Hen wlad fy mamau




Mi fuaswn i wedi leicio cwrdd â Jennie EirianDavies, fel cyd-golofnydd teledu prin yn y Gymraeg. Y Cymro yn ei hachos hi, rhwng 1976 a ’78, lle byddai’n “mynegi ei phryderon am y diffyg oriau darlledu Cymraeg a'i siom o weld mai yr hyn a alwai'n ‘gawl eildwym’ oedd y rhan fwyaf o'r rhaglenni a gaed yn y Gymraeg”. Mi fyddai wedi cael haint efo Ffasiwn Bildar heddiw. Beth fyddai ei hymateb i S4C ffwl sdop, a hithau’n un o’r cenedlaetholwyr prin iawn iawn hynny oedd yn dadlau yn erbyn sefydlu un sianel benodol Gymraeg, fel yr Athro Jac Lewis Williams a honnai “y byddai Cymry di-Gymraeg yn colli cysylltiad â’r diwylliant Cymraeg”? Mae’r hysteria diweddar am isdeitlau wedi’u sodro ar y sgrin adeg wythnos Gŵyl Ddewi yn profi’r pwynt (arbrawf da, amseru gwael drybeilig fel IDS i Cameron) - ymgyrch hysbysebu ar S4C yn unig, lle dylai trêls ‘Bob’ fod wedi ymddangos ar BBC ac ITV Cymru Wales neu hyd yn oed Sky1. Yr un fath â chyfresi’r dysgwyr fel Cariad@Iaith a ddylai gael cartref ar y naill sianel Saesneg neu’r llall. Ond dw i’n mynd ar wasgar rŵan...
Ond yn ôl at Jennie Eirian - golygydd styfnig Y Faner (1979-82) fu’n “fforwm golau i wyntoedd croesion y 1970au” (Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru). Fforwm fu hefyd yn sail i domen o lythyrau cas gan nashis amlwg y cyfnod. Cymru fach, Cymru filain, fel yr ategodd Gwilym Owen. Mae’n bosib mai hynny, a’i hymrwymiad i berffeithrwydd bob amser yn ei gwaith, arweiniodd at ei marwolaeth annhymig ym mis Mai ’82. Dyna oedd canolbwynt drama-ddogfen Jennie gyda Rhian Morgan a ddarlledwyd 7 mlynedd yn ôl (lle ddiawl aeth yr holl amser?). Fel y dywed Branwen Jarvis yn y rhaglen honno, “Roedd Jennie yn byw mewn cyflwr o densiwn - y tannau oedd wedi eu tynnu mor dynn - ac mae tannau tynn yn torri.”
 
Elfennau eraill o’i bywyd gafodd sylw Mamwlad gan Ffion Hague yr wythnos hon. Atgofion ohoni fel plentyn yn Llanpumsaint, fel gwleidydd (ymgeisydd Seneddol benywaidd cyntaf Plaid Cymru a gipiodd 7.8% o'r bleidlais yn Etholiad Cyffredinol 1955, ac 11.5% yn isetholiad ’57) fel golygydd Y Faner ac fel ffrind. Diolch i’w mab, Siôn Eirian am ei gyfraniad dewr a thorcalonnus, wrth gofio’r adeg pan giciodd ddrws y bathrwm i weld ei fam wedi cael gorddos, a chau’r drws er mwyn sbario’i dad.
Dyma gyfres berffaith ar gyfer nos Sul, cyfres sy’n codi cwr y llen ar ferched/menywod amlyca’ ein gwlad fach angof sy’n gwybod mwy am Florence Nightingale na Betsi Cadwaladr, Emmeline Pankhurst ar draul Margaret Haig. Oce, mae’r “actoresau” sy’n ail-greu’r cymeriadau hynny yng ngwisg yr oes yn boenus o brennaidd a diangen ar adegau. Ond pa mor ddeheuig ydi Mrs Hague fel hanesydd-gyflwynydd, yn mynd o le i le yn ei BMW-heb-do a holi myrdd o arbenigwyr (benywaidd yn bennaf, wrth reswm) difyr newydd yn lle’r un hen rai o fyd academia Bangor/Aber? Nid bod pob cyfranwraig yn plesio’r gwylwyr-gweld-bai chwaith, pan gyfeiriodd un at y ffaith fod ’rhen Betsi (yr honnwyd ei bod yn hoyw) yn edrych yn debyg i ddyn. Wps a deis.
Berig ’mod i’n disgwyl gormod gan ein cwricwlwm Eingl-ganolog, ond dw i’n wir obeithio bod Mamwlad yn rhan o adnoddau Hanes ein hysgolion.