Cyn delo'r hwyr




Mae’n ddwy flynedd ers inni ddweud farväl wrth Kurt Wallander pruddglwyfus y BBC, wrth i ddiabetes ac yna Alzheimer lapio’n araf amdano, fel ei dad o’i flaen. A chyda’r awdur ei hun wedi’n gadael o ganser, a’r llyfr olaf wedi’i addasu ar gyfer y sgrin fach yn Sweden a Lloegr, go brin y gwelwn ni’r ditectif o Ystad fyth eto. Mi fydd y nofelau a’r cyfresi dilynol yn aros yn hir yn y cof, heb son am gefn gwlad tonnog a thwyni tywod diddiwedd talaith Skåne yn ne-ddwyrain Sweden, ac i mi’n bersonol, Krister Henriksson oedd y boi yn fwy na Syr Ken Branagh. A tan ddoith cyfres olaf Bron/Broen i BBC2 yn hwyrach yn y gwanwyn, mae yna fwlch mawr Swedaidd am y tro. Dw i’n glafoerio'n barod.



Yn y cyfamser, dw i wedi mopio ar Innan vi dör aka Before we die gan Walter Presents ar C4. Stori ias a chyffro am Hanna Svensson, mam amheus y flwyddyn a roddodd ei mab ei hun yn y clinc am ddelio cyffuriau, ac sy’n osgoi ymddeoliad gorfodol yn 50 trwy lywio ymchwiliad cudd i lofrudd ditectif arall (a’i chariad ar y slei). Achos sy’n ei harwain at is-fyd tywyll a threisgar o elyniaeth rhwng dau o feicwyr lleol, maffia Croatiaidd sy’n rhedeg bwyty Eidalaidd parchus yr olwg, a'r fasnach gyffuriau Dwrcaidd. Hynny, a mater bach o berthynas Hanna â hysbyswr (informant) yr heddlu o’r enw Inez SBOILERS! SBOILERS! sy'n digwydd bod yn fab iddi – pishyn dros ei ben a'i glustiau mewn cariad a thrwbwl efo un o’r Croatiaid.  Ac ar ben bob dim, mae rhywun o’r heddlu’n porthi gwybodaeth gyfrinachol i’r maffia gan arwain at baranoia gwaeth nag ymhlith aelodau o gabinet Carwyn Jones.  


Os ydych chi’n gobeithio am rhywfaint o porn dylunio Nordig a lampau £500 wrth wylio hon, fe gewch eich siomi’n rhacs.

Mae’r setiau’n fwy llwm a chyffredin ar y naw, y siots twristaidd neis-neis o Stockholm yn brin, a hyd y oed y Volvos wedi gweld dyddiau gwell. Ond da chi, gwyliwch am stori afaelgar, cymeriadau ffaeledig, a bydd yr awr yn hedfan. 

Does ryfedd ’mod i’n binj wylio.