Taro '12




Mae’r Diwrnod Mawr yn prysur agosáu, a dwi’n gwneud fy ngorau glas i fynd i ysbryd yr ŵyl er gwaetha felan y Cyfrifiad. Mae panad o de a mins pei Aldi (“Lycshyri” cofiwch) ar y ddesg, Bart Simpson Siôn Cornaidd ar ben simnai gyferbyn, a CD Nadoligaidd newydd Cerys Matthews yn y cefndir. Er, dwi’n amau ei bod hi wedi camddeall geiriau T Rowland Hughes yng nghân ‘Y Darlun’ hefyd… Dyma’r amser traddodiadol i hel meddyliau am ddigwyddiadau’r flwyddyn a wibiodd heibio - y da, y drwg a’r diawledig. A thra cawsom ein boddi dan don o Brydeindod ym mlwyddyn y Jiwibilympics, mae’n well gen i gnoi cil ar arlwy’r cyfryngau Cymraeg yn 2012.
 
Nid bod modd osgoi hynny ar radio a theledu Cymraeg chwaith, wrth i ohebwyr bwysleisio’r BRITISH yn BBC Cymru a darlledu digwyddiadau Taith y Fflam hyd syrffed. Mi fuodd na gryn grensian dannedd o wylio a gwrando ar newyddion y flwyddyn hefyd, wrth i’r hacs Llundeinig fentro dros Glawdd Offa i adrodd am ddigwyddiadau trist yn y parthau dieithr hyn o’r Deyrnas. Daeth “Tallybont” a “Mackuncluth” i sylw’r byd, a chafodd enwau’r cyfranwyr Cymraeg eu camsillafu’n hollol ddigywilydd ar sgriniau Sky News, ITN a’r Bîb. Ydyn nhw’n dangos yr un diffyg parch i enwau pobl a lleoedd Syriaidd, Groegaidd a chenhedloedd amlwg eraill 2012? Ond mae’n gwasanaeth Saesneg “cynhenid” ni cynddrwg, wrth i ohebydd traffig a thywydd Good Morning Wales ynganu Llangernyw a Llanfair Talhaearn â llond ceg o bys slwj poeth. Mewn byd delfrydol, byddai’r gallu i lefaru enwau lleoedd a phersonol Cymraeg yn glir a chroyw yn rhan o ddisgrifiad swydd BBC Wales. Diolch i’r drefn am broffesiynoldeb Siân Lloyd, Derek Tywydd a Tomos Dafydd am bob Lord Jamie Owen.

O’r byd newyddion i ffeithiol, ac roedd ’na gryn dipyn o uchafbwyntiau yn cynnwys teyrnged Ffion Hague i rai o ferched amlyca’r genedl yn Mamwlad, ymchwiliad emosiynol Beti George i gleifion a gwasanaethau dementia yn Un o bob Tri, a gwledd i’r llygaid yn Antur y Gorllewin wrth i Iolo Williams hel natur o Bortiwgal i Wlad yr Iâ. Cawsom gyfresi pry-ar-y-wal rhagorol hefyd, yn enwedig Ysbyty Plant a gododd gywilydd arna’i am gwyno am bwl diweddar o man flu aka annwyd pen. A llongyfarchiadau i S4C am bwysleisio’i rôl fel calon cenedl, nid sianel y “bröydd” simsan yn unig, gyda lle amlwg i dafodiaith cymoedd Tawe ac Afan mewn cyfresi fel Y Glas a Traed Lan. Roedd hi’n flwyddyn o obsesiwn toiledol rhyfedd hefyd, gydag Ifor ap Glyn yn adrodd hanes Tai Bach y Byd a chriw Bois y Caca yn clirio’r carthion eisteddfodol ym Mro Morgannwg.
 
Sôn am bethau anghynnes, daeth enw o’r gorffennol yn ôl i lenwi nosau’r wythnos. Cawsom ddos o dabloid gyda Heno gyda’r orfrwdfrydig Rhodri Ogwen-Williams ac Emma Walford yn cyflwyno clecs ac adolygiadau o’r Sun, negeseuon trydar, a slot goginio fel Miss Cymru yn paratoi brechdan. Wedi’r holl lambastio ar wefannau cymdeithasol a Taro’r Post, cafodd Heno ailwampiad arall fel Wedi 7 Mk II dan arweiniad Gerallt Pennant. Doedd pob adfywiad ddim yn ddrwg i gyd chwaith, wrth i ni fwynhau Noson yng Nghwmni Caryl ar ŵyl ein nawddsant a chymeriadau newydd fel JoJo Eastman y ddysgwraig a Cameron Jenkins y chwaraewr rygbi ifanc yn adlais o Gymru 2012. Sgwn i beth ydi ymateb Sioned Gruuuug i’r ffrae ddiweddar am ddysgwyr yn (methu) cerdd dantio? Roedd ’na ddigon o chwerthin gyda chyfres Dim Byd hefyd, a enwebwyd am wobrau’r Royal Television Society a’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, wrth i griw Wil a Cêt: Y Profiad ddychwelyd i ddychanu’r Monwysiaid hynny a fopiodd ar y Windsors. Gobeithio y cawn ni ddilyniant arall yn sgil iwfforia’r Babi Brenhinol.

Roedd ’na ddigon o ddrama ar y Sianel hefyd, gyda giamocs athrawon a disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Taf yn Gwaith Cartref yn llwyddo i wneud yr amhosib, trwy blesio pawb - o ddisgyblion ail iaith Caerllion i deuluoedd ffarm Dyffryn Conwy. Ond mae syndod ac ymddiheuriadau’r flwyddyn yn mynd i Alys, un o ‘dyrcwns’ 2011 y golofn hon. Ydw, mi rydw i a sawl un arall a roddodd y gorau i wylio’r gyfres dywyll gyntaf, yn cael blas mawr ar yr ail, gyda chyfuniad o ias a chyffro, stori ysbryd, hiwmor tywyll a giamocs Kevin, Shane a Bessie. Gyda slot naw o’r gloch nos Sul yn ffyrnig o gystadleuol, a digonedd o ddramâu gwerth chweil ar y sianeli eraill, S4C sy’n ennill y tro hwn.

Bu’n flwyddyn a hanner i gyfres fwya poblogaidd y Sianel o bell, bell ffordd hefyd. Ffarweliwyd â Gwyn Elfyn, awdur bestseller y Gymraeg, ar ôl bron i 28 mlynedd o wasanaeth ffyddlon i Pobol y Cwm. Tra’r oedd y pentrefwyr gladdu ’rhen Denz, cafodd Cwmderi ei hailwampio’n llwyr gan y tylwyth teg wrth i gilfachau newydd ymddangos dros nos, y Siop a’r Caffi’n cael estyniad a Chapel Bethania a garej Garry Monk yn adleoli i’r Stryd Fawr. Bellach, mae’r set newydd ym mhentref drama Bae Caerdydd wedi hen ennill ei blwyf a straeon gafaelgar diweddar yn denu’r gorau o actorion fel Lisa Victoria (Sheryl). Bechod am isafbwyntiau fel Gwyneth y llofrudd, pennod swreal Gemma a’r cadno gwaedlyd (yr anifail, nid ffarmwr tanllyd Penrhewl) a phapur wal lolfa Eileen sy’n dal i beri hunllef.

Bechod hefyd am ddiffyg cyfres gerddoriaeth fodern i ddilyn Bandit, sydd wedi hen fynd i’w bedd ond a lwyddodd i ennill gwobr BAFTA Cymru eleni. A na, tydi hen fideos Bando na Maffia ddim yn cyfri. Ar y llaw arall, cawsom wledd o ganu gwerin ac acwstig Yn Fyw o Acapela, a gobeithio am fwy'r flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, math arall o ganu sy’n mynnu’n sylw rhwng nawr a diwedd y flwyddyn, rhwng Carolau Gobaith, Carolau Llandudno, Carol yr Ŵyl…

Ydi hi’n bryd i mi gael mins pei arall ’dwch? Nadolig Llawen.