Cymru a'r Byd

Mi fuasai’r byd celfyddydol Cymreig dipyn tlotach heb S4C. Pa wasanaeth arall, boed y cyfryngau neu’r wasg brint, sy’n rhoi cymaint o sylw i’r holl gythrel cystadlu a chyngherddau’r wlad fach amryddawn hon? Gormod o sylw ym marn rhai efallai, fel y darllediad hirfaith o’r opera Trioleg Mandela o Ganolfan y Mileniwm Caerdydd yn ddiweddar. Ac mi fuasai Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn angof i lawer hefyd heb ddarllediadau bob pnawn ac uchafbwyntiau nosweithiol S4C. Rŵan, dyma gyfaddefiad. Dwi erioed wedi tywyllu’r pafiliwn gwyn ar lan afon Ddyfrdwy. Efallai mai’r ddelwedd Seisnig braidd sydd ar fai (a toedd y Queen’s Diamond Jubilee Concert eleni ddim help), a’r cof o weld blwmin corau siop barbwr ar y bocs bob amser. Ond gan nad oedd hi’n dywydd barbeciw, fe wyliais i fwy nag erioed o arlwy Llangollen/12 dan arweiniad ’tebol Mrs Pethe Cymru, Nia Roberts. A’r perfformiad sy’n aros yn y cof – am resymau da y tro hwn – yw’r chwarter awr o ddawnsio gwerin olympaidd gan blant Meskheti, Georgia, a deithiodd ar fws am wythnos gyfan i gyrraedd yr Eisteddfod. Tipyn o ymroddiad a thestun cywilydd i gystadleuwyr y Gogledd fydd yn aros adra ym mis Awst am fod Bro Morgannwg yn “rhy bell”. Da chi, trowch i wefan ragorol llangollen.tv sy’n dangos holl liw a llun y llwyfan am fis arall, ac adnodd gwych i’w ffrindiau a’u teuluoedd o Georgia i’r India, Swaziland i Singapôr. Mae’n amlwg yn cael ei defnyddio, yn ôl yr ymateb o bedwar ban ar negesfwrdd y wefan. Wyneb newydd (haleliwia!) i’r criw cyflwyno eleni oedd Wyn ‘Only Men Aloud’ Davies, a gyfrannodd i’r rhaglenni Cymraeg a’r ddwy raglen gefn-gefn Saesneg ar BBC2 gyda Sara Edwards. Dim ond BBC2 Cymru-Wales, cofiwch. Tra bod gwyliau o! mor drendi Caeredin a’r Gelli Gandryll yn cael tomen o sylw gan BBC Prydain, Sky Arts a phapurau Llundain, mae Llangollen mor annelwig â’r haul. Hyn er gwaetha’r ffaith i’r gantores soprano enwog o Swydd Efrog, Lesley Garrett, gyfeirio ati fel yr ŵyl orau yn y byd mewn cyfweliad gyda Nia Roberts. Dewch ’laen Rondo, Mr Producer, S4C – hyrwyddwch Llangollen a’r wefan ledled y byd!



Roedd dawnswyr gwerin o’r Wcráin wrthi hefyd, a’r wlad honno oedd testun rhaglen ddogfen hynod ddiddorol a thrist ar BBC Four wythnos diwethaf. Roedd Storyville: Hitler, Stalin and Mr Jones yn adrodd hanes Gareth Jones, newyddiadurwr o’r Barri a fentrodd ei fywyd a’i yrfa trwy gyhoeddi’r gwirionedd y tu ôl i Gynllun Pum Mlynedd Stalin o ddiwydiannu’r wlad yn nhridegau’r ganrif ddiwethaf - a’r newyn erchyll yn yr Wcráin, wrth i’r ffermydd cyfunol fynd i’r gwellt a’r milwyr yn cipio pob taten a gronyn o rawn i borthi Moscow. Gyda chymorth archifwyr Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth, cawsom gip ar ddyddiadur Gareth Jones a’i ymateb rhyfeddol i Hitler (“looks like a middle aged grocer”) a Goebbels (“…very charming man, dark brown eyes, like a south Welsh miner…”) wrth gyd-deithio mewn awyren o Ferlin i Frankfurt cyn yr Ail Ryfel Byd. Stori sy’n deilwng o ffilm ysbïwr ei naws, a phluen yn het cwmni cynhyrchu Tinopolis o Lanelli.