Dim Steddfod Susnag



Wel, dyma fi adre’n dlotach ond yn hapusach a chochach diolch i groeso gwresog y Fro. ’Nôl i realiti rŵan gyda nofel fuddugol Robat Gruffudd yn gydymaith ar uffern cymudo Non-Arriva. Ac i’r rheiny sy’n hiraethu’n barod am orji flynyddol y Pethe, mae ’na bedair awr o uchafbwyntiau ar S4C nos Sadwrn yma. Nos Sul wedyn, mae Noson Caryl o’r Steddfod yn saff o blesio, gyda chymysgedd o glasuron pop a sgetshis gyda chymeriadau newydd gwuuuuuuuuuch sy’n tynnu blewyn o drwyn Cymry Cymraeg yr unfed ganrif ar hugain. Dyna’r agosa’ gawn ni i ddychan iach yn absenoldeb rhaglenni Swigs yn oes aur yr 1980au a’r 90au cynnar. 

Wn i ddim sut cafodd CPJ gyfle i fynd i’r lle chwech wythnos diwethaf, rhwng cyflwyno’r rhaglen radio foreol o’r maes carafanau gyda Daf Du, gwibio i soffa’r BBC er mwyn cyflwyno p’nawniau o gystadlu ar y bocs, a chwyrlïo megis Wonderwoman i’w gwisg wen cyn canu fersiwn gospel o Weddi’r Orsedd yn y Popty Pinc. Cefais fwy o flas ar raglenni radio nosweithiol Tocyn Wythnos yng nghwmni’r ’tebol a’r profiadol Beti George a’i gwesteion niferus. Yn rhaglen ola’r nos Sadwrn olaf, clywyd Elfed y Prif Weithredwr yn celpio Radio Wales am “anwybyddu’r Steddfod yn llwyr fwy neu lai”. Dim ond awr o uchafbwyntiau nos Sul diwethaf gyda Nicola Heywood Thomas welais i ar wefan yr orsaf honno. Roedd rhaglenni penodol o Fro Morgannwg yn absennol ar y drydedd sianel hefyd - a na, tydi pytiau pum munud ar fwletinau newyddion na rhagolygon y tywydd o’r Maes ddim yn cyfri. Ddegawd yn ôl, roedd gan yr hen HTV bedair rhaglen arbennig The Visit o Brifwyl Tyddewi gyda Chris Segar, cyflwynydd The Ferret. A phwy benderfynodd bod BBC Wales yn darlledu pum rhaglen o Lanelwedd eleni, a chwta hanner awr o Landŵ? Hyn er gwaetha’r ffaith fod oriau dirifedi o dapiau llun a sain ar gael ar blât gan y Gorfforaeth Ddarlledu. Serch hynny, roedd Eisteddfod 2012 with Cerys Matthews ar rwydwaith BBC2 yn grynodeb bywiog a lliwgar o’r ŵyl ddieithr hon i weddill Prydain, gyda chymorth y Prifardd Gwyneth Lewis, Twm Morus, Elinor Bennett, Al Lewis ac Wynne Go Compare Evans.

Waeth i ni heb â beio Gêmau Llundain. Mae’r dirywiad gwarthus hwn ar waith ers blynyddoedd. Rhyfedd clywed y Gweinidog y Gymraeg ar y Post Cyntaf yn galw ar y Brifwyl i “foderneiddio” a gwneud mwy i “groesawu pobl ddi-gymraeg”, tra bo’r wasg a’r cyfryngau Saesneg yng Nghymru yn gynyddol ddall iddi. Unwaith eto, mae rhywun yn rhyw deimlo mai ni’r Cymry Cymraeg sy’n gorfod ildio, plesio, cyfaddawdu a gwneud popeth yn ddwyieithog - cyn belled mai’r Saesneg sy’n gyntaf wrth gwrs.