Deugain a mwy


Anghofiwch am y penawdau negyddol. Ffigurau gwrando gyda'r isaf y ganrif hon (lawr o 171,000 yr wythnos yn 2009 i 103,000 yr wythnos yn 2016). Ffigurau gwrando annelwig RAJAR sydd ddim yn ystyried faint ohonom ni sy'n gynyddol ddal i fyny ar wefan BBC Iplayer. Ond ffigurau, serch hynny, sy'n hawlio'r penawdau (yn enwedig gan elynion yr iaith o fewn Wales Online a BBC Wales) ac yn poeni Betsan Powys byth ers iddi dderbyn yr arswydus barchus bali swydd Golygydd Rhaglenni Radio Cymru yn haf 2014.

Anghofiwch am rwan, achos mae'n achos dathlu! Mae'r hen orsaf yn ddeugain oed 'leni, fel y clywsom wythnos diwethaf wrth i Gwyn Llywelyn - y darllenydd newyddion cyntaf - gamu i slot y Post Cyntaf a jingls Helo Bobl yn croesawu Al Huws. Ac yn eironig, daeth ail orsaf dros dro Radio Cymru Mwy i ben fel rhan o arbrawf trimis a aeth rhagddo'n "dda" yn ôl Ms Powys. Fel un o'r ychydig breintiedig oedd yn gallu gwrando ar gloc radio digidol yn y De-ddwyrain (roedd gofyn i weddill Cymru wrando'n fyw trwy ap Facebook, iplayer, ac ar deledu lloeren), cefais flas ar gerddoriaeth a gwamalu ben bore Carl ac Alun yn arbennig, ac roedd slot Caryl yn dwyn i gof rhaglenni hynod boblogaidd Caryl a Daf Du a gafodd y fwyell wrth i'r orsaf fachu Dylan Jones amser brecwast. Wrth gwrs, roedd llu o gyflwynwyr eraill na chlywais mohonynt - o'r comedïwr Steffan Alun i'r DJ Elan Evans - ond rhyw wrando brysiog oedd hi acw rhwng cawod, cornfflêcs a bws nymbar 24 i'r swyddfa. Mae rhywun yn diflasu ar undonedd y Post Cyntaf weithiau a'i benawdau/mymryn o ddyfnder wedyn/adolygiad o bapurau Lloegr/straeon chwaraeon a nôl i benawdau eto wedyn. Dw i'n aml yn piciad at Today Radio 4  am fwy o holi a stilio treiddgar ambell waith, Classic FM dro arall. Dibynnu ar yr hwyliau. Felly, roedd Radio Cymru Mwy yn newid yn chênj braf ambell fore.

Wrth i rywun (fi) aeddfedu/heneiddio, rhyw fersiwn Radio 4 o Radio Cymru sy'n apelio fwyfwy. Iawn, dw i'n mwynhau rwdlian Tudur Owen a slot hamddennol Ifan Jones Evans ar ddydd Sadwrn ac wrth fy modd efo Dewi Llwyd, Beti, Dei Tom a Stiwdio Nia Roberts yn ddeddfol ar y Sul. Dw i ddim balchach efo rhaglenni Richard Rees, Gari Wyn na Swn Mawr y Prynhawn. Does gen i fawr o ots o golli'r Talwrn clîcadd chwaith. Mi wrandawa i ar Georgia Ruth ambell waith r'ôl swper, Lisa Gwilym weithiau, ond y teli bocs neu'r e-lyfr bia hi fin nos. Ac yn niffyg drama, dal i fyny ar rai'r iaith fain fydd hi - y diweddaraf oedd Curious Under the Stars gan Meic Povey, am foi lleol yn dychwelyd gyda'i wraig o Lundain i fro ei febyd ar arfordir y gorllewin, i redeg tafarn bron â mynd â'i phen iddi - gyda brodorion smala a naws Cantre'r Gwaelod-blaenslais-Dylan Thomas i'r cyfan. Gyda chast o Gymry Cymraeg yn bennaf (Ifan Huw Dafydd, Elis James, Eiry Hughes, Matthew Gravelle, Siw Hughes), cefais flas mawr ar hon wrth ymlwybro lawr yr A470 syrffedus wedi'r gwyliau. Mae'r holl benodau 45 munud yr un yn dal ar y we i'r rhai chwilfrydig (dalld?!) o'ch plith, ac mae 'na fwy i ddod yn ddiweddarach eleni.