Pwy sy'n tramgwyddo?

Rhyfedd fel mae rhaglenni teledu a digwyddiadau’r dydd yn cyd-daro, drwy lwc neu anffawd amserlennu. Cafodd pennod olaf o’r ddrama Good Cop ei gohirio ar ôl i’r ddwy blismones ym Manceinion ymateb i’w galwad olaf trist. Ac er bod rhywun yn deall y penderfyniad i ganslo’r darllediad ar un ystyr, efallai fod y Bîb a darlledwyr yn gyffredinol yn rhy ofnus a sensitif i ddigwyddiadau o’r fath, a ddim yn parchu’r gwylwyr i wahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen.

Dychwelodd 999: Y Glas (9pm nos Iau) am ail gyfres, gyda darlun pry-ar-y-wal o griw cyfraith a threfn Abertawe a’r cylch. Cyfres sy’n profi bod angen cryn dipyn o hiwmor, amynedd Job yn ogystal â dewrder i fod yn heddwas. Roedd hanner awr o’r rhaglen hon yn ddigon i wneud i chi anobeithio’n lân dros eich cyd-ddyn dan ddylanwad alcohol a chyffuriau - o’r llanc ifanc oedd ar blaned arall yn sgil gorddos o fethadon neu ‘miaw miaw’ ar lafar gwlad rhemp (“absoliwtli insane” medd Cwnstabl Justyn Knight), i’r rhieni chwildrins yn eu gwelyau ganol p’nawn tra’r oedd eu plant bach yn crwydro strydoedd Treforys. Tu ôl i’w ymddangosiad tawel a phwyllog, roedd Cwnstabl Steffan Jones yn amlwg yn gandryll gyda’r rhieni am esgeuluso’r rhai bach, a dywedodd ei fod yn ysu i fynd adref i roi cwtsh i’w blant ei hun ar ddiwedd shifft. Maen nhw’n ddynol tu ôl i’r ddelwedd galed wedi’r cwbl. Cawsom ‘flas’ ar nos Sadwrn yng Nghastell-nedd hefyd, a’r shifft After Dark sydd weithiau’n dawel, dro arall yn golygu noswaith gyfan o waith mewn deg munud.

 
 
Mae’n gyfres ddiddorol ac yn dipyn o agoriad llygad. Ond fe agorodd fy llygaid fel soseri o glywed rhai o dramgwyddau ieithyddol Rachel Evans, uwch-gynhyrchydd ac adroddwraig y rhaglen. Pethau poenus fel “pedwar wal” a “taith byr”. Mae’n anodd credu na sylwodd rhywun o gwmni Boomerang ar y camgymeriadau sylfaenol hyn, heb sôn am olygyddion y Sianel cyn rhoi sêl bendith â siec hael. Gobeithio nad ydi’r toriadau ariannol yn golygu cwtogi ar safonau ieithyddol hefyd.
 
 
Rhywun arall ddylai gael ei arestio ydi Tyrone Powell o Texas, un o’r 3,500 o deithwyr llong bleser ar wibdaith o borthladd Caergybi i gastell Caernarfon, “one of the most beautiful places in England”. Fo oedd un o gyfranwyr niferus A Summer in Wales (BBC One Wales, 7.30pm nosweithiau Llun a Gwener) sy’n bwrw golwg ddifyr ar ein haf tymhestlog a’i effaith ar atyniadau amrywiol o ffair dreuliedig Ynys y Barri, mulod llesg Llandudno a maes pebyll ar Benrhyn Gŵyr gwlyb domen.