Nid Sianel gyffredin mohoni...



Mae’n gyfnod o gerrig milltir pwysig ar hyn o bryd. Rhai’n bwysicach na’i gilydd wrth gwrs. O hanner canrif o ffilmiau James Bond, deugain mlynedd ers i Kennedy a Krushchev fygwth difa’r ddynoliaeth dan gwmwl niwclear, a phen-blwydd y sianel Gymraeg yn ddeg ar hugain. Yn ogystal â llond trol o atgofion gan y Sianel ei hun, bu ffynonellau mwy Seisnig fel Radio Four yn talu teyrnged iddi trwy gyfrwng drama 45 munud Gwynfor v Margaret. Roedd rhifyn arbennig o Cofio gyda John Hardy ar Radio Cymru fore Sadwrn yn hyfryd o hiraethus, gyda hen gyfweliadau o’r archifau rhwng Sulwyn Thomas a Gwynfor, crynodeb gwleidyddol gan Syr Wyn Roberts a chyfle arall i glywed croeso eiconig Owen Edwards i bawb “ar aelwyd Sianel Pedwar Cymru”. Cafwyd atgofion melys gan y ddwy gyflwynwraig gyntaf, Siân Thomas a Rowena Griffiths, gyda’u hanesion nhw a’r diweddar Robin Jones yn cael eu hel i Lundain fawr i ailwampio’u dillad a’u steil gwallt, a newyddiadurwyr o bedwar ban byd yn gadael Clos Sophia ar y noson gyntaf gyda thedi Superted dan eu breichiau.

Neithiwr, bu Beti George yn dathlu trwy ailymweld ag unarddeg o Gymry ifanc sy’n rhannu’r un diwrnod pen-blwydd ag S4C yn rhaglen ddogfen Plant y Sianel. Os ydi Beti George - un o wynebau cyfarwydd rhaglenni Newyddion Saith ym mabandod S4C - wrthi, rydach chi’n saff o raglen o safon a sylwedd. Wrth iddi deithio ar drên a char o Wynedd i Went, daeth llu o gyd-ddigwyddiadau i’r amlwg, rhwng dau wedi ymuno â’r heddlu, dau yn meithrin gyrfa yn Llundain a dau arall yn hoywon hysbys bellach. Calondid mawr oedd clywed bod pob un yn Gymry brwd a balch ac yn dal i fedru’r iaith ar wahân i Dewi Samuel o Gwm Rhymni, cyn-filwr a glöwr a gyfaddefodd na chafodd flas ar siarad Cymraeg yn yr ysgol gynradd beth bynnag. Roedd rhai fel y milfeddyg Glesni Haf yn hapus braf ei byd, eraill fel Michael Taggart o Fae Colwyn wedi bod drwy’r felin yn y modd mwyaf erchyll posib ar ôl i’w lys-dad ladd ei fam - a’i fod yn dal i weld y llys-dad atgas yn lleol, ers ei ryddhau dair blynedd yn ôl. Wrth grynhoi, dywedodd Beti nad yw gwleidyddiaeth yn golygu fawr ddim iddyn nhw - trueni, oherwydd buaswn i wedi hoffi clywed eu barn ar lywodraeth ddatganoledig y Bae a’u gobeithion am ddyfodol eu gwlad yn gyffredinol. Yr eironi olaf oedd nad ydi Plant y Sianel yn trafferthu gwylio S4C heb sôn am unrhyw deledu’n gyffredinol…

Mae’r nosweithiau Sadwrn nesaf yn gyfle i fwynhau rhai o ffilmiau’r gorffennol, fel Rhosyn a Rhith a’r Milwr Bychan o 1986 - blwyddyn ffrwythlon iawn yn hanes y ffilm Gymraeg! Yn bersonol, gallen i wneud heb Hedd Wyn (1992) sydd eisoes wedi’i darlledu droeon ac yn rhan o faes llafur miloedd o ddisgyblion ail iaith ers oes pys. Go brin fod Huw Garmon a Sue Roderick yn cwyno gyda’r holl freindaliadau chwaith. Trueni na chawsom weld clasurol coll eraill fel y ffilm gomedi ffugwyddonol Canlyn Arthur (1994) am Gymry’r flwyddyn 2096 sy’n cynllwynio i gipio’r Brenin Arthur o’r canoloesoedd i’r presennol, ond sy’n bachu’r arwr rygbi Dai Arthur o’r 1960au mewn camgymeriad. Un o’r ffilmiau Cymraeg mwyaf digri’ a dyfeisgar heb ei thebyg ers hynny.