Sioe a hanner



Oedd, mi roedd hi’n dipyn o sioe. Un tipyn gwell na’r disgwyl hefyd, er bod hen sinig blin fel fi yn barod i wfftio pasiant Prydeinig Boyle - neu “gân actol yr Urdd efo chequebook mwy” meddai Tudur Owen ar ei sioe radio bnawn Sadwrn. Ond o! roedd yna eiliadau hyfryd fel creu’r cylchoedd Olympaidd o bair y Chwyldro Diwydiannol a’r deyrnged dawel i feirwon y ddau ryfel byd ac ymosodiadau terfysgol Llundain. Roedd gwylio ochr yn ochr â darllen sylwadau’r trydarwyr ar y gliniadur yn ychwanegu at hwyl ac awyrgylch y cyfan, gyda’r mwyafrif wedi’u siomi ar yr ochr orau yn enwedig yr elfennau o hiwmor Mr Bean, James Bond a’r frenhines. Eraill yn holi a fu’r cyfarwyddwr ar y mwg drwg pan ’sgwennodd sgript go boncyrs ar brydiau, a oedd yn siŵr o beri penbleth i wylwyr tramor. Ac er mor wych oedd fersiwn creu-croen-gŵydd Only Kids Aloud o Gwm Rhondda, pam o pham na wnaethon nhw ganu o leiaf pennill o eiriau Ann Griffiths er mwyn dangos i weddill y byd nad Saesneg ydi unig iaith yr ynysoedd hyn.

Fe gawson ni sioe fythgofiadwy yn Llanelwedd hefyd, rhwng y tywydd teg a darllediadau cynhwysfawr, uchel eu clod, S4C. Ac unwaith eto, roedd twitter yn boeth wrth ymateb i flows agored Shân Cothi. Does ryfedd fod Dai Llanilar yn goch fel tomatos Medwyn Williams, fel rhai o’r stocmyn buddugol hefyd wrth i Meinir Ffermio roi clamp o gwtsh a chusan iddyn nhw. Roedd Royal Welsh 2012 (Telesgôp) ar y llaw arall, yn syber o sidêt wrth gyflwyno pum rhaglen uchafbwyntiau ar BBC2. Tra bo cyflwynwyr niferus S4C yn fwy werinol, agos-atoch ac yn debycach o fynd i’r syth i’r Stockmans am laeth mwnci wedi i’r gwaith ffilmio ddod i ben, roedd Sara Edwards, Rhys Jones a Rachael Garside fel petaen nhw’n apelio at y ffarmwrs bonedd Seisnig a gwylwyr y dref a’r ddinas. Rheswm arall dros ddyfarnu’r rhuban coch i Sioe/12 oedd yr ailddarllediadau nosweithiol a roddodd gyfle arall i’r cynaeafwyr prysur wylio ar ôl unarddeg yr hwyr. Sôn am fyrnau bach a mawr, dwi’n dal ddim yn siŵr beth oedd pwrpas slot ‘Pawb a’i Wair’ Aeron Pugh chwaith…

Dwi ddim yn berffaith sicr ’mod i wedi dallt neu lwyr werthfawrogi hiwmor Sbariwns (Wês Glei) chwaith. Cyfres sgetshis o gynnyrch fferm greadigol Cwmni Garn Fach, Ceredigion oedd y broliant, gyda’r gwaith sgriptio, actio, ffilmio a golygu dan law Rhodri ap Hywel, Hedd ap Hywel, Meleri Williams gyda chymorth Pero. Do, mi chwarddais ar giamocs Uned 246 Heddlu Gwledig yn ceisio cadw’r heddwch ymhlith wiwerod meddw a chwrso cŵn defaid mewn pic-yp, ond doeddwn i ddim balchach o’r rapwyr nac anturiaethau’r uwch-arwr Al Kathene. Yn wir, un o’r uchafbwyntiau oedd darllen y diolchiadau ar y diwedd “…i’r archfarchnadoedd am eu gweledigaeth fasnachol, i’r bancwyr am eu gofal ariannol a’r gwleidyddion am gadw ni gyd gyda’n gilydd”. Hiwmor Dim Byd-aidd am hatgoffodd pa mor dda oedd y gyfres honno.