Y Dref



S'long Sarah Lund a "Tak"
 
Dwi wedi cael gorddos o ddramâu ar y teledu’n ddiweddar - yn hen ffefrynnau, ambell un newydd, a rhai tipyn gwell na’i gilydd. Mi fydd yna alaru mawr nos Sadwrn nesaf wrth i ni ffarwelio am y tro olaf un â’r darpar nain Sarah Lund a’i siwmperi enwog, ei hunigrwydd a’i harferiad gwirion o erlid llofruddion gefn liw nos niwlog mewn rhyw warysau mawr gwag neu goridorau grym tywyll København. Rhois gynnig ar Falcon, addasiad Sky Atlantic o nofelau Robert Wilson, gyda chast o Kiwis a Saeson yn cogio bod yn Sbaenwyr. Er bod y deialog yn giami ar brydiau, a gwastraff castio gydag actoresau clodwiw fel Kerry Fox ac Emilia Fox (dim perthynas) ond yn ymddangos mewn dwy dair golygfa ym mhob pennod, prif gymeriad ac apêl y gyfres i mi oedd dinas hyfryd Sevilla - cyrchfan bosib arall yn 2013 os bydd y cyfri banc yn caniatáu. Dinas yr Angylion ydi prif gymeriad Southland hefyd, chwip o ddrama sy’n debycach i bortread pry ar y wal o heddweision LA. Ond sioc a syndod ydi canfod bod yna ddrama gwerth ei gweld ar ITV - nad yw’n gyfres plismyn, doctors-a-nyrsys (er bydd hi’n chwith heb fwy o Monroe) nac yn sebon swanc wedi’i gosod mewn plasty byddigions yn Lloegr ddechrau’r ganrif ddiwethaf.

The Town ydi’r gyfres drawiadol hon, hanes llanc yn ei dridegau sy’n gorfod dychwelyd o Lundain i’w gynefin wedi trychineb teuluol - ac sy’n ffeindio’i hun yn gyfrifol am ei nain (Julia McKenzie) a’i chwaer drwblus yn ei harddegau. Ond mae ’na rywbeth yn ei boeni, o weld negeseuon testun a llythyron anhysbys i’w rieni gyda’r geiriau “I know”. Ac mae Mark (Andrew Scott, seren cyfres Sherlock BBC Cymru-Wales) yng nghanol ei alar yn meddwi a chanu carioci (Rick Astley!) gyda’i ffrindiau bore oes, yn gobeithio ailgynnau tân â hen gariad ysgol, ac yn chwarae ditectif wrth chwilio am y gwirionedd y tu ôl i farwolaeth ei rieni. Mae’n wahanol, yn drist, yn llawn dirgelwch, wedi’i ffilmio’n steilus iawn a’i chymharu â darn o Twin Peaks yn High Wycombe. Prin iawn dwi’n dweud hyn, ond, go dda ITV!
 
 

  • The Killing / BBC Four / 9-11pm nos Sadwrn
  • The Town / ITV1 / 9pm nos Fercher
  • Southland / More4 / 10pm nos Iau