Dau gwm, dwy briodas

Teulu'r Caddock, Royal Wedding. Ymddiheuriada am Jacs yr Undeb.

Mae’n dymor traddodiadol y priodasau, pan fo’r haul yn gwenu ar y fodrwy, y siampen a’r cariad yn llifo. Mewn byd delfrydol o leiaf. Rhyw ddiwrnod delfrydol felly oedd hi 29 mlynedd yn ôl, wrth i 750 miliwn o wylwyr teledu byd-eang gael eu swyno gan briodas dylwyth teg yng nghadeirlan St Paul’s, Llundain. Un o briodasau mwyaf costus ond ofer erbyn hyn wrth gwrs. Ond ar y pryd, roedd hi’n gyfle i bobl Prydain anghofio am Thatcher a therfysgoedd Toxteth trwy drefnu partïon stryd mewn môr o Jacs yr Undeb. A dathlu oedd ar feddyliau trigolion cymuned lofaol yn Royal Wedding hefyd, drama unigol a ddarlledwyd ar BBC2 wythnos diwethaf. Drama wedi’i hadrodd o safbwynt Tammy Caddock, merch ifanc bymtheg oed, a oedd yn prysur werthu tocynnau ar gyfer parti mawr gyda sosej rôls, cystadleuaeth gwisg ffansi roc a phop, gwobr am y steil gwallt gorau fel Diana, a disgo gyda TJ y DJ a oedd mor gawslyd â Jônsi. Ac yng nghanol hyn i gyd, mae pawb yn benderfynol o fwynhau er gwaethaf cymylau duon diweithdra a phroblemau priodasol eu hunain - o’r fam ifanc sy’n ysu am ddechrau newydd gyda’i chariad Iypïaidd, i’w gŵr di-waith a’i freuddwyd gwrach am fod yn ganwr pop a’r ffrind lesbiaidd a’i chrys-t “Don’t do it Di!”. Ac yng nghanol hyn i gyd, cawsom sawl clip o sbloets fawr y Windsors. Roedd naws arbennig iawn i’r ddrama, ac roeddech chi wir yn teimlo fel petaech wedi glanio ym 1981- o’r ceir Datsun, y dynion mwstashiog a’r merched Nolans-aidd - a haul Gorffennaf yn pefrio ar y sgrîn. Dyna’r uchafbwynt i mi. Yr isafbwynt oedd y defnydd o actorion dŵad o Swydd Efrog a Stafford i bortreadu’r brodorion. Mewn gwirionedd, y cymeriadau ymylol a’r actorion Cymreig sy’n aros yn y cof. Rhai fel Alan Garvey (Alun Raglan), Robbie (Aled Pugh, enillydd haeddiannol gwobr 'Actor Gorau' BAFTA Cymru 2010 am ei ran yn y ffilm Ryan a Ronnie) a Dolly (yr hyfryd Wendy Phillips a welwyd yn y ffilm Very Annie Mary), clamp o gymêr mewn gwisg Gymreig sy’n fodlon braf gyda’i Babycham a’i theledu bach ar garreg y drws.


Roedd Pobol y Cwm yn edrych ymlaen am briodas wythnos diwethaf hefyd. Y cwpl hoffus Kevin a Sheryl oedd y rhai anlwcus y tro hwn, wrth i’r priodfab gael ei ruthro i’r ysbyty cyn cyrraedd Bethania. Nid dyna unig drychineb y diwrnod mawr chwaith, wrth i fam a llysfam Kevin rodresa rownd y pentref yn yr un het, a Nansi (Marged Esli) yn herian bod hi ag Anita’n rhannu’r un chwaeth mewn dynion a dillad! Mae’n braf cael yr hen flonden drafferthus o Amlwch yn ôl yn y gyfres, gan obeithio ei bod hi yma i aros am sbelan eto. Ac mae’n braf gweld sioe sebon fytholwyrdd S4C yn cael lle haeddiannol ochr yn ochr â’r ‘mawrion’ Prydeinig ar wefan boblogaidd digitalspy hefyd.

Samariad trugarog Bosnia

Dwi’n cofio’r diwrnod fel ddoe. Prifwyl Aberystwyth 1992, a chriw ohonom wedi gwasgu mewn tun sardîns o garafán i wylio Colin Jackson yn carlamu dros y clwydi yn Barcelona. Yn sydyn, dyma bennawd newyddion yn fflachio ar y sgrîn gyda delweddau erchyll o ddynion esgyrnog mewn gwersyll garchar rhyfel ym Mosnia. Yn sydyn, roedd methiant athletwr o Gaerdydd i fachu unrhyw fedal Olympaidd yn bitw. Roedd rhyfel Iwgoslafia wedi newid gêr i lefel sinistr Natsïaidd. Roedd ymateb araf llywodraethau’r gorllewin yn warthus o gymharu â’u parodrwydd i amddiffyn Afghanistan heddiw, ond diolch i’r drefn, roedd gweithwyr dyngarol yn heidio i helpu pobl y Balcanau. Pobl fel Gwilym Roberts o Rostryfan, Caernarfon, testun cyfres ddogfen O Flaen dy Lygaid: Nôl i Bosnia wythnos diwethaf.

Lipik, Croatia

Byrdwn y bennod gyntaf oedd dilyn ôl troed Gwilym i weld sut mae trigolion Croatia a Bosnia yn ymdopi mewn heddwch bregus bymtheg mlynedd yn ddiweddarach. Yn ogystal ag ymweld â chartref plant amddifad ac ysbytai a gafodd gymorth gan griw Convoy of Hope, roedd Gwilym ar drywydd personol iawn. Roedd yn awyddus i chwilio am ŵr o’r enw Ivan a achubodd ei fywyd trwy gynnig lloches iddo mewn seler ar gyrion Mostar, ymhell o fwledi a bomiau’r Serbiaid. Ond heb ffotograff, cyfenw na chyfeiriad llawn, roedd tipyn o dasg o’i flaen.

Cawsom yr hanes o sawl ffynhonnell. Gwilym yn trafod ei atgofion arswydus yn uniongyrchol i’r camera wrth yrru drwy’r wlad gyda’i gyfieithydd Zdvarko, cyfweld ag wynebau’r gorffennol, a lluniau newyddion teledu’r cyfnod. Roedd ambell olygfa’n ddigon i’ch sobri, fel tref fechan Lipik a arferai fod yn dref lewyrchus o ffynhonnau dŵr iachusol a ffatrïoedd gwydr cain, ond sydd bellach yn llwm a llawn creithiau rhyfel. Mae creithiau personol mor fyw ag erioed hefyd, fel yr “angel” o nyrs Fwslimaidd a helpodd gymaint o blant yn Ysbyty Mostar yng nghanol y gyflafan, ond a gafodd ei diswyddo oherwydd ei chrefydd. Heddiw, mae’n dlawd a di-waith, ac yn hiraethu am ei mab a fudodd yn faciwî i’r Unol Daleithiau. “Mae ei rhyfal hi yn dal i fynd ymlaen” meddai Gwilym. Golygfa ddirdynnol arall oedd honno o Gwilym yn pori drwy llyfr swmpus ag enwau 15,000 o bobl, yn swyddfa’r Groes Goch ym Mostar. Pymtheg mil o Fosniaid sy’n dal ar goll hyd heddiw, o blant dyflwydd oed i’r henoed.

Yn y diwedd, daeth o hyd i Ivan er gwaetha’r ansicrwydd a’r cof niwlog. Bu cryn gofleidio a dymuno ‘živjeli!’ ac ‘iechyd da!’ i’w gilydd wrth glecian gwin. Ond y tu ôl i’r hapusrwydd, hagrwch y rhyfel sy’n aros yn y cof. Perl o gyfres. Bechod ei bod yn dod i ben.

Holi a stilio a ffraeo II

Dwi’n un oriog. Wythnos diwethaf, roeddwn i wedi diflasu gyda’r holl sylw etholiadol a’r dadleuon arlywyddol hyn a llall ac arall. Wythnos hon, fodd bynnag, dwi’n gaeth i’r bocs bach. Nos Fawrth, roedd sianel BBC News ’mlaen yn barhaus o 6 tan 10pm, wrth i’r newidiadau mawr ddigwydd yn fyw o flaen ein llygaid - y glymblaid glas-a-melyn wedi’i chadarnhau, dilyn y Daimler i Balas Byc, gweld Brown a’i deulu bach yn gadael Nymbar Ten i wneud lle i Cam a Sam ac ati ac ati. Ac mae’n debyg fod rhyw 13 miliwn o wylwyr Prydain yn hwcd hefyd. Cyfnod ‘hanesyddol’ yn wir, i ailadrodd term ailadroddus yr wythnosau diwethaf. Ac ar nosweithiau rhewllyd o Fai, mae’r gohebwyr blinedig yn dal ati 24 awr y dydd o flaen stryd gefn enwocaf Llundain, Swyddfa’r Cabinet neu ar lain Sain Steffan, ac yn prysur lenwi’u taflenni goramser! Ond efallai bod y pwysau gwaith a’r oriau oer a hir yn dechrau dweud ar ambell un…




Ac mae’r naws gwrth-Sky yn parhau, wrth i ambell un leisio barn yn groch yn sgil honiadau fod Kay Burley (Jeremy Paxman mewn sgert) yn hen ast o gyfwelydd gydag arweinydd protestiadau dros diwygio'r drefn bleidleisio.




Diolch byth fod ein Vaughan bach ni’n dal mor broffesiynol ag erioed…

’Nôl i ’87


O diâr. Mae’n debyg fod yr Wythdegau yn boblogaidd unwaith eto. Gyda Phlaid Magi yn prysur ennill tir, cyfresi fel Ashes to Ashes yn boblogaidd ar y BBC, a Hollywood yn ailwampio The A Team ar gyfer y sinemâu, mae’r degawd di-chwaeth wedi cael ail-wynt. Ac mae’n ymddangos fod ton o nostalgia yn sgubo Cymru hefyd, wrth i S4C ail-ddangos un o’i chyfresi mwyaf poblogaidd erioed i’r to iau. Ydy, mae castiau a champau carwriaethol y criw pyrmiog o Lŷn - a’r genod - yn ôl am wythnos, i gyd-fynd â rhifyn arbennig o Lle Aeth Pawb? Jabas.

Mae’r fformat llwyddiannus hwn eisoes wedi ennill gwobr ‘Ysbryd yr Ŵyl’ yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2009 a’i gwerthu i wledydd fel Ffindir. Tra bod rhai o gast gwreiddiol 1987 yn weddol adnabyddus i ni heddiw - Owain Gwilym (Jabas Jones) ar Radio Cymru, Buddug Povey (Pegi) yn wyneb cyfarwydd Rownd a Rownd, ac Eleri Fôn a Lowri Mererid (Ruth a Glenda) yn lleisiau cefndir i rai o’n grwpiau roc amlycaf ni - roedd hanes y lleill yn bur ddieithr. Ond diolch i ymchwilwyr y rhaglen, cafwyd hyd i Picsi (Dr Harri Pritchard) yn feddyg teulu ym Môn, Gwil (Guto Gwilym Jones) yn gwerthu bwydydd anifeiliaid; a Lois (Lowri Glain) yn
gynhyrchydd dramâu teledu llwyddiannus yn Notting Hill, Llundain. A chwarae teg i Lowri Glain saith mis yn feichiog, am ddychwelyd i’r union soffa lle ffilmiwyd golygfa go boeth rhyngddi hi ag Owain Gwilym. Mae’n hawdd anghofio pa mor fentrus oedd y gyfres mewn gwirionedd, gyda golygfeydd caru a chymryd cyffuriau ochr yn ochr â’r gwersi ysgol. A dyma’r tro cyntaf i mi glywed am Jabas yn corddi’r dyfroedd yn Iwerddon, a chael ei gwahardd gan ddarlledwyr nerfus RTÉ/Telegael.

Roedd cyfweliadau’r ffans selog lawn mor ddifyr a diddorol, yn enwedig aelodau Clwb Edmygwyr Owain Gwilym. Nhw oedd yn cadw llyfrau lloffion o’r gyfres, yn prynu crysau-t a chaneuon rap giami (“Cofiwch Llywarch heb ei drôns/Ac fe gofiwch rapio - Jabas Jones!”) ac yn stelcio’r sêr ar feysydd Steddfod yr Urdd. Fel y soniodd Heledd Fychan, roedd hi’n wirioneddol braf cael cymeriadau perthnasol i’r Cymry Gymraeg yn oes Kylie a Jason. Hyd yma, mae dros 260 o eilunaddolwyr wedi ymuno â thudalen gweplyfr Jabas Jones. Go brin fod Caerdydd yn gallu brolio’r un peth.

Dwi wedi cael “brênwêf”, S4C. Beth am ragor o berlau’r gorffennol i’r ‘Awr Aur’, fel Tydi Bywyd yn Boen, A55…?

Sgorio efo'r Cofis


O’r diwedd. Mae’r cyfan drosodd. Gawn ni fwy o lonydd fory hefo lwc - os nad eith hi’n senedd grog/gytbwys, ac arwain Betsan Powysiaid y byd i berlewyg arall. Cefais fy hudo gan gyffro a newydd-deb y dadleuon teledu i ddechrau, mwynheais Pawb a’i Farn mwy bywiog na’r arfer er gwaethaf Cymraeg carpiog llawer o’r gwleidyddion, ac fe wnes ymdrech i wylio Election 2010: Wales Debates ar BBC1 nos Sul diwethaf. Ond digon yw digon. Fe gwympais i gysgu yn ystod dadl arlywyddol olaf y BBC, switsio’r Post Cyntaf a’r “Gardis” felltith i Classic FM, a diflasu efo’r holl ddadansoddi dros ben llestri yn sgil Duffygate. Efallai na ddylwn i gwyno gormod fodd bynnag, gyda sbloets fawr De Affrica yn cychwyn mewn ychydig dros fis. Ymgyrch pêl-droedwyr Lloegr fawr fydd hawlio’r penawdau wedyn!

Caernarfon nid Cape Town ydi cyrchfan S4C beth bynnag. Nos Fawrth, dechreuodd Gobaith Caneri, cyfres ddogfen tair rhan sy’n olrhain hanes clwb pêl-droed y Cofis i ddychwelyd i’r hen ddyddiau da. A hwythau wedi cael cic owt o Uwchgynghrair Cymru’r tymor diwethaf, at eu clustiau mewn dyledion, a’r rheolwr a’r chwaraewyr wedi’i heglu hi’n ôl i Gei Conna a Lerpwl, mae’n ‘greisus’ ar yr Oval, chwadal Wali Tomos. A chyda’r clwb bellach yn cosi gwaelod cynghrair Cymru Alliance, a diwedd y tymor ond saith gêm i ffwrdd, mae camerâu’n dilyn ymgais cefnogwyr lleol i gadw’r fflam yn fyw ac achub y clwb rhag boddi wrth ymyl lan afon Seiont.

A sôn am griw! Er gwaetha’u diffyg profiad, mae ganddyn nhw’r hiwmor a brwdfrydedd heintus i roi cynnig arni. Cyflwynwyd naws y cyfan i’r dim yng nghyfarfod y pwyllgor o ddeuddeg, gydag un yn gofyn i'r llall “Be ti’n wbod am ffwtbol?” cyn ateb “Dim!”. Gwelsom y swyddogion gwahanol wrth eu gwaith, o Marc Roberts y swyddog marchnata yn dosbarthu posteri’r gêm o amgylch y dre, i reolwr y cae Eric Barton (neu “stêdiym manijar” yn ei eiriau ef) a John Rowley, dyn tân rhan-amser a streicar ifanc y tîm. Ac roedd yna ddigon o gyfarwyddo tafod yn y boch hefyd, yn enwedig wrth ddangos y gêm yn erbyn Llandudno, un o brif dimau’r gynghrair. Siawns fod y rheolwr Geraint Williams yn hapus gyda’r perfformiad wedi hanner cyntaf di-sgôr, tybiodd y lleisiwr Dyfrig ‘Topper’ Evans, cyn i’r camera dorri’n syth i’r ’stafell newid danllyd wrth i’r rheolwr refru ar ambell ddiogyn. A hoffais y dechneg effeithiol o bontio’r rhaglen gyda’r dilynwr selog Kev Roberts â’i archif o hen raglenni’r clwb yn hiraethu am ddyddiau da “deep heat a nicotîn”. Ond uchafbwynt y rhaglen i mi oedd gweld a chlywed y Gymraeg yn iaith y cae chwarae, hyfforddi a chymdeithasu. Ac am hynny, dwi’n mawr obeithio y bydd y Caneris yn mynd o nerth i nerth!