Mae'r Seirennau'n galw...

 
“Pen bach”.  Dyna’r peth cyntaf  ddaeth i’r meddwl ar ôl gweld yr hys-bys ar S4C. Yr ail beth oedd, “apêl amlwg at fois hoyw a’r genod” wrth i’r cyn-fewnwr bronnoeth fynd drwy’i bethau yn y gampfa.

Ond cefais fy synnu ar yr ochr orau gan Mike Phillips a’r Senghenydd Sirens cyfres bry ar y wal lle mae cyn-chwaraewyr rhyngwladol yn helpu carfan o amaturiaid ar hyd y tymor - nid yn annhebyg i Clwb Pêl-droed Malcolm Allen yn Llanberis bedair blynedd yn ôl. Syndod braf arall oedd gweld cymaint o siaradwyr Cymraeg yn y ryc, diolch yn bennaf i ysgolion cynradd Cymraeg ardal Caerffili ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Pluen yn eu het, heb os. Fe wnes i gyfri’ chwe chwaraewraig Cymraeg eu hiaith, o Elaine Wood i Kayleigh Mason ac Ann-Marie Griffiths. Ac os ydi camerâu Cynhyrchiad Orchard wedi llwyddo i’w cael nhw i hyfforddi, gwlychu, rhegi a chymdeithasu yn y Gymraeg, gorau oll.
Aeth y rhaglen gyntaf o chwech a ni o ddechrau tymor heb hyfforddwr, i gyflwyno’r mab fferm a’r model rhan-amser o Sale Sharks, cwrs rhwystrau lleidiog iawn i’r genod a gornest hynod gorfforol yn erbyn nytars Croesyceiliog (29-24 yn diwedd).
Gyda chynnydd aruthrol yng ngêm y merched, o ychydig gannoedd dair blynedd i dros 10,000 erbyn heddiw yn ôl BBC Cymru Fyw, a’r garfan genedlaethol yn denu mwy o sylw teledu a thyrfa fawr (roeddwn i’n un o’r 4,000 a mwy yng ngêm Lloegr ym Mharc yr Arfau adeg 6 Gwlad eleni), fe ddylai hon fod yn gyfres boblogaidd.

A boi digon gwylaidd ydi Mr Phillips yn y bôn. Sori, Meic.
Un pwynt bach i gloi, gyfryngis Cymraeg. Mae gynnon ni air hollol dderbyniol, dealladwy a chanmil gwell na “sialens”. Her. Hwnna ydi o. Her.