G'day Gymru


Mae ganddon ni gyd ein pleser euog. Boed cyfresi "realaeth" wedi'u sgriptio fel TOWIE neu Made in Chelsea, syrcas I'm a Celebrity (sy'n cynnwys llawer o gymeriadau'r ddwy sioe flaenorol) i'r ffair ffrîcs CBB (plebs sy'n perthyn i s'lebs angof) neu hyd yn oed gyfraniad ein Sianel Genedlaethol ni i'r genre - yr hynod ddisylwedd Jude Cissé: Y WAG ar Wyliau. Sioe sebon 30 mlwydd oed ydi f'un i. Heb ronyn o gywilydd, dw i'n tapio'r gyfres i'w mwynhau cyn troi am y cae sgwâr. Wedi diwrnod o ymlafnio drwy jargons Llywodraeth Cymru sy'n ddigon i ladd ysbryd unrhyw un, y peth ola mae rhywun eisiau ar derfyn dydd ydi Huw Edwards â gwep trefnydd angladdau yn siarad Brexshit (dw i'n cael hynna gan wasanaeth ardderchog Channel 4 News am 7 diolch yn fowr). Na, am ddeg yr hwyr, efo panad (er gwaetha'r cynghorion gwae) a thraed i fyny, mae'n bryd dal i fyny efo hanner awr ffwrdd-a-hi yng nghwmni rhai o gymeriadau glandeg swbwrbia Melbourne. Ydw, dw i'n noswylio efo Neighbours. A dyna fi wedi'i deud hi.

Mae'r arwyddgan enwog yno o hyd, y cartrefi brics modern bob amser ar agor i ffrindiau hoff gytun a ddim mor gytun, a phyllau nofio cyn lased â'r awyr yn union fel oedden nhw yn nyddiau'r eiconig Madge, Plain Jane Superbrain, Des a Daphne, Mrs Mangel a Bownsar y ci. Wrth gwrs, mae yna lu o gymeriadau ifanc identikit euraidd mor brennaidd â stordy MFI ers talwm ond mae'r hen stejars dal i fynd - Susan a Dr Karl, yr unig ddoctor sy'n ateb pob argyfwng yn Erinsborough, Steph y lesbiad o feicar bellach wedi dyweddio â dyn (fersiwn Oz o Gwyneth Jones?) a Toadfish bellach yn dwrna parchus. Mae'r hen Harold Bishop a Lou Carpenter yn ymddangos o'u hymddeoliad bob hyn a hyn, pan fo priodas neu brofedigaeth yn galw. Ac mae JR y stryd, Paul Robinson, yn dal i gynllwynio yn erbyn pawb a phopeth.

Fel arall, dw i'n 'nabod neb. Falle bod y setiau'n dipyn mwy cadarn nag oedden nhw'n yr 80au, ond mae'r actio mor sigledig ag erioed bob hyn a hyn (dw i wedi gweld actio gwell gan Gwmni Drama Nebo ar brydiau) a'r plotiau torcalon yr ifanc serchus wedi'u hailgylchu'n gyson ers dyddiau Scott a Charlene. Does dim pall ar berthynasau coll o bell, na chymeriadau'n ôl o farw'n fyw. Y diweddaraf ydi Dee Bliss, gwraig Jarrod 'Toadie' Rebecchi, a foddwyd r'ôl i'r car priodasol hedfan dros y dibyn yn 2003. Ac i'r don (wel, un neu ddau) o wylwyr newydd sy'n rhy ifanc i gofio'r stori honno, cawsom grynodeb stacato gan Stonefish ei frawd cyn Dolig: "...she looks like your DEAD WIFE DEE" wrth hwrjio llun ffôn lôn o flaen Toadie cegrwth.

Na, tydi cynildeb ddim yn rhan o grefft sgriptwyr Neighbours.


Ond be di'r ots? Mae'n braf rhoi switsh-off i'r ymennydd weithiau, ac mae heulwen diderfyn Ramsay Street yn falm i'r enaid ganol gaeaf noethlwm ni. A diawcs, dw i'n malio mwy am Dr Karl a Susan na wnai fyth am gymeriadau Byw Celwydd.