Perl pum munud

Dwi ar ei hôl hi braidd yn ddiweddar. O fisoedd hynny yw, nid wythnos yn hwyrach fel Eisteddfod yr Urdd a Wimbledon eleni, diolch i sbri soeglyd Mrs Windsor. Digwydd troi at wefan ffigurau gwylio’r Sianel wnes i, a sylwi ar gyfres sy’n rhan o’r Deg Uchaf yn gyson. Wrth gwrs, ddylwn i ddim ymddiried gormod yn y ffigurau hyn. Wedi’r cwbl, faint ohonom sydd â blychau monitro electronig yn ein setiau teledu sy’n anfon gwybodaeth i Fwrdd Ymchwil Cynulleidfa’r Darlledwyr (BARB)? Er hynny, mae’r sampl gynrychioliadol yn rhoi rhyw frasamcan inni o beth sy’n plesio a beth sydd mor boblogaidd â chyfraniad Mark Lawrenson i dîm Ewro 2012 y BBC.

Mae’r canlyniadau diweddaraf, sef yr wythnos ddaeth i ben ar 27 Mai, yn dangos mai cyfuniad o sebon a chwaraeon sy’n taro tant. Sylw’r Clwb Rygbi i fuddugoliaeth fawr y Gweilch yn erbyn gŵyr Leinster oedd ar y brig (102,000) yna penodau nosweithiol o Pobol y Cwm (74,000 ar y mwyaf) o rif 2 i 6 – sy’n anarferol o siomedig, gan fod castiau Cwmderi fel arfer yn denu 90,000 a mwy ar gyfartaledd. Naill ai bod hi’n noson hafaidd braf, sgersli bilîf, neu’n wythnos wan o ran straeon. Darllediad byw ac egsliwsif Sgorio o’r ornest rhwng Cymru a Mecsico oedd yn rhif 7, ac ymddangosiad prin gan raglen Newyddion yn rhif 8. Mwy o sebon gyda chriw Rownd a Rownd oedd yn rhif 10, ond safle rhif 9 yr wythnos honno oedd o ddiddordeb i mi - Calon gyda 33,000 o ffyddloniaid.

Ydy, mae’r gyfres arbennig hon ymlaen bum noson yr wythnos ers mis Mawrth, a’r unig elfen o’r amserlen “newydd” sy’n dal mewn grym, tra bod popeth arall wedi cael y fflych - o Heno Rhodri Ogwen gydag adolygiadau o’r Sun, i ailddarlledu honno a Pobol y Cwm wedi deg yr hwyr. A chyn wythnos diwethaf, doeddwn i heb wylio’r un o’r ffilmiau pum munud sy’n pontio Dewi Llwyd a Dai Sgaffalde. O’r diwedd felly, dyma gael sbec arnyn nhw i weld beth yw’r holl ffỳs. Roedd rhifyn nos Lun a nos Fercher yn ddim byd mwy na fideos cyhoeddusrwydd, y naill (‘Y Gwarchodwyr’) yn dilyn warden yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn archwilio llwybrau gogledd Eryri; a’r llall (‘Dydd y Farchnad’) yn gyfres o olygfeydd o farchnad dan do enwog Abertawe. Nos Iau, cawsom egin hanes diddorol Dafydd Rawson Thomas ‘Y Printar’ a fu’n rhan o fwrlwm diwydiant argraffu Caernarfon am hanner canrif, a phortread hunanfodlon braidd o fwyty llwyddiannus ‘Alex’ o Hirwaun ar y nos Wener.

Ond yr orau o bell ffordd oedd ‘Lapis Lazuli’ nos Fawrth, gyda Sara Huws o Amgueddfa Werin Sain Ffagan yn esbonio cefndir y glas trawiadol ar gerflun y Forwyn Fair, a’r pigment hynod werthfawr o’r lliw hwnnw a fewnforiwyd o Afghanistan er mwyn addurno eglwysi fel Teilo Sant, Pontarddulais, yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Roedd yna fwy o ôl meddwl i’r ffilm fer addysgiadol a diddorol hon, gyda dechrau canol a diwedd go iawn. Perl pum munud yn wir.