Cachu Hwch.
Dyna fy ymateb cyntaf pan
glywais mai Eve Myles fyddai seren cyfres gefn-wrth-gefn newydd S4C a BBC
Wales. Peidiwch â ’nghamddeall i. Dw i’n ffan fawr o’r ferch o Ystradgynlais
byth ers dyddiau Belonging a Torchwood - pwy all anghofio’r
olygfa eiconig hon? - ond calla dawo am ail gyfres Broadchurch. Ac er
iddi gael ei magu yn un o bentrefi Cymreiciaf topiau Cwm Tawe/de Powys, mae’n
un o’r un o’r 80% nad ydynt yn medru’r iaith yn y Brexit-shire sydd ohoni
heddiw. A dyma feddwl pam ddiawl mae S4C yn dychwelyd i’r dyddiau annoeth hynny
o gastio enwau “mawr” di-Gymraeg yn y gobaith (aflwyddiannus gan mwyaf) o
farchnata a denu rhagor o wylwyr a sylw tu hwnt i Glawdd Offa. Cofier Edward Woodward yn Tân ar y Comin (1993) a Philip Madoc yn Yr Heliwr/A Mind
to Kill (1991-2002) yn actio’n Gymraeg fel petai ganddyn nhw lond ceg o bys
slwtj poeth.
**RHYBUDD - PEIDIWCH Â DARLLEN HEB WELD Y BENNOD GYNTA**
Ond yn ôl at Un Bore Mercher / Keeping
Faith (Vox Pictures), y
cyfraniad diweddaraf i slot noir-aidd nos Sul. Yma, mae Eve yn chwarae
rhan Faith Howells, mam a thwrna braf ei byd â thŷ 04 Wal mewn tref fach
ddel yn y Gorllewin (cyfuniad o Dalacharn, Pontardawe, llys barn Caerfyrddin a stiwdios enfawr Pen-y-bont ar Ogwr) cyn i’w byd droi ben i waered yn sgil diflaniad
disymwth ei gŵr Evan (ei chymar go iawn Bradley Freeguard) un bore - yep,
dyna chi - Mercher. Cyn hir, mae’n gorfod chwarae ditectif ac yn dod ar
draws cyfrinachau go anghynnes am ei chynefin. Ac mae lleoli’r gyfres yn y
Gorllewin yn wirioneddol hyfryd, yn ogystal â PR da i S4C cyn symud ei phencadlys
yno’r flwyddyn nesaf. Mae adolygiad cytbwys a chynhwysfawr Sioned Williams yn cyfeirio’n
smala at hyn. Rhwng pyliau o gawodydd, mae’r golygfeydd o ardal Dylan Thomas -
y castell, yr aber, y llwybrau arfordirol - yn drawiadol, ac yn helpu i greu
awyrgylch braf a chymuned glos lle mae pawb yn ’nabod pawb yn enwedig y Trwyn
Drws Nesaf (croeso mawr yn ôl i Menna Trussler).
Mae’r ddrama’n cychwyn gydag Evan
Howells megis gŵr a thad y flwyddyn sy’n bwydo a suo ei blant i gysgu tra aiff
ei wraig mas i slotian a sgrechian chwerthin efo criw i ddathlu ysgariad Lisa
(Catherine Ayres, sy’n parhau â chwota prosecco ei chymeriad Byw Celwydd).
Ond wrth gwrs, mae’r boi’n rhy ddelfrydol o’r hanner, a’r olwg boenus a’r smôc
ar y slei yn awgrymu nad yw pethau’n fêl i gyd, cyn iddo godi pac ar ei ffordd
i’w waith. Drama ddomestig gawson ni wedyn fwy neu lai, wrth i Faith orfod
cydbwyso gwersi nofio’r plant, pledio achos meddwyn lleol yn y llys, a gadael
112 o negeseuon ar ffôn lôn ei gŵr. Ac mae ei theulu yng nghyfraith yn cau
amdani, ac yn llawn ensyniadau am ei methiant i ‘blesio’ ei gŵr, wrth i
ddirgelwch y diflaniad ddwysau. Gobeithio y gwelwn ni lot fwy o’r Marion
Howells drwynsur, mam Evan - dwi’n gymaint o ffan o Rhian Morgan fel ’swn
i’n fodlon ei gwylio’n darllen cofnodion y Cynulliad am awr gron gyfan.

Ar yr wyneb, mae Faith yn llwyddo i gadw’r heddwch, ond ar ôl cau’r drws ar y busneswrs a’r nos, daw ei rhwystredigaethau
i’r amlwg. Roedd gwylio drwy ffenestr y gegin o’r tu allan, a Faith yn ffrwydro’n
fud fel Mount Etna wrth olchi llestri, yn drawiadol. Mae Eve Myles wedi’i geni
i’r rôl yma, a does ryfedd fod y cynhyrchwyr wedi’i phlagio i gymryd rhan er
gwaetha’r her ieithyddol. A doedd dim angen iddi hi, fel ninnau, boeni am safon
ei Chymraeg. Mae’n ynganu’n dda (fel y dylai siawns, ar ôl rhywfaint o Gymraeg
ail iaith yn yr ysgol), yn defnyddio ambell linell o Wenglish y stryd Sir Gâr,
ac mae’r golygfeydd rhyngddi hi ä’r plant yn hollol hyfryd a naturiol. Mae’r
dirgelwch yn prysur gyflymu wrth i Faith chwilio a chwalu drwy wardrob ei gŵr,
a chanfod bag plastig amheus ar y naw. Nage, nid ôl-rifynnau o Dogging in
Carmarthenshire, ond wig, pâr o sbectols, a cherdyn DVLA ei gŵr dan enw g’neud
â’r llun cuddwisg gwaethaf ers mwng Mathew Gravell yn Teulu.
Gorffennodd y bennod gyntaf yn fwy iasol,
gyda Faith yn ymchwilio i honiad gyrrwr tacsi (amheus?) iddo weld car Evan wedi’i
barcio ger rhyw fwyty carfyri, a dieithryn yn loetran y tu allan i’w chartref
â’r plant yn eu gwelyau heb warchodwr...
Yr unig fan gwan i mi’n bersonol, oedd y
defnydd o’r piano fel cerddoriaeth gefndir braidd yn rhy ffwrdd a hi i’r naws
ddirgel. Byddai tincial syml i godi croen gwydd wedi bod yn well, fel Forbrydelsen bob tro roedd Sarah Lund yn taro ar gliw newydd neu'n mentro i rywle bol buwch gyda’i
thortsh. Doeddwn i ddim balchach gyda cherddoriaeth glo a gyfansoddwyd gan Amy
Wadge chwaith, ond fi ’di hwnnw. Y gantores, gyda
llaw, ydi Ela Hughes – ac mae’r gyfres hon yn dipyn o achlysur teuluol, gyda’i
thad Aneurin Hughes yn actio rhan y tad-yng-nghyfraith, a’i mam Pip
Broughton yn gyfarwyddwr a chydgynhyrchydd y prosiect. Dw. I’n. Dweud. Dim. Gyda llaw, gorau po leiaf o ôl-fflachiau o Faith ac
Evan yn lapswchan mewn cae melyn, megis hys-bys siampŵ Timotei ers talwm
gawn ni (ymwadiad: mae mathau eraill o siampŵs ar gael).
Gair cyn cloi am y sgript a phroblem a
gododd gyda’r Gwyll hefyd. Mae’r
fersiwn Gymraeg wedi’i haddasu gan Anwen Huws, sgriptwraig brofiad Pobol y Cwm a Gwaith Cartref â chlust dda iawn am dafodiaith Sir Gâr. Ond y
ffaith ddiymwad amdani yw mai addasiad o syniad a sgript Saesneg ydi hon go
iawn, a hynny gan Matthew Hall brodor o Lundain â CV digon parchus fel nofelydd Saesneg a chyfresi teledu’r gorffennol fel Foyle’s
War a Kavanagh QC ar ITV a New Street Law ar gyfer y BBC. Ond os
nad ydi S4C, hyd yn oed 35 mlynedd wedi ei sefydlu, yn barod i feithrin ein
doniau cynhenid, pa obaith sydd i’r cyw-sgwenwrs rhwystredig sy’n ceisio eu
gorau glas i arddel y grefft yn eu mamiaith?
Cawn weld sut y datblygith pethau dros y
saith wythnos nesaf. Croesi bysedd y bydd sawl tro yng nghynffon y stori i gynnal y chwilfrydedd
tan ’Dolig.