Hydref Homeland

Mae gŵyl y banc olaf ond un eleni wedi mynd. Sy’n golygu un peth. Naci, nid y ffaith y bydd yr archfarchnadoedd yn llawn tinsel cyn hir - a’n gwaredo - ond bod fy hoff dymor yn prysur nesáu. Ie, tymor yr hydref a’i liwiau bendigedig, tymor troi’r clociau a thymor teledu da! Mae’r sianeli wedi hen hybu eu fersiynau nhw o wledd y Cynhaeaf. Y Bîb i gychwyn, gyda hysbysebion sy’n dal i fanteisio ar orfoledd y Jiwiblympics (“Original British Drama” a “Made in Britain”) heb anthem Mrs Windsor. Chwarae teg i’r Gorfforaeth Brydeinig, mae’n arlwy go flasus ar yr olwg gyntaf gyda llond trol o sêr rhyngwladol fel Melissa George, Gillian Anderson ac Elisabeth Moss yn serennu ochr yn ochr â’r Brits. Un o’r uchafbwyntiau, a ddarlledwyd nos Sul diwethaf ar BBC2, oedd Murder, drama unigol am ddwy chwaer yng nghanol dirgelwch y llofruddiaeth yn ninas Nottingham. Gydag un o’m hoff actorion Cymreig, Robert Pugh - dysgwr cariad@iaith ddechrau’r haf - yn chwarae rhan Ditectif Arolygydd, a Birger Larsen un o frêns cyfres Killing o Ddenmarc yn cyfarwyddo, roedd yn ddechrau da iawn i dymor dramâu o safon. Dwi’n siŵr y bydd BBC Cymru-Wales yn llawn broliant am gyfresi newydd Doctor Who ac anturiaethau ffug-Arthuraidd Merlin ym mis Medi, ond unwaith eto, mae’n uffernol o siomedig nad ydi stiwdios Porth y Rhath yn cynhyrchu drama Saesneg am y Gymru fodern yn lle cogio bod yn Holby City neu blaned Zog.

Dwi’n rhywfaint o snob dramâu’r drydedd sianel, sy’n fwy tabloid eu naws ac yn cynnwys Martin Clunes neu gyn-actor ‘Corrie’ yn y brif ran. Heb os, bydd Downton Abbey yn llwyddo i blesio’r ffyddloniaid a gwylltio’r haneswyr fel ei gilydd, ond The Scapegoat sydd wedi denu’n sylw i. Mewn addasiad teledu o nofel dywyll Daphne du Maurier, mae Matthew Rhys yn chwarae rhan dau ddyn tebyg o ran pryd a gwedd sy’n ffeirio’u bywydau yn Lloegr 1952. Pluen arall yn het yr actor o Gaerdydd, yn ogystal â’r ffaith iddo ennill y brif ran mewn drama ias a chyffro newydd The Americans am ysbïwr KGB yn America’r ’80au, ond mae’n hen bryd iddo actio mewn drama Gymraeg unwaith eto.

“Rhywbeth newydd i bawb yr hydref hwn” ydi addewid Cyhoeddwr S4C i gyfeiliant cân bop Gymraeg arall (“Ar ôl heddi” gan Fflur Dafydd) mewn hysbyseb sy’n cynnwys clipiau o’r hen fel Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, rygbi, cystadleuaeth Fferm Ffactor a’r newydd fel ail gyfres o’r ddrama Alys a gornest goginio gyda Heledd Cynwal. Ac ambell gêm rygbi. Mae ’na gryn edrych ymlaen at ddiwrnod pen-blwydd y Sianel ar Dachwedd y cyntaf, ac er bod yna raglen arbennig o atgofion a hoff glipiau’r gwylwyr i ddod, dwi’n gobeithio y bydd Ein Sianel yn gwneud tipyn mwy o sbloets na hynny. Wedi llanast Iona a’i chrônis, bygythiadau Jeremy Hunt a’r briodas orfodol ansicr â’r BBC, mae’n wyrth ein bod ni yma o hyd i ddathlu’r deg ar hugain.

PIGION Y TYMOR
  • Good Cop BBC1 / 9pm / Nos Iau 30 Awst - Warren Brown ydi Sav, heddwas o Lerpwl â'i fyd yn troi ben i lawr ar ôl gweld ymosodiad ciaidd ar ei gydblisman.
  •  
  • Shetland, BBC1 - Addasiad teledu o nofelau Ann Cleeves (awdures llyfrau Vera a welwyd ar ITV yn ddiweddar), gyda Douglas Henshall yn chwarae rhan y Ditectif Jimmy Perez sy'n ceisio cadw trefn ar un o ynysoedd gwaedlyd yr Alban. Ia, dyna chi. Shetland.
  •  
  • Ripper Street, BBC1 - Drama wedi'i gosod mewn swyddfa'r heddlu yn East End Llundain ym 1889 adeg helfa Jack the Ripper. Peidiwch â chael eich arswydo gan y ffaith fod un o aelodau Robson & Jerome yn aelod blaenllaw o'r cast.
  •  
  • Homeland, Channel 4 - Hwn di'r boi! Croeso mawr yn ôl i'r llwyddiant ysgubol Americanaidd, gyda chariad-a-chwarae'n troi'n chwerw rhwng Damian Lewis a Clare Danes yng nghanol paranoia ôl-911.