Pawb a'i Rant



Mae cyffro etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ar ein gwarthaf. Wel, yr etholiadau o leiaf. Does dim modd osgoi placardiau Neil McEvoy (Plaid) a Mark Drakeford (Llafur) bob yn ail dŷ yn Nhreganna-Llandaf, ac mae’r daith i fyny’r A470 yn ddifyrrach nag arfer ar hyn o bryd. Yn enwedig Aberhonddu a’r cylch, lle mae cloddiau caeau yn las ag oren (yr un cae weithiau!) wrth i’r Rhyddfrydwyr a’r Toris baffio dros Frycheiniog-Maesyfed. 

Mater gwahanol ydi hi yn y wasg a’r cyfryngau Llundeinig ar y llaw arall. Pe taech chi’n llwyr ddibynnol ar BBC Six o Clock News am eich ffics gwleidyddol y dydd, yna ras fileinig Mrs Clinton a Mr Trump fydd ar eich meddwl, yn ogystal â ’matab diweddaraf y clown o Faer Llundain i’r Refferendwm Ewropeaidd. Ond lecsiwn Cymru? PA lecsiwn? Chwarae teg, mae Leanne Wood wedi trio gwneud ei gorau glas i atgoffa Cymry a Brits di-glem am fodolaeth y Sembli trwy ymddangos ar Any Questions o Swydd Gaer a Question Time o Gaerwysg yn ddiweddar, gan wylltio lot o’r twitteratis gyda'i “Wales this, Wales that”. Eitha reit hefyd, a blas o’r hyn mae gwledydd datganoledig Prydain yn ei deimlo a'i ddioddef pan fo’r rhaglenni hyn yn trafod pynciau Lloegr yn unig, o streic y darpar feddygon i’r academïau addysg.

Mae pethau’n wahanol ar deledu a radio nes adra wrth gwrs, gyda’r BBC ac ITV yn mynd ati i’n hatgoffa o bwysigrwydd Mai'r pumed. Dwi wedi osgoi’r darllediadau gwleidyddol fel y pla, cofiwch chi. Ond wythnos diwethaf, cawsom y gyntaf o ddwy raglen drafod yr arweinwyr ar ITV Cymru dan law Adrian Masters o’r Coleg Cerdd a Drama. Cwmwl parhaus Port Talbot oedd y prif bwnc, cyn i Carwyn ei chael hi go iawn ar record simsan ei blaid ym myd addysg ac iechyd yn arbennig, a Leanne a Kirstie yn dangos eu gwd-gyrl power wrth ei lambastio o boptu. Roedd arweinydd newydd y Gwyrddion, Alice Hooker-Stroud Gymraeg ei hiaith, yn hyderus yng nghanol yr hen stejars, Andrew T Davies o’r Ceidwadwyr yn harthio bob hyn a hyn a Nathan Gill UKIP gyda llais ag arddeliad Dalek ar ei wely angau. Ar y cyfan, dwy awr - ie DWY AWR reit ddifyr.

Huw Edwards fydd y reffarî wrth i’r Wales Report gynnal yr ail seiat o Neuadd Dewi Sant Caerdydd nos Fercher yma, yn ffres o holi rhyw dwrist Americanaidd o’r enw Obama yn Westminster 'cw. Dim ond awr a hanner o raglen fydd hon am ryw reswm, pwynt bonws i griw ITV felly. Wrth gwrs, dagrau pethau ydi na chawn ni fyth rhaglen o’r fath ar S4C, gyda dim ond dau o’r chwech yn gwbl rhugl yn y Gymraeg. Comisiwn reit neis i gyfieithydd ar y pryd, serch hynny. Ond nid Linda Brown o gwmni Run Sbit.

Yn lle hynny, mae gennym ni Pawb a’i Farn. Oes tad. Mi drois i wylio’r hanner awr olaf o westy St Georges (addas iawn) Llandudno ar ôl chwip o ddrama ar BBC1 yr un pryd. O uchelfannau Line of Duty i uffern Felix Aubel, boi fuasai’n gallu taranu a thaeru efo’i gysgod ei hun. O be welais i (tu ôl i’r glustog yn bennaf), roedd Siân Gwenllïan isio tagu Siôn Llafur, Aled Roberts hynod ddibynadwy dal wrthi fel lladmerydd un dyn dros y LibDems prin eu hymgeiswyr Cymraeg, a hogan ifanc IwCip mewn bydysawd arall. Hyn oll o flaen Costa Geriatriciaid hynod amheus o'r "hen Giaerdydd na", gyda chryn dipyn uchel eu cloch am i’r Gogladd (Cymru) ymuno â Northern Powerhouse y Gogladd arall (Lloegr) ac i’r diawl â chyd-Gymry i’r de o bont fawr Llanrwst. Bron na allech chi glywed Dewi Llwyd yn ochneidio mewn anobaith.

Es i ’ngwely noson honno yn teimlo’n benisel iawn iawn. Nodyn gan y doctor: osgoi’r rhaglen o Abertawe nos Iau ar bob cyfrif a chanolbwyntio ar 90 munud o gampwaith cnoi ewinedd Jed Mercurio. A marcio'r bleidlais bost reit handi. 

Pwy sy'n sefyll dros y Difaterwyr eto?


  

  • The Wales Report: Welsh Leaders' Debate Live with Huw Edwards BBC1, 8.30 nos Fercher 27 Ebrill
  • Line of Duty BBC2, 9pm nos Iau 28 Ebrill
  • Pawb a'i Farn S4C, 9.30 nos Iau 28 Ebrill