Byw Cecru















A dyna ni. Bythefnos-dair ar ôl pawb arall, dyma benderfynu gwylio pennod ola Byw Celwydd neithiwr. Borgen y Bae, bach o secs a sglein ar nos Sul, llwyddiant lle methodd James Bond, a gobaith mawr y ganrif (wel, ddechrau 2016 o leiaf) i’r ddrama deledu Gymraeg yn wyneb och a gwae am ansicrwydd ariannol y sianel. 


Roedd ’na gryn edrych mlaen at hon, noson lansio swanc yn y Senedd, cyffro mawr ymhlith y twitteratis – llawer yn ddi-Gymraeg – a sylw gan bapurau’r Independent, y Guardian a’r Daily Mail. Nid bod hynny’n dda i gyd wrth gwrs. Ond roedd yr hysbysebion yn addawol, pobl ddel mewn swyddfeydd gwydr (“tryloyw” ydi jargon yr ACau) a chartrefi o dudalennau Home and Garden, a'r haul wastad yn tywynnu’n syth o Teulu. Sy’n addas iawn, gan mai Meic Povey a Branwen Cennard ydi tad a mam opera sebon y Cynulliad hefyd.


Roedd 'na gystadleuaeth ffyrnig yr un pryd, gydag addasiad Andrew Davies a BBC Wales o’r epig Rwsiaidd War & Peace mlaen ar BBC1, y ditectif tebol Vera ar ITV, a Channel 4 yn darlledu'r anturiaethau ias a chyffro o boptu wal Berlin yn Deutschland 83. Ond be ‘di’r ots am hynny mewn gwirionedd, yn oes y dal i fyny ar bob dyfais sy’n bod? Wrth i nosweithiau Sul stormus y gaeaf fynd yn eu blaenau, Leo Tolstoy gydag acenion Oxbridge gafodd y flaenoriaeth ‘fyw’ yn Chez Dyl. Dyma chi pam.


Y lliw di’r cliw Penderfynodd y cynhyrchwyr y byddai holl gymeriadau newydd y bennod gyntaf yn drysu’r gwylwyr yn rhacs, felly dyma ddefnyddio cod lliwiau i ddangos pwy di pwy, ac i ba blaid maen nhw’n perthyn. Ac wele swyddfeydd gyda chadeiriau, geriach Ikea, ffeiliau, potiau beiros gwyrdd/oren/glas, a hyd yn oed ambell ddilledyn pleidiol. Nawddoglyd? Welsh Assembly for Dummies? Barnwch chi.

Ar garlam Fel un sydd wedi hen arfer a dramâu dow-dow, Mad Men y byd â’u golygfeydd hirion, llawn seibiau, a fawr ddim yn digwydd nac yn cael ei ddweud ar yr olwg gynta - ond yn gyfoethog o ddarllen rhwng y llinellau - roeddwn i’n gweiddi “newidiwch i gêr is” wrth wylio BC.  Unwaith eto, rhyw ddiffyg parch at y gwyliwr o feddwl y byddai’n prysur golli diddordeb wrth ymhél â gormod o bolitics. Do, fe gawsom ambell i gynllwynio mewn meysydd parcio tanddaearol (ai felly ma pethau go iawn?) a sawl cyfyng-gyngor am driniaeth GIG neu sbytu preifat, a throi darn o fynydd Epynt yn gae chwarae i filwyr Israel, ond bitsio a boncio oedd prif fyrdwn y gyfres.  Sy’n dod â ni’n dwt at...

Cicio a brathu Fel ei rhagflaenwyr Iechyd Da a Teulu, roedd ’na gryn wrthdaro fama. Iawn, tsiampion. Wedi’r cwbl, “heb wrthdaro nid oes drama” meddai’r Dr John Gwilym Jones, Swyddogaeth Beirniadaeth. Ond oes rhaid cael cyfres gyfan o bobl mor annifyr â’i gilydd? Angharad v Rapsgaliwn, sori Owain ei gwr; Angharad v Harri (Stephen Kinnock aka Math Gravelle); Angharad v Ei Mam (Eirlys Britton gyda gwep Happy Valley - croeso mawr iddi gyda llaw, mwy plîs!) Angharad v Angharad. Da chi’n gweld be’ sgin i. Heb son am ménage à trois Lowri-Tom-Aled. Rhyw dindroi o ffraeo a chymodi cyn ffraeo eto oedd hi braidd. Ar y llaw arall, roedd y golygfeydd prin hynny gawson ni rhwng y Prif Weinidog a’i wraig (Siân James) yn hyfryd, y ddau’n deall ei gilydd i’r dim er gwaetha’r bwlch a’r oerni ymddangosiadol. Felly hefyd y cwpl Democrataidd. Gyda llaw, onid oedd hi’n od braidd na ŵyr neb am farwolaeth eu mab ar faes y gad Afghanistan? Y Gymru Gymraeg ydi fama wedi’r cwbl, lle mae cyfrinachau cyn brinned ag ewyllys da rhwng Seimon Brookes a Sbrec.

Bai Borgen “You’ve got a lot to answer fo...” crawciodd Cerys Catatonia un tro. Y drwg ydi mod i’n gymaint o ffan o’r gyfres Ddanaidd a ddangosodd i’r byd bod mwy i ddramâu Sgandinafia na ditectifs trwblus yn crwydro warysau tywyll mewn siwmperi gwlanog. Roedd y disgwyliadau’n aruchel felly. Oedd, roedd yna gryn wrthdaro rhwng gohebwraig sianel DR a chyngor arbennig (‘SPAD’) y Statsministre, boed rhannu cyfrinachau’r senedd neu fwriad i ddechrau teulu, ond roedden ni’n malio am Katrine a Kasper. Roeddech chi’n wir gredu yn eu perthynas chwit-chwat, ac yn bwysicach oll, roedd yna sbarc, chemistry arbennig rhwng y ddau actor ifanc. Dim ond atgasedd a drwgdybiaeth lwyr oedd rhwng Harri ag Angharad tua’r diwedd. Fe welson ni’r Statsministre Birgitte Nyborg yn areithio yn senedd-dy Copenhagen hefyd, a bwysleisiodd wendid y chwaer gyfres Gymraeg o fethu â chael caniatâd i ffilmio yn Siambr ein Cynulliad ni. Dewch ’laen, Lywydd Butler...


Ond be wn i. Mae yna ail gyfres ar y gweill, y twitteratis wedi dotio, a’r gwaith ffilmio’n dechrau fis Mai yn ôl Ffion Dafis ar Dewi Llwyd ar Fore Sul. Hwyrach y down i nabod ei chymeriad, Rhiannon Roberts, yn well na’r portread un dimensiwn o arweinydd diflas a Miss Perffaith y Cenedlaetholwyr. Wnes i golli rhywbeth, ’ta hi yw’r unig un heb stori gefndir o gwbl hyd yma? Roeddwn i wedi gobeithio am rywfaint o hanes rhyngddi hi â’r cyn-nashi a’r Annibynnwr Matthew Desmond (Ryland Teifi) a enillodd isetholiad De a Dwyrain Ceredigion, ond na. Siawns y bydd yna ddatblygiad i’r cymeriad yng nghyfres 2, neu waeth i Ffion Dafis ddychwelyd i sefyll tu ôl  cownter Rownd a Rownd ddim. A tybed welwn ni aelod o blaid hiliol Prydain Annibynnol yn ymuno â’r cast, yn unol â’r polau piniwn digalon diweddar? Amser a ddengys.

 


Yn y cyfamser, dyma esgus perffaith i hel atgofion. Hej! Hej!