Bys ar bỳls y genedl


Rydyn ni i gyd wedi cwyno am law mawr eleni. Rhoddodd y tywydd ddampar ar ein haf, difetha ambell ddiwrnod yn Steddfod yr Urdd a chanslo sawl sioe amaethyddol leol. Ond beth ydi ychydig o fwd ar ein sgidiau a dillad gwlyb ar y lein o gymharu â gorfod diberfeddu’ch cartref yn sgil llifogydd? Rydyn ni i gyd wedi gwylio’r lluniau newyddion torcalonnus o bobl yn cael eu cludo mewn cychod, a stafelloedd byw yn drwch o laid a llaca, gan fwmial “diolch i’r drefn nad ni ydi’r rheiny” yn dawel bach i ni’n hunain. Ond gydag un o bob chwech cartref yng Nghymru mewn perygl, mae llai a llai ohonom yn saff rhag grym dinistriol natur…
 
 
Dechreuodd adroddiad Gwyn Loader ar gyfer Y Byd ar Bedwar yr wythnos diwethaf wrth droed yr Wyddfa gan siarad â rhai o drigolion diymadferth Llanberis. Yn eironig, cafodd y rhaglen ei darlledu'r union noson pan drawyd Llanelwy yn ddifrifol. Prif fyrdwn y rhaglen oedd ailymweld ag ardal gogledd Ceredigion chwe mis ar ôl i Ifan y glaw adael ei farc yn fan’no, a holi rhai o’r trigolion sy’n dal i glirio, cyfri’r gost a phoeni am bremiymau yswiriant amhosib. Roedd hanes Hefin Jones yn pwysleisio pa mor frawychus o sydyn ddigwyddodd y cyfan. Pendwmpian yng nghadair esmwyth ei ystafell wydr ydoedd pan deimlodd ei draed yn oeri, deffro a gweld bod pedwar modfedd o ddŵr ar hyd a lled yr aelwyd. O’r pensiynwr 78 oed i yrrwr tacsi, cynghorydd lleol a dyn dŵad o Lundain wedi dysgu Cymraeg, roedd pob un wedi cael profiad a hanner - ac yn pwyntio bys at waith datblygu sylweddol ar orlifdir ‘Parc y Llyn’ yn y 1990au. Concrid lle bu caeau, gan waethygu’r sefyllfa i ardaloedd cyfagos. I bwysleisio ofnau pobl leol, dangoswyd ffilm archif o faes y Sioe Frenhinol dan ddŵr yn y 1950au pan gafodd ei chynnal ar safle Parc y Llyn. Dyna’n union oedd rhybuddion trigolion Rhuthun ynglŷn â chodi stad o dai newydd sbon ar orlifdir Glastir, a drodd yn llyn wythnos diwethaf.
 
 
Dagrau pethau ydi nad oes neb yn fodlon hawlio’r cyfrifoldeb am waith cynnal a chadw’r ceuffosydd a greodd lanast Llanbadarn, gyda Chyngor Ceredigion, Network Rail ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn cecru ymysg ei gilydd. Dyn â ŵyr beth oedd teimladau’r trigolion o weld aelod o gabinet Cynllunio Cyngor Ceredigion yn chwerthin a baglu ateb cwestiynau Gwyn Loader. Mae’r sinig ynof yn amau y byddai ’na fwy o weithredu petai cartrefi’r rhai mewn grym yn troi’n Gantre’r Gwaelod…
Unwaith eto, dangosodd newyddiadurwyr Y Byd ar Bedwar fod eu bysedd ar bỳls y genedl wrth adrodd materion cyfoes yr wythnos. Bu sawl rhifyn cofiadwy’n ddiweddar, gyda straeon o’r galon am alcoholiaeth ymysg y Cymry Gymraeg dosbarth canol parchus, a chyfweliad ysgytwol ag un o drigolion Bryn Estyn - un nad oedd eisiau iawndal na gwobr ariannol fawr fel Syr McAlpines y byd, dim ond gair o ymddiheuriad gan dreiswyr y cartref uffernol hwnnw.
 
 
Ydi, mae’n bwysig bod newyddiadurwyr ifanc ITV Cymru yn dal i gyflwyno ongl arall i fonopoli newyddion y BBC.