorol a chwbl newydd o fyd hanes - fel Drewdod Mawr Llundain 1858, canlyniad blynyddoedd o ollwng carthion dynol i’r afon Tafwys, a olygai fod Aelodau Seneddol yn gorfod siarad drwy hancesi sent yn San Steffan. Mae’n dal i ddrewi heddiw, diolch i Jeremy Hunt a’i debyg. Dyma gynhyrchiad gwahanol ar y naw gan Gwmni Da sydd wedi creu fersiwn Saesneg The Toilet: An Unspoken History ar gyfer BBC Four. Anodd ei stumogi? S4C yn mynd ’lawr y pan? Penderfynwch chi. Bechod bod nifer wedi troi eu trwynau ar y gyfres oherwydd y testun toiledol. Mi rof gynnig ar y dair rhaglen arall, gan sicrhau na fydda i’n swpera adeg ymweliad ap Glyn â Bangladesh…

Sôn am gydgynhyrchiadau, beth am ddrama o safon ryngwladol rhwng S4C a’r BBC? Mae gen i chwilen yn fy mhen ers oes. Mae’r olygfa’n agor un noson oer o Ebrill, pan fo goleuadau Pont Hafren yn diffodd am hanner munud. Pan ddaw’r trydan yn ôl, mae bosys y bont yn dychryn o weld corff wedi’i adael union hanner ffordd ar ffin Cymru a Lloegr. A dyna ddechrau ymchwiliad rhwng heddluoedd dwy wlad i farwolaethau erchyll gwleidydd a phutain. Damia bod y Daniaid a’r Swediaid wedi achub y blaen gyda Bron/Broen, neu The Bridge, chwip o ddrama ddirgel arall yn slot lladdfa Llychlyn BBC Four bob nos Sadwrn.