Dyna Hwyl!


Wele’n gwawrio dydd i’w gofio. Dydd “Amser am Newid” ein gorsaf radio-trio-plesio-pawb genedlaethol ni. Roedd rhaglen Dewi Llwyd yn ei briod le arferol, diolch i’r drefn, gan dafoli straeon papurau Sul Prydain ac ambell fensh i’r Cymro a Golwg, gan sbario sawl puntan a thrip i Spar Llandaf i mi. Mae slot adolygiadau Sioned Williams, Catrin Beard, Elinor Reynolds a Lowri Cooke wastad yn plesio hefyd, gydag adolygwyr Cymraeg mor brin. Yna awr a hanner hiraethus Richard Rees i ffans cerddoriaeth y saithdegau ''mlaen. Doeddwn i ddim yn wrandäwr brwd ar y Sadyrnau heb son am rŵan, felly omnibws The Archers i mi bob gafal wrth baratoi cinio Sul. Neu frecwast hwyr o wy ar dost, panad, parasetemols a pheint o ddŵr go iawn. Ie, pensiwnîar o sioe sebon dyddiol Radio 4 sy’n gymysg ryfedd ond difyr o straeon am fagu ieir maes, agoriad swyddogol y neuadd bentref newydd gan Anneka Rice, parlwr godro robotig Brookfield Farm, a stori ddirdynnol cam-drin domestig rhwng Rob a Helen feichiog sydd wedi cipio’r penawdau a gwylltio’r gynulleidfa am ddod ag elfennau Eastenders i Ambridge. Mae slot newydd Beti George yn golygu y gallai ganolbwyntio ar fisdimanars Middle England cyn ymlacio am hanner dydd yng nghwmni’r holwraig tan gamp o Goed-y-bryn. Pnawn tawel wedyn - gydag ymddiheuriadau i Hywel Gwynfryn, yna dychwelyd at y weiarles am bump i fwynhau Stiwdio Nia Roberts a Dei Tomos a’i westeion tan saith yr hwyr.

Dw i dal wedi pwdu efo Betsan Powys am gael gwared ar Sesiwn Fach. Ond, mae’n ymddangos mai’r prinder gwrandawyr oedd y bai hefyd. 

 


Damia chi. Ar y llaw arall, oes rhywun yn gwybod faint yn union sy’n gwrando ar raglenni unigol yr orsaf? 'Da ni’n clywed am niferoedd io-io Radio Cymru’n gyffredinol gan RAJAR bob hyn a hyn, ond byth ffigurau penodol Tommo neu Ganiadaeth y Cysegr. Oni ddylen ni, dalwyr ffyddlon y drwydded, gael gwybod hyn yn gyson, fel maen nhw’n ei wneud ar gyfer sioe frecwast Chris Evans Radio 2 neu John Humphreys a Today Radio 4?  Yn dywed y Cynulliad Mici Mows, mwy o "dryloywder" (ych!) plîs BBC Cymru.

Felly, mae’r amserlen newydd yma i aros. Efo cryn bwyslais ar un peth mae’n ymddangos. Cewch “hwyl, chwerthin a thynnu coes” gyda Tudur Owen, “joio” oedd allweddair rhaglen Ifan Evans pnawn ddoe, ac mae Aled Huws “codi gwên a chadw cwmni... dysgu am y byd a’r bobl gyda ffrindia hen a newydd a chael hwyl wrth neud hynny” am 8.30 bob bore’r wythnos. A sdim angen dweud beth ydi nod Sŵn Mawr y Prynhawn. Elen Pencwm, gyda llaw, oedd yn cadw sedd Tommo yn gynnes wythnos diwethaf wrth i mi daclo’n ffordd drol genedlaethol. Rhaglen arall efo gorbwyslais ar hwyl a sbri a joio a chwerthin a jôcs gan un plentyn ar ôl y llall. Afraid dweud i mi switsio drosodd i Afternoon Edition Radio 5 Live, er gwaetha’r signal dychrynllyd ger Llanbryn-mair.

Y cyfan yn f’atgoffa i o sgets wych ‘Dyna Hwyl!’ am raglen blant hynod naff a dros ben llestri o ffug hwyliog o’r 70au, yn llawn ensyniadau rhywiol a wigs Hywel Pop yn y gyfres gomedi Mawr gydag Iwan John, Tudur Owen, ac – ie – Elen Pencwm.