Ailgyfle i Alys


Mae’r trêlyrs wedi ymddangos ers sbel. Ar S4C, yn naturiol, ac ar ITV Wales hefyd mewn ymgais i ddenu’r di-Gymraeg. Mewn byd delfrydol â phwll diwaelod o bres, byddai hysbyseb ar dudalennau’r Guardian yn ogystal â Golwg, gan fod gohebwyr teledu a darllenwyr y papur newydd Saesneg hwnnw wedi mopio ar ddramâu wedi’u hisdeitlo o Ewrop. Yn y trêlyrs, cawsom olygfeydd montage o bobl yn brygowthan a sgrechian crïo, gyda merch galed fel haearn Dowlais yn eu canol nhw i gyd. Ydy, mae Alys yn ei hôl am ail gyfres. Flwyddyn union yn ôl, ni chreodd babi diweddaraf Siwan Jones fawr o argraff arna i yn sgil campwaith Con Passionate. Roedd rhai o’m cydnabod yn rhannu’r un farn, eraill wrth eu boddau gyda’r straeon amlhaenog, y cymeriadau cymhleth, a’r cipolwg tywyll iawn iawn y tu ôl i ddrysau caeedig y dosbarth canol Cymraeg. Ond gan fod drama deledu Gymraeg yn fwy o dderyn prin yn Oes y Toriadau Mawr, dyma roi cynnig arall arni.


Diolch i’r drefn, mae Alys, ei mab a’r parot wedi cefnu ar y fflatiau llygod mawr a chymeriadau digon anghynnes eraill, ac wedi symud i dŷ cyngor. Ydi hyn yn golygu bod Alys wedi troi dalen newydd ac yn setlo lawr fel Kirstie Allsopp Aberhonddu (man ffilmio’r gyfres) yn pobi panettone a chreu cardiau ’Dolig cain ei hun? Ydi dyfodol Newsnight yn saff? Ar ôl drachtio can o lagyr a rholio mwg drwg i frecwast, gwisgo’i chortyn bêls o sgert ddenim, aiff Alys (Sara Lloyd-Gregory ar dân) fel corwynt o un cythrwfl i’r llall ac i’r diawl â’r canlyniadau. Yn y bennod gyntaf, roedd yn erlid Terry’r gyrrwr tacsi er mwyn sicrhau cyfiawnder i Ceri druan a laddwyd ar ddiwedd cyfres un. Gyda’r cynhyrchydd Paul Jones yn addo “mwy o thriller, gydag elfen iasoer gref”, go brin fydd yna ddiweddglo twt a thaclus i’r stori hon.


Mae ambell gymeriad, fel Debbie’r wraig fusnes o! mor barchus a Ron ei phedoffeil o ŵr wedi ffoi i’r Costa del Crimel, a rhai newydd fel Chris y gwerthwr tai (Richard Harrington) sleimllyd a diegwyddor - dim stereoteipio’n fanna felly - wedi glanio yn eu lle. Mae Heulwen (Gillian Elisa) yn prysur droi’n honco yn ei charafán gyfyng yng ngwaelod yr ardd wrth i denantiaid ifanc hawlio’i phlasty bach. Ond yr orau heb os yw Bessie (Delyth Wyn) sy’n dal i deyrnasu ei meibion di-glem o’i soffa a’i sgwter, gyda lot fawr o hiwmor tŷ bach.


Rhaid canmol crefft Rich Wyn fel y Cyfarwyddwr Ffotograffaidd am lwyddo i greu awyrgylch arbennig law yn llaw a’r gerddoriaeth gefndir iasol. Roedd yr olygfa ddi-eiriau o Wil y Pregethwr yn cerdded o’r gorwel i lawr y stryd fawr wag, llawn sbwriel, bron yn apocalyptaidd.


Er nad oes llawer o gymeriadau y galla i gydymdeimlo â nhw hyd yma, yng nghanol yr holl dwyll, y bygwth a’r blacmelio, dwi eisoes wedi gweld yr ail bennod. A do, dwi wedi ’machu o’r diwedd.