Mabolgiamocs

 
Daliwch eich gwynt. Mae wedi cyrraedd. Nos fory, bydd llygaid y byd ar Brifddinas y Byd, chwadal yr Independent. A waeth i mi gyfaddef ddim, dw i’n siŵr o gael sbec ar y seremoni agoriadol dan law’r cyfarwyddwr ffilmiau Danny Boyle gan ’mod i wastad wedi dilyn rhai cofiadwy’r gorffennol o Barcelona 1992 i Sydney 2000. Gobeithio na fydd unrhyw gamgymeriadau anffodus fel Gêmau 1988, pan drodd pair y fflam yn farbeciw wrth i haid o golomennod heddwch glwydo’n rhy agos a chael eu llosgi’n fyw o flaen y camerâu yn Stadiwm Olympaidd Seoul. Gwyddom eisoes y bydd fideo o Only Kids Aloud yn morio Cwm Rhondda ar draeth Rhosili i’w weld yn Stadiwm Llundain, ond gobeithio y bydd yna lawer mwy na hynny. A fydd yna le i’r Ddraig Goch a’r baneri Celtaidd eraill yng nghanol banllef Britannia a logos y McNoddwyr corfforaethol?

Fel un o orsafoedd “Darlledwr Swyddogol y Gêmau”, mae Radio Cymru wedi rhoi mwy na’i siâr o sylw i’r cyfan gan gynnwys Cymry’r Gemau Olympaidd. Na, nid rhaglen ddogfen yn olrhain gobeithion athletwyr fel triathletwraig Helen Jenkins o Ben-y-bont a Gareth Evans, codwr pwysau o Gaergybi - heb anghofio Dai o Lanelli wrth gwrs - ond rhai o’r 70,000 o wirfoddolwyr sy’n helpu i sicrhau bod y cyfan yn rhedeg fel watsh (dim diolch i gwmni diogelwch G4S). Os oes gennych chi docyn, “siaradwch yn Gymraeg yn gynta” ydi cyngor y cyflwynydd John Hardy. Yn y rhaglen hon, clywsom gyfweliad gyda thri o’r Cymry Cymraeg hynny sydd reit yn ei chanol hi gan gynnwys Rhian Jones o Gaerffili sy’n gwirfoddoli gyda’r marchogion yn Greenwich Park a’r trydanwr Ioan Owen sy’n ceisio sicrhau bod pob switsh yn ei le. Dim pwysau fan’na felly. A’r trydydd gweithiwr oedd ei fab Geraint Hardy, cyflwynydd Stwnsh a Gemau Cymru Urdd 2012, dolen gyswllt rhwng y campau a’r cyhoedd fel aelod o dîm sylwebu’r cystadlaethau cleddyfa - neu ddawnswyr bale mewn ffoil yn chwarae efo cleddyfau. Soniodd am ei brofiadau fel cyflwynydd cyngherddau taith y fflam ledled Cymru a gogledd Lloegr yn ddiweddar, a’r “gobaith” a’r “parti mawr” a brofodd ar lawr gwlad. Swnio fel sgript PR London 2012 i mi.

Go brin y caiff Rhys Hartley swydd ganddyn nhw dros yr haf, wrth amau gwerth y Gêmau i Gymru ar Hacio wythnos diwethaf. Roedd ar gefn ei geffyl go iawn, gan ddiawlio’r miloedd o bunnoedd a wariwyd ar osod cylchoedd Olympaidd yn ddel o flaen Neuadd y Ddinas Caerdydd, yn ffieiddio Tîm Jî-Bî a’r ffaith fod y trefnwyr wedi creu mynydd g’neud yn Essex yn hytrach na dod â’r cystadlaethau beicio i’r Bannau neu Eryri.
Mi fuasai Siôn White Pobol y Cwm yn browd iawn iawn ohono.