I hudolus wlad Iolo*

Diolch byth am wythnos ’Steddfod. Er ’mod i’n wyliwr brwd o’r cystadlaethau nofio, beicio ac athletau ar y teledu fin nos, mae’r geiriau Team GB, lluniau camera cyson o Wil a Cêt a Cameron mewn perlewyg, ac anthem Mrs Windsor braidd yn flinderus bellach. O leia’ gawn ni ddweud ta-ta wrth y tîm pêl-droed dadleuol (“England” medd Jake Humphrey, sylwebydd chwaraeon y Bîb), a charthu’r holl jacs yr undeb o Stadiwm y Mileniwm. Carfan Cymru a ‘Hen Wlad fy Nhadau’ piau hi ar S4C, a braf cael dianc i ddarllediadau cynhwysfawr o’r Brifwyl o ddeg y bore tan hanner nos.

Bu tîm Pethe yn brysur gyda’u rhaglenni rhagflas o fro’r Eisteddfod eleni, sydd - fel y clywsom hyd syrffed gan gyflwynwyr radio a theledu - yn “ddieithr iawn” i weddill y wlad. Yn ogystal ag ambell gyfryngi ac Aelod Cynulliad, Gwynfor a Gavin & Stacey, dyma gynefin Iolo Morgannwg. Yr Archdderwydd presennol oedd y dewis mwyaf naturiol i gyflwyno rhaglen deyrnged ddifyr am ffugiwr o fri a thad Gorsedd y Beirdd. Roedd Jim Parc Nest yn amlwg wedi cael hwyl wrth ddilyn ôl troed Iolo yn ei het a’i ffon gerdded, yn union fel lluniau’r cyfnod ohono. A chyda gwên ddireidus, awgrymodd y dylai yntau hefyd gymryd dos o’r cyffur opiwm i “drin asthma”. Mae ’na destun ffilm ryfeddol yn fa’ma - y saer maen o Lancarfan a greodd argraff ar Lundain fawr, brolio traddodiad barddol y Cymry yn ôl i oes y Derwyddon, a chodi gwrychyn y Sefydliad trwy gynnal cyfarfod cyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ar Fryn y Briallu ym 1792. Gan yr Athro Geraint H Jenkins y cawsom hanes fwyaf diddorol y rhaglen, sef Iolo’r arloeswr a agorodd siop lyfrau a nwyddau masnach deg yn y Bont-faen ym 1795. Gwrthododd werthu siwgr o’r Caribî oherwydd y defnydd o gaethfasnach yno, protest poenus o agos at ei galon gan i’w dri brawd elwa ar gaethweision ar ôl ymfudo i Jamaica. Ydy, mae’n chwip o stori. Ydy Rhys Ifans ar gael i chwarae’r brif ran? Neu actor o Forgannwg efallai, o gofio pa mor ddrwgdybus oedd Iolo o’r bali Gogs.

Gog ac un o ferched mabwysiedig y Fro, Nia Roberts, gyflwynodd ail raglen Pethe yng nghwmni rhai o drigolion 2012. Difyr clywed Islwyn Jones, bardd y Cywydd Croeso*, yn esbonio mai ‘duw’ yw tarddiad y ‘Dŵ’ yn Llandŵ, a’r brodyr Whelan o Sain Hilari yn creu cerddoriaeth i ddisgyblion lleol, bandiau Cymraeg a ffilmiau Bollywood gerllaw eu tŷ crwn Celtaidd. Mae’n siŵr y bydd llawer ohonom yn dringo i grombil corff awyren sydd wedi nythu ar y Maes. Cawsom rywfaint o gefndir prosiect ‘Adain/Avion’ gan Rhun ap Iorwerth a’r artist a’r capten Marc Rees. Beio’r opiwm fyddai Iolo o weld cylch yr orsedd plastig a chragen Jymbo Jet yng nghysgod y Pafiliwn Pinc eleni.