#Senedd16



Beti George, Sharon Morgan, Gareth Wyn Jones, Rhodri Morgan a Hywel Williams. Pump gafodd y fraint amheus o holi a stilio arweinwyr y prif bleidiau sy'n ymgiprys am sedd a grym yn etholiad Cymru eleni, fel rhan o arlwy Y Ras i'r Senedd gan griw'r Byd a'r Bedwar. Toedd y Gwyrddion ddim yn rhan o'r rhaglen, mwya'r piti, er i Alice Hooker-Stroud brofi'n ddigon tebol yn nadl arweinwyr y BBC ac ITV. Doedd gen i, yn wahanol i lawer, fawr o fynadd efo monolog-sgetsh agoriadol Dylan Iorwerth, ond roedd slot y pum holwr gwadd yn ddigon difyr. Ac eithrio'r Llundeiniwr o Gymro efallai, Dyn y Sefydliad a chyn-gynghorydd John Coed-coch sy'n ceisio creu enw iddo'i hun fel sylwebydd "craff" o'r tu allan ond sy'n ymdebygu i Victor Meldrew wedi chwerwi efo'i famwlad am ryw reswm

Byddai'n braf cael y pump nol rownd bwrdd ar S4C noson y canlyniadau, er mae'n siwr bod ganddyn nhw bethau rheitiach i wneud na mynegi barn ar ganlyniadau etholaeth Delyn am hanner awr wedi tri y bore.

A beth am Catrin Penlan y cyflwynydd? Hi oedd yn cloi pob rhaglen trwy holi Leanne, RT Davies, Gill, Williams a Jones ar leoliad allanol - gan bigo beiau ac ailadrodd y cwestiwn wrth i'r gwleidyddion siarad mewn damhegion pleidiol. Trueni felly, mai trwy gyfrwng y Saesneg y bydd hi'n gweithio ar wawr y canlyniadau fel rhan o garfan ITV Cymru-Wales. Mi fydda i'n switsio o sianel i sianel, beth bynnag, efo diwrnod wyliau ddydd Gwener yma. Ie, trist iawn feri sad. Siwr braidd mai S4C gaiff y prif sylw, gyda Dewi Llwyd, Vaughan Roderick a Bethan Lewis yn mynd ben-ben â Bethan Rhys Roberts a Nick Servini ar BBC1 - a phyndits fel Richard Wyn Jones yn pendilio rhwng y naill iaith a'r llall. Gyda'r Gorfforaeth yn addo "ei arlwy mwyaf cynhwysfawr erioed i gyd-fynd ag Etholiad y Cynulliad 2016", bydd Radio Cymru yn cynnig "Dewi Llwyd, Vaughan Roderick a thîm o newyddiadurwyr yn cyflwyno canlyniadau etholiad y Cynulliad 2016 wrth iddyn nhw gyrraedd". Howld on Now John. Darllediad ar y cyd ag S4C felly.

Felly, gofalwch fod digon o goffi cryf yn y pot, bricsen o siocled ar y bwrdd, a mwynhewch y canlyniadau byw, y cyffro a'r mwydro wrth i'r swyddog canlyniadau fwrdro'r Gymraeg unwaith eto eleni.

Ac ymateb y sianeli Prydeinig? Etholiadau lleol Lloegr a Maer newydd Llundain fydd canolbwynt y bydysawd. Ac eithrio'r Alban, berig mai go isel ar agenda golygyddion newydd BBC News, Sky ac ITN fydd llywodraethau newydd y parthau datganoledig.