CymruNoir

Mae pawb sy’n fy nabod i’n gwybod ’mod i wedi mopio ar nofelau a chyfresi ditectifs. Cyfresi o safon hynny yw, nid rhai CSIaidd o America sy’n ceisio’n dallu ni gyda mwy geriach uwchdechnoleg tri dimensiwn na ffilmiau James Bond, a ditectifs uwch-arolygydd siapus sydd newydd gamu o Venice Beach. Na, mae’n well gen i’r rhai Ewropeaidd bob amser. Gora’ po fwyaf i’r gogledd, lle mae gwynt main yr Arctig yn chwipio’r cymeriadau yn eu siwmperi gwlân Ffaroaidd, a’r felan yn rhan annatod o ddisgrifiad swydd y Polisen lleol. Mae’r e-lyfr acw’n drymlwythog o ddirgelion gwaedlyd o Reykjavik i Oslo, ac mae’r Albanwyr yn prysur gyfrannu at y genre wrth i BBC Scotland addasu straeon y Ditectif Jimmy Perez ar ynysoedd Shetland. Mi fydd nos Sadwrn 17 Tachwedd yn sanctaidd yn chez Wilias, wrth i’r drydedd gyfres - a’r olaf - o Forbrydelsen ymddangos ar BBC Four, gydag ymchwiliadau Sarah Lund i farwolaeth rhyw forwr cyffredin yn ei harwain at Brif Weinidog a llanast economaidd Denmarc. Dwi’n glafoerio’n barod.



Llamodd fy nghalon yn ddiweddar o ddeall ein bod ni’r Cymry am ymuno â’r rhengoedd hyn o’r diwedd, gyda chyfres dditectif wyth pennod awr yr un wedi’i gosod yng Ngheredigion. Nid dilyniant i’r Heliwr DCI Noel Bain nac addasiad o nofelau Malcolm Pryce chwaith, ond DCI Tom Mathias (Richard Harrington) sy’n dychwelyd adref i Aberystwyth. Yn gydgynhyrchiad rhwng Fiction Factory, S4C ac All3Media International, a fersiwn cefn-gefn Saesneg Hinterland ar gyfer BBC Cymru Wales, mae’n swnio’n dipyn o fenter. Mae’n siŵr y bydd tre’r coleg ger y lli a’r Pumlumon cyfagos yn gymeriadau llawn mor bwysig, a’r ffaith fod y gyfres mewn ardal naturiol Gymraeg yn fwy credadwy i wylwyr S4C na phlisman drama yn Grangetown Caerdydd. A chyda Marc Evans (Patagonia) yn cyfarwyddo ac Ed Talfan (Caerdydd) a Gethin Scourfield (Pen Talar) yn cynhyrchu, mae’n argoeli’n dda iawn. Gwerthiant posibl i’r Llychlynwyr, tybed?
 

 

Yn naturiol ddigon, fe wrandawais yn astud ar ddrama radio ddwy ran Radio Cymru - Fflamau gan John Ogwen, am ddirgelwch llofruddiaeth Gwenno Humphreys a gafodd fwled yn ei phen. Roedd y cymeriadau’n cydio’n syth, o’r fam galed mewn cadair olwyn (Betsan Llwyd) i’r Inspector (Iestyn Garlick) a fu’n un o gyn-gariadon niferus yr ymadawedig, er bod cymeriad yr hac (Wyn Bowen Harries) yn ymylu ar fod yn gartwnaidd bron. Ac yn bwysicach fyth, roedd yr actorion yn llefaru pob gair yn glir gan ei gwneud hi’n haws i hen begor ifanc trwm ei glyw fel fi ddilyn y stori. Mae’n braf cael dramâu rheolaidd am saith nos Sul, a rhwng rhaglenni Dewi Llwyd, Beti George, Dei Tomos a rygbi Ewropeaidd yn y canol, mae Radio Cymru ymlaen o fore gwyn tan Homeland.