Con i Gymru




Cân am slebog o ferch, angst am “fwg a cholur, pocedi gwag a dillad budr”, David Gray Cymraeg yn mwydro am ganhwyllau, molawd i Bale a’r bêl, y bêl a Bale, doli o Fethel yn sibrwdganu allan o diwn, Samariaid Sir Fôn a phibydd druan yn gorfod cystadlu yn erbyn hogan sy’n camgymryd y meic fel megaffon.

Blwyddyn arall, Celtvision arall. Wnes i ddim sbio’n fyw eleni, dim ond braswylio drwy iplayer (sori, oedd safon llun S4C/Clic yn uffernol). A gwingo. Oes, ma ’na dîm proffesiynol wrth y llyw erbyn hyn, diolch i Elin Fflur a Trystan Twitter Ellis-Morris, a lot lot mwy o bwyslais ar negeseuon trydar y gynulleidfa (feddwol?) adra. Yn wir, mi awn mor bell a dweud mai twitter sy’n cynnal Cân i Gymru heddiw, a’r canu ei hun megis hen grwndi sy’n mynd ar eich nerfa chi mewn tŷ bwyta. Does ryfedd i’r cerddor Ynyr Llwyd ffonio Taro’r Post ddydd Llun i alarnadu bod y syrcas bellach yn destun sbort a Ddim Fel y Buodd Hi. Ategwyd hyn i’r dim gan bol piniwn y gwylwyr o gân orau’r gystadleuaeth ers geni S4C. Dim ond ers 1982 cofiwch, er bod CiG wedi merwino’r glust ers i Margret Wilias ennill efo’r ‘Cwilt Cymreig’ ym 1969. Ond chwarae teg, bu ambell berl yng nghanol y moch. Gan gynnwys tiwns Arfon Wig, sori Wyn. Beth bynnag ddeudwch chi am y boi, mae o YN gallu sgwennu tiwns bachog. O’r 8,500 o bleidleisiau ar-lein ddaeth i law, dyma’r deg ucha:


10. Cae o Yd, Arfon Wyn (2000)

9. Nid Llwynog oedd yr Haul, Geraint Lovgreen a Myrddin ap Dafydd (1982)

8. Gloria Tyrd Adra, Llion ac Euros Jones (1987)

7. Cerrig yr Afon, Iwcs a Doyle (1996)

6. Dagrau Tawel, Meinir Richards a Tudur Dylan (2004)

5. Galw amdanat ti, Mirain a Barry Evans (2014)

4. Harbwr Diogel, Arfon Wyn a Richard Synnot (2002)

3. Y Cwm, Huw Chiswell (1984)

2. Gofidiau, Elfed Morgan Morris a Lowri Watcyn Roberts (2009)

1.  Torri’n rhydd, Steffan Rhys Williams (1999)




Roedd sawl peth yn boenus o amlwg o wylio’r archif. Y ffaith fod mwy o wmff i raglenni’r gorffennol, gyda chynulleidfa glapiog swnllyd mewn hen siediau ym Mona, Corwen neu Bontrhydfendigaid. Dw i wedi gweld mwy yng nghynulleidfa Pawb a’i Farn na’r hyn fentrodd i stiwdio’r BBC yn Llandaf nos Sadwrn. Cyfaddefiad. Bues i’n rhan o dyrfa fawr Corwen ganol y nawdegau, a do, mi oedd yna ryw FWRLWM yno. Peidiwch â gofyn pwy enillodd chwaith, ond roedd Melys ymhlith y dewrion wedi'u dallu gan siec o ddeg mil a'r cyfle i gynrychioli'u gwlad mewn steddfod dafarn yn Killarney. Cof arall o’r noson oedd gweld Caryl yn meimio o’r cyrion fel un o famau gorawyddus rhagbrofion yr Urdd wrth i genod Eden fynd drwy’u pethau ar y llwyfan.

Efallai bod ffasiwn yr 80au yn erchyll, ond roedd y caneuon yn blydi dda a chofiadwy. Heddiw, mae’r ffasiwn wedi gwella ond y caneuon yn ddifrifol ac yn hollol angof erbyn y credits clo. Prifeirdd oedd awduron ddoe. Tydi rhai heddiw’n methu treiglo nac odli i achub eu bywydau.

A sut gythgam doedd hon ddim yn y deg ucha? Ffans Sobin a Bryn Fon, dw i wedi siomi ynoch chi.