Danmark am byth!



Mae’r hydref tamp a thywyll yn dechrau cau amdanom. Sy’n golygu mwy o ddigwyddiadau cymdeithasol ac ymarferion corau mewn festris moel a neuaddau pentref llaith gyda’r hwyr, pan mae’n llawer haws gorwedd ar wely o glustogau, troi’r gwres 'mlaen a chynnau dwsin o ganhwyllau i gyflwyno mymryn o hygge i’n byd. Ond hyd yma, symol ar y diawl ydi’r arlwy dramatig. Mae BBC Four, cartref gwreiddiol popeth Ewro-noir yn siomedig iawn ar y funud, sy’n golygu bod *rhaid mynd i’r Fox & Hounds bob nos Sadwrn rŵan. A ’sdim byd o werth wedi’i recordio i leddfu’r penmaenmawr ar bnawniau Sul wedyn. 

Tak i’r drefn felly am Walter Presents, gwefan bocsets Channel 4, gyda chyfresi gwych (a ddim mor wych) o Sweden i’r Iseldiroedd a Brasil. Arferiad diweddar ydi darlledu’r bennod gyntaf ar Channel 4 cyn gorfodi’r gwyliwr i fynd ar-lein i wylio’r gweddill. Arferiad yr oes am wn i, gyda mwy o mwy yn gwylio ar gyfrifiaduron llechi neu ffonau poced â sgrin bys bawd, ond dw i’n foi reit ffasiwn ac yn dal i ffafrio’r hen Doshiba draddodiadol yng nghornel y lolfa. Mae S4C yn ein prysur hannog i wneud yr un peth hefyd, gyda Hansh a’u tebyg ar youtube. Dw i ddim balchach.

Ond yn ôl at Norskov. Sdim dau ddarn o gorff ar ganol pont na ditectifs siwmperog mewn warysau bol buwch fel y cyfyrdryd eraill o Ddenmarc, ond hanes plismon o’r enw Tom Noack (Thomas Levin, gohebydd newyddion Borgen gynt) sy’n  dychwelyd i’w dref borthladd enedigol lle mae cyffuriau’n rhemp - ac sy’n taro’n nes adref wedi i’w gyn-gariad farw o orddos o gocên pur. Ond fel y gyfres Daneg eraill, mae ’na bolitics ynghlwm wrth y cyfan a tharo bargeinion amheus iawn tu ôl i’r wên deg a’r sbin cysylltiadau cyhoeddus. Mae’n llifo’n dda, yn cynnwys cymeriadau crwn dy’ch chi’n malio amdanynt, ac wedi’i gosod ganol gaeaf noethlwm fel pob cyfres noir gwerth ei halen. O, ac mae’r gwaith ffilmio’n dilyn yr arddull Scandi lle mae awyrluniau’n dangos goleuadau ceir yn nadreddu yn y nos. Heb sôn am ambell dŷ go chwaethus yr olwg. Mae Nordisk Film & TV Fond wedi cyhoeddi bod cyfres arall i ddod.  

Super!