Dolig Dyl




Daeth mwy nag un bocs o siocled i tŷ ni dros y gwyliau. Bocsys sydd, fel teledu’r ŵyl, yn gaddo danteithion di-ri i’w sglaffio nes yn swp sâl cyn gadael tomen o betheuach diddim fel fferins Bounty ar ôl. Da-das cerddorol oedd yn tra-arglwyddiaethu ar S4C. Roedd Nadolig Bryn Terfel yn gyfuniad annisgwyl a blasus o’r llais operatig a’r gwerinol, er y dylwn fod wedi clicio gyda Sain Ffagan yn lleoliad ffilmio. Buasai melodïau tyner hogia’ Brigyn wedi’u sgubo dan dswnami’r bariton pwerus o Bant-glas fel arfer, ond mi asiodd yn berffaith mewn perfformiad o anthem y plygain, ‘Ar gyfer heddiw’r bore’. Ond y crème de la crème oedd Carolau o Landudno, am resymau cwbl anghywir. O’r eiliad yr agorodd Rhydian ei ben i ganu fersiwn “Gymraeg” o Santa Claus is coming to town roeddem ni’n ôl yn nhiriogaeth cyfieithiadau comig Ricky Hoyw. Bu bron i mi drochi’r nai ’fenga â Baileys wrth wrando’n gegrwth ar Mr Perocsid Pontsenni yn morio ‘Santa Klaus i’m cartref sy’n dod’ gyda chôr o blant gorwenog. Da chi, Dail y Post ac S4C, sticiwch at garolau cyfarwydd Cymreig tro nesa.

Mae creadigaeth Tim Rhys-Evans yn enwog am drosi clasuron pop Saesneg yn y gorffennol, ond gorau po symlaf i’r côr a gafodd ddau gomisiwn gan S4C dros y Dolig. Ar ôl ofni I’m a Celebrity get me out of Bardsey gyda llanciau Stwnsh fel Ant a Dec Sbrec, roedd Only Men Aloud: Y Bois ar Enlli yn well na’r disgwyl. Rhaglen cogio-bondio oedd hon er mwyn clywed ‘Tydi a Roddaist’ i gyfeiliant y machlud, dod i adnabod yr wythawd ar ei newydd wedd wrth bysgota a bugeilio, a phrofi symlrwydd hyfryd yr ynys heb na thrydan na thoiled fflysio.

“Clod i Dduw am wlad y gân!” ebe’r Parch Eli Jenkins yng nghyfieithiad cain Jim Parc Nest o ddrama radio’r llenor o Abertawe a gafodd sylw hyd syrffed yn 2014. Doedd dim dianc i fod dros Dolig chwaith, wrth i Kevin Allen a Rhys Ifans gyflwyno’u dehongliad nhw o Dan y Wenallt yn ffilm fawr S4C. Rhaid bod gan y Bonwr Allen di-Gymraeg a Tinopolis siârs yn y Sianel ar hyn o bryd, gan mai nhw fu’n gyfrifol am Y Syrcas Dolig diwetha’ hefyd. Go brin i gynulleidfa draddodiadol nos Sadwrn S4C gael blas ar hon. Un funud roedd Ifan Jones Evans a’i deulu yn meddiannu Noson Lawen megis Von Trapps Pont-rhyd-y-groes (ffefryn digamsyniol teulu ni) a’r funud nesa, roedd y gantores Buddug Verona James mewn lifrai Mrs Ogmor-Pritchard y Dominatrix yn chwipio Rapsgaliwn a DJ Pobol y Cwm gyda dim ond cydau lledr i guddio’u bechingalws. Ond i bôrs Llenyddiaeth Cymru a’u tebyg, siŵr braidd bod yr ailbobiad erotig hwn yn plesio’n fawr. Cynhyrchiad ag un llygad ar wobrau rhyw ŵyl ffilm anhysbys yn Wisconsin neu Warsaw, heb sôn am y farchnad Eingl Americanaidd. Gallaf weld y poster hyrwyddo nawr; “...starring Rhys Ifans as Captain Cat, with Charlotte Church and Dave Coaches from Gavin & Stacey”. Doedd ynganiad ’rhen Sharl fel Poli Gardis ddim cynddrwg â’r disgwyl, ond enw ac wyneb hollol ddieithr oedd y seren i mi - Matthew Owen, fel Jacyraca y trwyn o bostmon. Ac roedd Solfach ganol haf yn ddigon o ryfeddod fel Llaregyb y 1950au.

Bu bonllefau o groeso i bennod arbennig, os araf (iawn) o’r Gwyll* noson gynta’r flwyddyn, wrth i DCI Tom Mathias a’r giang ddychwelyd i ddatrys dos arall o Aber-noir. O’r diwedd, rydym rywfaint callach ynghylch cefndir Mathias a pham iddo ffeirio strydoedd Llundain am garafán anghynnes ar ddibyn Bae Ceredigion. A digalon y diawl oedd o hefyd. Ond erys dirgelwch y Prif Gopyn slei. Pam o pam mae e mor awyddus i fachu Mathias a gadael Mared Rhys druan i bwdu yn ei chot parca coch? Rhaid aros tan yr hydref i ganfod mwy. Sôn am stretsio amynedd rhywun, S4C!



Mae'r gyfres yn dal ar daith ryngwladol, gyda llaw, o Awstralia (fersiwn Saesneg) i Fflandrys (fersiwn Gymraeg).