Pobol y Bae


Mae’r datganoli mawr ar waith. Na, nid ym myd llywodraeth Cymru, ysywaeth. Mi fyddaf yn ganol oed ac yn dal i bechu pobl Treorci cyn y bydd palas pren a gwydrog Bae Caerdydd yn llwyr haeddu’r teitl Senedd. Ond mae yna bethau mawr ar y gweill yn nghongol arall o’r Bae. Wythnos diwethaf, clywsom am gyhoeddiad hynod gyffrous y Bîb i agor ‘pentref drama’ ar safle 27 erw yno, mewn cyfnod pan fo cymaint o gwtogi a cholli swyddi. Y nod yw symud actorion a chynhyrchwyr BBC Cymru Wales o stiwdios Llandaf i rai tipyn mwy modern a sylweddol yn y Bae, gan ddod â chriw Pobol y Cwm a theulu Doctor Who dan yr un to. Dychmygwch Rodfa Lloyd George fel Sunset Boulevard Cymru, ac enwogion megis Matt Smith a Gwyn Elfyn yn ciwio’n Cadwalladers. Bydd ffotograffwyr Golwg ac OK yn paffio am y lluniau gorau!

Ydy, mae bosus Broadcasting House yn mentro y tu hwnt i’r M25 - a’r ffaith eu bod dan bwysau i ddyblu cynyrchiadau o Gymru ar BBC Prydain gyfan erbyn 2016. Nid bod hynny’n golygu y clywn ni fwy o acenion Cymreig (h.y., y cymoedd) ar y rhwydwaith chwaith, wrth symud Casualty o Fryste i Gaerdydd yn haf 2011. Dw i’n cymryd y bydd y gyfres sebon mewn ’sbytu wedi’i lleoli yn nhref ddychmygol Holby o hyd, ac y bydd y dyn camera’n piciad dros Bont Hafren i ffilmio golygfa o Bont Clifton i blesio selogion y West Country. Os felly, dim ond Charles Dale (Big Mac y porthor twp) a Suzanne Packer (Tess y nyrs glên) fydd yr unig stamp ‘Gymreig’ arni, a llond ward o ecstras lleol, mud. Mae’n amheus gen i a fydd Torchwood yno, gyda’r sïon y bydd y bedwaredd gyfres yn mynd i America. Mae’r criw cynhyrchu gwreiddiol - Russell T Davies, crëwr y gyfres, a Julie Gardner, cyn-bennaeth drama BBC Cymru - wedi gwreiddio’n Los Angeles. Americanwr yw’r prif gymeriad, Capten Jack (John Barrowman), ac mae’r rhan fwyaf o’r cymeriadau gwreiddiol naill ai wedi’u lladd neu adael i fagu teulu (Eve Myles fel Gwen). Heb anghofio’r ffaith fod y pencadlys eiconig ger Canolfan y Mileniwm wedi’i chwythu’n rhacs jibiders gan fom yn y gyfres ddiwethaf. Mi fyddai colli Torchwood yn ergyd mawr i froliant ‘Gwnaed yng Nghymru’ y BBC.

Yn y cyfamser, gobeithio na fydd Pobol y Cwm yn mynd yn angof yng nghanol y ‘mawrion’ Saesneg. Bydd Stryd Fawr Cwmderi yn cael ei hail-greu yn y Bae, gyda’r gobaith am fwy o setiau mewnol fel Cegin Anita, a rhai allanol fel iard go iawn i gwmni Dai Sgaffalde. Er gwaetha’r holl ddarogan gwae am golli gwylwyr, dyma gyfres ddrama bwysicaf a fwyaf poblogaidd S4C o hyd. Mae’n bwysig bod yna fuddsoddiad sylweddol yn elfen Gymraeg y Pentref Drama newydd hon.