5 peth



Erthygl ysbeidiol am raglenni sy'n hoelio sylw, ac sy'n dal ar gael ar Clic ac Iplayer

Russia with Simon Reeve, BBC2
Cyfres dywysedig lle mae'r cyflwynydd hawddgar yn teithio miloedd o filltiroedd ar draws gwlad fwya’r byd, mewn hofrennydd, jetsgi eira a’r Trans-Siberian eiconig (tipyn mwy atyniadol a dibynadwy na Non-Arriva Wales). O ‘glampio’ mewn iwrt gyda ffermwyr ceirw lle mae tymheredd o -30 gradd yn gyffredin, ymweld â ‘Vegas’ Vladivostok llawn casinos i ddenu’r biliwnyddion Asiaidd, gweld effeithiau erchyll alcohol ar werin bobl, chwilio am deigrod Siberia, picied i gaffi sy’n eilunaddoli Putin, i dreulio diwrnod cyfan yn y ddalfa gyda’i griw camera gan yr FSB hynod amheus (KGB yr 21ain ganrif) - go brin fuodd Judith Chalmers ar wibdaith o'r fath. Mae’n awr diddorol dros ben (hyd yn oed os nad yw’r cyflwynydd felly), yn weledol wych ac yn agoriad llygad i wlad gyfareddol dan law haearnaidd yr Arlywydd. Jest peidiwch â sôn am Gwpan y Byd 2018.

Deuawdau Rhys Meirion, S4C
Cyfaddefiad - welais i mo’r gyfres gyntaf, ar ôl ’laru braidd efo’r hollbresennol Mr ‘Anfonaf Angel’ ar y pryd. Ac yn niffyg adloniant nos Wener, a chryn ganmoliaeth gan eraill, fe rois i gynnig ar hon. A mwynhau. Yn arw. Oce, doedd un Elin Fflur ddim cweit at fy nant, ond mi fwynheais i raglenni Daniel Lloyd (heb Mr Pinc) ac Al Lewis yn arw, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at yr unigryw Lleuwen Steffan o Lydaw. Cyfuniad o sioe siarad, canu a theithio - a syniad hollol wreiddiol i S4C am unwaith. Siŵr braidd y gwelwn ni CD arall erbyn Dolig?

The Deuce, Sky Atlantic
Gwylio hollol hanfodol i ffans The Wire, cyfres ddrama am fasnach gyffuriau Baltimore y 1990au. Diwydiant pornograffi Efrog Newydd y 1970au ydi’r gefnlen y tro hwn, a llond Times Square o gymeriadau brith - y pimps, y puteiniaid a’r perchnogion busnes - wedi’u gwau’n gelfydd mewn stori sy’n datgelu dow-dow a chyfres sy’n diferu o naws fanwl-gywir y cyfnod, o’r Cadillacs i’r fflêrs, y smociwrs a’r strydoedd llawn tomenni sbwriel. Dychmygwch gymeriadau Daniel Owen neu Dickens wedi’u plannu’n NYC. Gyda Maggie Gyllenhaal a James Franco yn serennu fel actorion a chynhyrchwyr. Ac na, nid pyrfyn mohonof er gwaetha’r testun coch.

Dylan ar Daith, S4C
Mae Mr Golwg wedi codi pac unwaith eto, ac ar ôl ymweld â Gwlad Yncl Sam ddwy flynedd yn ôl, y Wlad Sanctaidd oedd y gyrchfan ddiweddaraf. Hanes Lily Tobias a gawsom yn ‘O Ystalyfera i Israel’, awdur ac ymgyrchydd fu’n dyheu am diriogaeth i'w chenedl Iddewig. Ond hanes trist hefyd, gyda sawl clec personol ar y ffordd, gan gynnwys llofruddiaeth ei gwr dan law’r Arabiaid yn Hebron wrth iddi ’sgwennu golygfa debyg mewn nofel ar y pryd. Tipyn o sylwedd nos Sul, ganol X Factor a saga sebonllyd am frenhines Loegr.

Bang, S4C
Dw i’n dal i wylio, er ddim mor awchus â thrydedd cyfres 35 Diwrnod. Gweler y blogbost flaenorol am ddiffyg amynedd.