Celwyddgi


Gyrfa gymysg fu un Ioan Gruffudd hyd yma. Efallai bod y c’radur yn ei chael hi’n anodd cael gwared ar stigma’r actor sebon fel Gareth Wyn Cwmderi rhwng 1987 ac 1994. 

I’r gwylwyr Prydeinig, mae’n enwog fel y morwr Horatio yng nghyfres Hornblower ITV (1998-2003) ac ar lwyfannau ehangach fel capten llong anffodus yn y ffilm Titanic (1997), fel cymar camp i Mathew Rhys yn Very Annie Mary (2001) a’r gwyddonydd â phwerau goruwchnaturiol yn ffilmiau Fantastic Four (2005 a 2007). Un o’i ffilmiau diweddaraf y gwyliais ar daith i’r Baltig oedd San Andreas (2015) llawn effeithiau arbennig ond prin ei sylwedd, fel basdad o ddyn busnes. A hen gythraul ydi o yn ei ran ddiweddaraf ar deledu hefyd, Liar, drama hynod ddadleuol ITV am lawfeddyg sy’n mynd benben ag athrawes (Joanne Froggatt gynt o Coronation Street) a’i cyhuddodd o’i threisio ar ôl dêt. Am y ddwy bennod gynta, doedden ni wylwyr ddim yn siŵr iawn p’un o’r ddau i’w gredu, gyda’r naill gymeriad anghynnes â’r llall yn actio’n ddiniwed - er y buasai angen sgwennwr dewr IAWN i roi’r bai ar y ferch mewn gwirionedd. Erbyn y drydedd bennod, fodd bynnag, daeth i’r amlwg mewn ôl-fflachiau mai’r Dr Andrew Earlham â dannedd-a-lliw-haul Hollywood wnaeth sleifio’r cyffur GHB i win Laura Nielsen - hyn oll â thair pennod i fynd. A ninnau felly’n gwybod pwy oedd y drwg yn y caws hanner ffordd drwy’r gyfres, pa ddiben parhau i wylio? Mae’r ddrama bellach yn mynd i dir thriller, gyda Laura yn prysur wneud gwaith allgyrsiol yn ymchwilio i gefndir niwlog y Doc a hunanladdiad (honedig?) ei wraig gyntaf yng Nghaeredin.  A neithiwr, cawsom olygfa iasol o Andrew Earlham yn llithro gefn liw nos i gartre’r DI Vanessa Harmon feichiog, a awgrymodd yn gryf bod gynnon ni serial rapist yma.  Pennod a adawodd hen flas cas go iawn. Dw i wir  heb deimlo mor sâl wrth wylio drama deledu ers tro byd.


Alla i ddim dweud fy mod i’n mwynhau hon. Nac eisiau gwylio go iawn. Mae’n llawn cymeriadau annifyr ac isblotiau deud celwyddau a rhoi cyllyll yng nghefnau’i gilydd. Mae’r gwaith camera trawiadol o arfordir Caint a thyrau gothig Caeredin, a’r holl porno cartrefi godidog yn cyd-daro’n chwithig â’r awgrym cryf o drais rhywiol.  


Ond damia, mae ’na rywbeth sy’n dal i’m denu i wylio am naw bob nos Lun. Ac o leiaf wnaiff neb anghofio’r actor Ioan Gruffudd am sbelan eto...