Sesiwn ola



Mae Radio Cymru yn gymar anhepgor ar ein ffordd drol genedlaethol rhwng y De a’r Gogledd. Ar bnawniau-nos Sul yn bennaf. Y Radio Cymru draddodiadol hefyd, llawn sgyrsiau, cerddoriaeth werin, byd y Pethe Dei Tom, a Dai Jôs â’i hen ganiadau a chyfarchion pen-blwydd Meri Pen Doman i Wil Tŷ Clawdd. Ond fydd yr elfen werin ddim yn gyfeiliant i droadau chwil Caersws mwyach. Diolch i ailwampiad Betsan Powys o ddechrau Ebrill mlaen, fydd dim mwy o Sesiwn Fach ar y radio gyfaill. Yn hytrach, bydd nostalgiafest John Cofio Hardy a rhaglen hys-bys, caneuon a chyfarchion Hywel Gwynfryn yn rhoi cic owt i Idris Morris Jones a’i gyfoeth gwerin Cymru a’r byd. Pan nad oedd rhyw gêm rygbi/bêl-droed bwygilydd wedi tewi IMJ yn barod. Diolch i’r Sesiwn Fach, dw i wedi clywed am Jamie Smith’s Mabon am y tro cyntaf, a mopio arnyn nhw ac eraill fel 9Bach am roi cot o baent ffres i’n tiwns traddodiadol ni. Roedd Gwlad y Gân, cyngerdd agoriadol gŵyl Womex ar S4C gyda’r pethau gorau a welais erioed, yn gymysg o Cerys, Cass Meurig, Patrick Rimes a’r bytholwyrdd Sian James i enwi dim ond rhai. Mae Calan yn mynd â cherddoriaeth Gymraeg i’r Unol Daleithiau, ein hartistiaid yn ennill gwobrau gwerin Radio2, a chynlluniau diweddar megis 10 mewn Bws a Thŷ Gwerin ar faes y Brifwyl yn arwydd o gyffro newydd yn ein sin angof o gymharu â’r Gwyddelod a’r Albanwyr.


Dyna sy’n gwneud clec Betsan Powys yn odiach ar y naw. Yn rhoi’r fwyell i’r rhaglen pan mae pethau gwirioneddol ar i fyny, yn hytrach na'n sdyc yn nyddiau Ar Log. Dw i’n siŵr ei bod hi’n barod i amddiffyn y ffaith fod Georgia Ruth yn dal i genhadu yn “slot newydd bob nos Fawrth... fydd yn cynnwys cerddoriaeth byd a gwerin”.  Yn union fel ei hen slot nos Iau, felly. Peidiwch â chamgymryd. Dw i’n ffan o Georgia Ruth (“pwy yw’r George a Ruth hyn?” holodd cydnabod un tro, fel petai o’r un stabal â John ag Alun) ond pam na chawn ni DDWY raglen werin benodol ar yr unig orsaf Gymraeg sydd ganddon ni? Mi glywn ni ormodedd o recordiau Saesneg yng nghanol rai Cymraeg gan Marci Jî, Ifan Jones-Evans, Wil Morgan a’r pigyn clust ’na bob pnawn o ddau tan bump. Ond mwy o werin gwlad? No way.

Mae Guto Rhun ar fin diflannu o slot nos Lun a nos Wener oherwydd “...bod nifer y bobol ifanc rhwng 15 - 24 oed sy'n gwrando, cynulleidfa darged wreiddiol C2 - yn isel.” Does dim sôn mai ffigurau gwrando siomedig sy’n gyfrifol am dranc Sesiwn Fach. Byddai’n anodd iawn iawn gen i gredu hynny beth bynnag.

Felly, diolch o galon i Idris Morris Jones a’i westeion, ei adolygwyr a’i sesiynwyr byw am leddfu rhywfaint ar deithiau’r A470 ar hyd y blynyddoedd. A rhag eich cywilydd chi ben bandits Radio Cymru.