Becks ar y bocs


Dafad ddu’r teulu yn dychwelyd i fro ei mebyd, ymhell o’r ddinas fawr. Merch dridegwbath oed â rhyw ddirgelwch ynglŷn â’i chefndir. Natur a’r wlad o’i chwmpas yn ddelfrydol ar yr olwg gyntaf, ond gydag elfennau sinistr yn llechu dan yr wyneb sinematig. Na, nid adolygiad arall o ddrama noir-aidd y Gogledd ar S4C, ond un o bellafoedd gogleddol arall y tro hwn. Sweden.

Croeso i Rebecka Martinsson: Arctic Murders ar More4 bob nos Wener, a blonden nodweddiadol Sgandi (Ida Engvoll â rhyw dwtsh o’r gantores Gwenno Saunders efallai?), twrna treth o Stockholm sy’n dychwelyd adre’ i hen dref fwyngloddio Kurravaara, llawn helwyr a choetmyn, ar gyfer cnebrwn ffrind o ficer a fu farw dan amgylchiadau amheus. Mae hon yn debycach i gyfres dditectif ITV, Vera, na’i chyfnitherod Llychlynnaidd Saga Noren a Sarah Lund, er i’r siwmper wlanog ymddangos yn y bennod hon. Roeddwn i’n poeni i ddechrau ei bod hi braidd yn rhy dow-dow i mi. Hynny a’r ffaith iddi gael ei gosod tua hirddydd haf, a phiwiad bach yn bla yn ardal y llynnoedd. Roedd y golygfeydd braf hynny’n f’atgoffa i o ddrama Swedeg arall, Thicker than Water, un arall o gynhyrchion Walter Presents.

Ond mae ’na gymeriadau difyr ymhlith criw’r Polisen lleol, gan gynnwys Mella feichiog ddi-lol, ac yn y gymuned glos ehangach fel Nalle, bachgen ifanc Downs, sydd hefyd yn rhan o olygfa wirioneddol ysgytwol y bennod tua’r diwedd. Ac fel pob ffuglen gwerth ei halen, mae’r lleygwraig (gweler Jessica Fletcher Murder She Wrote a Nikki Alexander Silent Witness) yn gneud gwaith yr heddlu drostyn nhw.

Dw i heb ddarllen na chlywed am ’run o nofelau gwreiddiol Åsa Larsson, ond mae’r gwybodusion yn dweud bod y fersiwn deledu dipyn mwy dof a llai gwaedlyd na’r gair print. Ond, gyda phennod 90 munud wythnos nesaf wedi’i gosod ganol gaeaf noethlwm, mae hon i’r dim ar gyfer nos Wener aros-i-fewn ddarbodus wedi’r Dolig.