Golwg I - Hydref dramatig

Dyma'r gyntaf o ddwy golofn wadd 'sgrifenais i gylchgrawn Golwg dros yr haf. A'r olaf am sbel go lew eto. 


Waeth i S4C roi’r gorau iddi ganol Awst ddim. Cau siop wedi bwrlwm y Sioe Fawr a’r Brifwyl, ac ailagor swyddfa Parc Tŷ Glas gyda thymor newydd yr ysgolion a’r Cynulliad Cenedlaethol. Achos pwy mewn difri’ calon sydd eisiau gwylio Noson Lawen ugain mlwydd oed adeg oriau brig nos Sadwrn neu uchafbwyntiau Dechrau Canu 2009 ar nos Sul, heblaw cydnabod ‘Cwlwm’ neu berthnasau Bertie’r ail denor sy’n ei fedd ers ache.
Sgileffeithiau amlwg “torri’r got yn ôl y brethyn” oedd 63% o ailddarllediadau ar S4C y llynedd yn ôl Adroddiad Blynyddol 2016-17 Awdurdod y Sianel, ac “…anallu i ddarparu drama wreiddiol, safonol drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig gan fod hyn yn nodwedd gynyddol o’r hyn a geir ar y prif sianelau eraill”. Diolch i’r drefn am ddramâu tramor BBC Four yn y cyfamser, megis Sé quién eres boncyrs o Barcelona ac eraill fel cyfres ysbïo Hebraeg False Flag ar sianel Fox yng nghrombil fy mocs Sky.

 Serch hynny, mae’r hen stejar Pobol y Cwm yn dal i gynnig chwip o straeon yr adeg hon o’r flwyddyn yn enwedig triongl serch Sioned-Gary-Dani a ddenodd y gorau o’r actorion profiadol hyn. Tydi stori gancr mam DJ, ar y llaw arall, heb gydio gymaint er gwaethaf perfformiadau dirdynnol Sara Harris-Davies a Carwyn Glyn. Y drwg ydi mai wyneb cymharol newydd ydi hi, a ninnau’r gwylwyr yn gorfod malio amdani heb ddod i’w nabod yn iawn. Does gen i fawr o fynedd efo’r Doc chwaith (na, nid rant gwrth-Bryn Fôn mohono) na Liv y chwaer golledig y cofiodd Tyler a Dani amdani’n sydyn reit.

Mae pethau’n gwella o fis Medi ymlaen, wrth i gyfresi newydd gwreiddiol ymddangos. Cydgynyrchiadau bei-ling wedi’u gosod mewn ardaloedd cymharol ddieithr o ran dramâu Cymraeg, yw’r themâu amlwg.

Y gyntaf yw Bang! (10/9/17), cyfres wyth rhan gyda Jacob Ifan a Catrin Stewart yn actio’r brawd a chwaer, dihiryn a phlismones â’u byd ben i waered ar ôl i ddryll ddod i’w meddiant. Wedi’i sgwennu gan Roger Williams, awdur â phrofiad helaeth o bortreadu’r Gymru gyfoes yn Caerdydd a Tir Sir Gâr, cafodd hon ei ffilmio’n Port Talbot a Chwmafan ac felly’n adlewyrchu’r ardal honno trwy bendilio rhwng Gymraeg a’r Saesneg fel Gwaith Cartref. Nid un i’r puryddion, beryg.

I ddilyn ym mis Hydref fydd Un bore Mercher, cynhyrchiad cefn-wrth-gefn diweddaraf S4C a’r Bîb wedi’i gosod yn Nhalacharn, lle mae byd twrna (Eve Myles) yn chwalu gyda diflaniad disymwth ei gŵr – ac sy’n datgelu cyfrinachau go anghynnes am y gymuned leol wrth iddi ymchwilio i’r dirgelwch. Mae’n swnio’n ddifyr, a diddorol fydd gweld faint o grap ar y Gymraeg sydd gan Ms Myles mewn gwirionedd. Rhaid bod y disgwyliadau’n aruchel, gan fod y fersiwn Saesneg Keeping the Faith eisoes wedi’i gwerthu i’r Unol Daleithiau.

Dw i’n awchu am y tymor newydd yn barod.