Magu mysls a moch gwlanog



 
Dychmygwch godi am bump y bore i dreulio rhyw awran ar felin draed. Bowlenaid o All Bran mewn dŵr – ia dŵr - ac omlet i frecwast cyn troi tua’r swyddfa o wyth tan bedwar. Sgrialu i’r gampfa wedyn am dair awr. Yna, adref am swper blasus o gyw iâr a letys fel swper neithiwr ac echnos, ciando, a gwneud yr un hen beth bore fory. A ta-ta i unrhyw fywyd cymdeithasol. Codi cyfog arnoch? Croeso i fyd codi pwysau Delyth Hughes o Lanfairpwll, byd o hyfforddiant haearnaidd ar gyfer cystadleuaeth corfflunio’r UK Bodybuilding Federation. Ar ôl chwysu chwartia a hanner llwgu am fisoedd, dyma blastro grêfi browning o’i chorun i’w sawdl cyhyrog a pheintio minlliw “fel drag cwîn” er mwyn ystumio am hanner awr ar lwyfan. Yn Warrington. Roeddwn i’n hanner disgwyl i Peter Kay neidio i’r llwyfan fel arweinydd y noson, ond na, nid comedi mohono. Roedd criw Dal y Pwysau (Cwmni Da) yn hollol, hollol o ddifri.
 
Honnwyd ei bod yn hobi a ffordd o fyw, ond doedd Delyth lesg a llwydaidd ddim i’w gweld yn mwynhau rhyw lawer. Er eu bod nhw’n ymddangos fel “tarw Belgian Blue yn y Roial Welsh”, un proc a byddai’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n disgyn fel pluen. Aeth ei hyfforddwr mor bell â chyfaddef bod rhai wedi’u cludo’n farw o’r llwyfan yn eu thong. I eraill, mae’r gamp yn cynnig dihangfa a phwrpas arbennig mewn bywyd yn lle slotian bob penwythnos. I Mark Humphreys o Fodffordd, roedd yn gyfle newydd ar ôl salwch canser yn ei arddegau, ac yn rhywbeth i’w efeilliaid bach ymfalchïo ynddo. Rhyfedd, felly, na chlywsom bŵ na be gan ei gymar er iddi ymddangos ar y sgrin. Byddai ymateb teulu a ffrindiau’r cystadleuwyr i’r diddordeb obsesiynol yn y corff perffaith wedi ychwanegu elfen amrywiol arall i’r rhaglen.  
 
Roedd Beth Workman a Byd y Bicinis (Apollo) yn well yn hynny o beth, gan i ni glywed ochr arall i’r stori – gan chwaer a chymar y ferch swil o Ben-y-bont ar Ogwr a oedd yn ymgiprys am dlws Ffederasiwn Rhyngwladol Codwyr Pwysau ym Madrid. Seithfed allan o 27 oedd hi’n diwedd, mewn cystadleuaeth a ymdebygai i Miss World gyda nerth bôn braich. Chwarae teg iddi, fe aeth ymlaen i ennill pencampwriaeth Prydain wythnos yn ddiweddarach. Anghofiwch am siop siafins y crysau cochion.  Mae ’na Gymry cyhyrog yn serennu mewn sawl maes arall.
 
Cawsom hanes Cymro uchelgeisiol arall yn Llŷr a Dai Womble (Boomerang) – teitl a hanner – am frodor o Gaerdydd â’i fryd ar gynhyrchu cig moch o’r radd flaenaf ar fferm y teulu yng Nghwm Gwendraeth. Nid mochyn cyffredin chwaith, ond brid gwlanog od ar y naw o Awstria megis cymeriadau cartŵns y 1970au. Aeth diddordeb Llŷr ag ef ar gyrsiau halltu cig o’r Eidal i Ogledd America, cyn cyrraedd penllanw wyth mlynedd o waith gyda’i stondin ei hun mewn marchnadoedd fferm o Bont-iets i’r brifddinas. Er bod ambell ddarn yn swnio fel fideo PR i Hybu Cig Cymru a chanolfan bwyd Horeb, roedd hi’n braf gweld ffarmwr ifanc angerddol dros y diwydiant wedi sterics gwleidyddol gywir y ’steddfod.