Colli a magu blas


Dw i mewn cyfyng gyngor. Mewn ychydig o greisus. Dw i’n adolygydd proffesiynol(!) i’r wasg Gymraeg a phrin yn gwylio S4C ar hyn o bryd. Mater o ddyletswydd, nid mwynhad, ydi’r Sianel i mi, a dw i’n wirioneddol boeni. Yn teimlo fymryn yn euog hyd yn oed.

Iawn, efallai mai gwasanaeth tanysgrifio netflix sydd ar fai yn rhannol - gwasanaeth sy’n caniatáu i mi borthi fy niddordeb mewn dramâu trosedd o bedwar ban. Mae gwasanaeth All4 hefyd yn lle gwych i ddal i fyny gyda Richard Travel Man Ayoade a’i westeion (o Rhod Gilbert i Jon Hamm!) a chwerthin  hel atgofion am lefydd dw i wedi ymweld â nhw fel Brwsel, Oslo a Tallinn, a chynllunio at y nesa i Porto. Dw i ddim yn cofio’r tro diwethaf i S4C gynnig cyfres deithio, ac mae’r byd a chwaeth pobl wedi symud ymlaen yn aruthrol ers dyddiau codi pac a chynghorion Arfon Haines a Gwenda Richards o’r Costas yn Pacio. A diolch i dduw am hynny. Beth am fersiwn deledu o lyfryn difyr a smala Aled Sam am gyrchfannau poblogaidd ac unigryw tir mawr Ewrop? Mae’r cradur yn haeddu brêc bach o fusnesu rownd sgubordai a jyngl jyrêniyms Gwalia Wen eto fyth.

Ond yn ôl at S4C heddiw. Tynnwch y domen o gemau rygbi diwedd tymor a’r myrdd o Gyfresi Ffordd-o-Fyw (Adre, Garddio a Mwy, Ar Werth gydag asiantwyr llawn Wenglish a gwên g’neud) o’r amserlen, a does ’na fawr ar ôl ond y ddwy gyfres sebon ddibynadwy, sioeau cylchgrawn Angie Mair o Lanelli, cynhyrchion amaeth nos Lun, bwletinau newyddion a thywydd ac ailddarllediadau o ailddarllediadau Codi Hwyl.



Ond dyma frwydro drwy’ niffyg brwdfrydedd a mentro ar damaid o’r Sioe Fwyd. Ac och! a gwae, cael blas arni (iawn, dyna ddigon o chwara’ ar eiriau coginio am y tro).  Yma, mae Ifan Jones Evans wedi rhoi ei gap ffarmwr-a-DJ o’r neilltu, a chamu i’r gegin i sgwrsio a sglaffio gydag enwogyn gwahanol bob wythnos ym mwyty Hywel Griffith - brodor o 'Pesda sydd bellach yn brif gogydd un o fwytai gorau’r wlad draw ym Mhenrhyn Gŵyr, via Coleg Menai, Caer ac Ynyshir. Ynyshir Bro Ddyfi wrth gwrs, nid Cwm Rhondda a achosodd gymaint o ffrae a ffwdan i James Martin’s Great British Adventure yn gynharach eleni.

Y gantores glam a’r figan Alys Williams oedd y gwestai diweddaraf, oedd yn golygu prydau heb gig na chynnyrch llaeth wrth gwrs. Cam dewr efo amaethwr wrth y llyw, ac efallai y byddai’r rhaglen wedi bod yn fwy dewr ac effeithiol o weini prydau tofu-aidd i’r ffarmwr a'r gwestai nesaf, Aeron ‘Ben Dant’ Pughe.  Mae pob rhaglen hefyd yn cynnwys eitem am gynhyrchwr bwyd neu ddiod sy’n ein harwain yn dwt at ryseitiau Hywel. Ac fel cyfresi Bryn Wilias o’u blaenau, maen nhw’n codi blas ond byth mo’r awydd ynof i fentro eu coginio fy hun. Fel Nigella yn yr iaith fain, porn bwyd ydyn nhw mewn gwirionedd, gwledd i’r llygaid wrth inni fwyta pryd popty ping o flaen y bocs.

Gyda llaw, isdeitlwyr S4C, “ffein” nid “ffeind” ma Ifan Jones Evans yn ei ddeud.

A'r wers felly? Rhoi cynnig ar bethau sydd ddim fel arfer at fy nant. Corau Rhys Meirion sydd yn y ciw nesa.

Ar ôl gwylio pennod arall o Sorjonen yn gyntaf...

Y Ditectif Kari Sorjonen, seren "Bordertown" o'r Ffindir ar Netflix


Hafan


Mae’r ystrydeb “dy’ch chi’n disgwyl hydoedd am fws, a mwya’r sydyn, mae yna ddau yn cyrraedd ar unwaith” yn cael ei gorddefnyddio weithiau. Ond mae’n wir, mor wir. Cymerwch cyfresi comedi da er enghraifft. Yn enwedig rhai sy’n ymdrin â Phrydain ôl-Refferedwm (dwi’n gwrthod deud y Gair Syrffedus Hwnnw mwyach) a’n hagwedd at dramorwyr, mewnfudwyr, ceiswyr lloches, ffoaduriaid - unrhyw un ‘gwahanol’ i’r Brit gwyn. Y naill ar BBC Two a’r llall ar Channel 4, ond gyda bocsets cyfan ar wefannau’r ddwy sianel. Toby Jones ydi sgwennwr a seren Don’t Forget the Driver fel Pete, am dad a dreifar o dref glan môr Bognor Regis sy’n cael ei hun mewn dipyn o dwll wedi i ffoadur ifanc o Eritrea guddio yng nghrombil ei fws wedi gwibdaith i fynwentydd rhyfel a supermarché ‘ffags a chwrw’ Dunkirk a Calais. Rhwng hynny, a mam mewn pydew dementia, slebog o ferch dal adra, lembo o efaill yn Oz, cydweithiwr Pwylaidd defnyddio’i goetsh fel rhyw Airbnb answyddogol, a pherchnogwraig trelar bwyd saim ‘Phil-Me-Up’ dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad ag o, mae pwysau’r byd ar sgwyddau Pete druan. Ond mae gan y dyn bach hwn glamp o galon, ac mae’n ddigon i adfer eich ffydd yn eich cyd-ddyn. Mae wedi’i ffilmio’n arbennig hefyd, a’r pytiau o olygfeydd pontio bron yn gwneud i’r hen Fognor ymdddangos yn ddeliach nag y dylai. Bron iawn.

Gellir yn hawdd fod wedi’i gosod hon yn y Rhyl, gyda’i siopau tsips niferus, tafarnau â Jacs yr Undeb a byddin o sgwteri ar y prom, a gyrrwr bws Cymraeg yn ceisio gwneud pen a chynffon o’r cyfan.



Y llall ydi Home, sy’n fwy o ffefryn personol i mi. Yma hefyd, mae ffoadur yn llwyddo i guddio ym mŵt Audi Q5 teulu dosbarth canol sy’n dychwelyd i swbwrbia Surrey wedi gwyliau yn Ffrainc. Wedi’r braw a’r panig cychwynnol, mae’r teulu’n raddol fabwysiadu Sami (Youssef Kerkour), cyn-athro o Damascus a wahanwyd oddi wrth ei wraig a’i fab yng nghanol llanast rhyfel a rhuthro i Ewrop – er bod y fam a’r mab, Katie (Rebekah Staton) a John (Oaklee Pendergast) yn fwy brwd a chroesawgar na Pete (Rufus Jones), a bleidleisiodd i adael yn y Refferendwm. Serch rhai profiadau annifyr yn y cartref, y parc a’r swyddfa bost leol, mae Sami yn dalp o optimistiaeth ac yn wirioneddol gredu bod dyfodol iddo a’i deulu yn Lloegr er y byddai’n well ganddyn nhw aros gyda’u teulu maeth yn yr Almaen. Un o’r golygfeydd gorau oedd yr un rhwng Sami a John yn trafod ‘yr eliffant yn yr stafell’, a Sami’n herio rhagfarnau’r Sais fod gormod ohonyn Nhw eisoes yn y wlad ’ma. Yr hyn sy’n wirioneddol godi ofn ar Pete yw’r ffaith fod gan Sami swydd saff, teulu, teledu lloeren a phwll nofio, cyn i Assad ddechrau pledu bomiau clwstwr ar ei bobl ei hun.

In Syria i had first world problems. Now I am first world problems”.

Ysgytwol. Ond dyw’r gyfres hon byth yn barnu na phregethu. Yn hytrach, mae’n ffordd hynod effeithiol o gyflwyno argyfwng byd-eang i’n bywyd dosbarth canol cysurus ni, gyda golwg gynnes ddoniol ar wahaniaethau diwylliannol a’r meddyliau rhagfarnllyd hynny sy’n cuddio ym mhob wan jac ohonom ni.

Fe wnewch chi chwerthin, crïo, synfyfyrio, gobeithio. Mae’n berl.