Accéder au contenu principal

Articles

Affichage des articles du septembre, 2011

Gower a Phenfro

Dwi’n bwriadu bachu’r sgidia cerdded a’r babell yr hydref hwn, a’i gwadnu hi am y gorllewin pan fo llwybrau a thraethau Sir Benfro’n wacach a brafiach nag adeg gwyliau’r ysgolion. Medda fo, wrth i’r glaw chwipio yn erbyn ffenestri’r tŷ acw a hyrddio dros 400 o adar drycin Manaw yn gaeth ar glogwyni Niwgwl yn lle’r Ariannin. Ond am y tro, mi wneith cyfres newydd nos Lun y tro - Llwybr yr Arfordir, sy’n bwrw golwg ar gyfoeth archeolegol, daearegol, byd natur a dynol y gornel fawr hon o Gymru. A thra mai cyd-slotiwr tafarn Porthgain fydd fy nghyd-deithiwr i, mae’r awdur a’r darlledwr Jon Gower yn cael cwmni’r naturiaethwraig Elinor Gwynn a’r ysgolhaig Damien Walford Davies. Ac mi fydd bwrdd croeso’r sir wrth ei fodd, wrth i’r awyrluniau agoriadol ddangos yr arfordir ar ei gorau dan haul. Beth bynnag ydi hwnnw’r dyddiau hyn.

Bydd Jon Gower a’i westeion yn rhoi sylw i’r llwybr 186 milltir o Lanrhath yn y de Seisnig, i Landudoch yn y gogledd Cymreiciach. ‘Amroth’ ydi Llanrhath, gyda llaw, fe…

Myddfai, middle-england

Anghofiwch am Jeremy Clarksons a Roger ‘iaith mwncwns’ Lewis y byd. Mae cangen Llandaf o’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig wedi cythruddo byd twitter, academia a Chymdeithas yr Iaith am ddarlledu rhaglen nawddoglyd uffernol nos Fercher diwethaf. Village SOS sy’n cael y bai, cyfres sy’n adrodd “stori ysbrydoledig” am chwe chymuned ledled Prydain a gafodd arian loteri i adfywio wedi blynyddoedd o ddiboblogi a cholli gwasanaethau. A’r cyflwynydd ydi’r Sarah Beeny fronnog sydd â’i bryd ar achub pentrefi cyfan ar ôl cynghori pobl lawn mor ddi-glem i uwchraddio’u cartrefi yn Property Ladder am flynyddoedd. Tsiampion, digon teg. Ond yr argraff ges i oedd cyfres sy’n hedfan ‘arbenigwyr’ o’r tu allan i ddweud wrth y brodorion sut i fyw eu bywydau.

Toedd pum munud cynta’r rhaglen ddim help, wrth i Ms Beeny gyfeirio’n siwgwrllyd o sentimental at “the great British countryside” a’r “green and pleasant land” ar drai, yn gefndir i awyrlun The Vicar of Dibley. Roedd hyn yn fwy poenus o ddeall mai Myd…

Gwylio ar lawr gwlad

Mi fentrodd cyfaill y Cymry Cymraeg dros y ffin wythnos diwethaf. Dim ond cyn belled â Chasnewydd, cofiwch chi, fel bod ganddo un droed ar Bont Hafren rhag ofn i gwynwrs Cymdeithas yr Iaith ei erlid. Nod Jeremy Hunt oedd cyflwyno a thrafod ei syniadau ar gyfer sefydlu sianeli teledu lleol yn hyd at bymtheg ardal ym Mhrydain erbyn 2015. O ran Cymru, bydd trefi’r Wyddgrug, Hwlffordd a Chaerfyrddin yn gallu gwneud cais am drwydded teledu bro yn ogystal â dinasoedd Caerdydd, Abertawe a Bangor. Mantra’r Bonwr Hunt yw bod “awch am deledu” lleol, gydag o leiaf awr o newyddion lleol bob dydd.

Syniad Americanaidd yw hwn wrth gwrs, ac mae gan ddinas gyfatebol Bangor yn nhalaith Maine, UDA, bedair sianel deledu leol - gan gynnwys sianel WLBZ Bangor sydd ar waith ers 1952. A bod yn realistig, dim ond cais Caerdydd sy’n debyg o ddwyn ffrwyth, gyda sianel y brifddinas yn debygol o gyrraedd 500,000 o gartrefi o Ben-y-bont i Gasnewydd. S4/Kaaardiff tybed? Bydd £40 miliwn o drwydded y BBC ar gael i ro…

Hydref ffrwythlon

Mae'n hwyr glas i’r haf ddarfod. Dwi wedi hen bwdu hefo ’nhymor pen-blwydd, wrth i’r barbeciw rydu yng nghornel yr ardd a gwerth hanner can punt o flodau patio yn sbïo’n soeglyd arna i. Mae hyd yn oed y gwlithod wedi rhoi’r gorau i besgi ar y begonias. Roeddwn i ’di laru gweld Morgan a Mari o ryw sioe neu ŵyl bwygilydd ar S4C, ac wedi diflasu efo gohebwyr Radio Cymru yn darlledu o garnifal Llanbedinodyns y byd bob pnawn Sadwrn. Rhowch i mi dymor Dysgub y Dail unrhyw bryd. Cyn belled â’n bod yn cael rhywfaint o haul i fynd am dro, hynny yw. Mae S4C eisoes wedi dangos hysbyseb sy’n cynnig blas ar arlwy ac adloniant yr hydref, i’n cadw’n ddiddig o flaen tân wrth iddi nosi’n gynnar. Er nad ydi sbloets newydd Only Men Aloud na Ruddy-ann, sori, Rhydian yn debygol o’m denu i'n bersonol, maen nhw’n siŵr o saethu i frig siart y gwylwyr gan blesio’r pen bandits a chynulleidfaoedd anrhaddodiadol y Sianel. Mae dau hen ffefryn eisoes yn eu holau, sef Straeon Tafarn Dewi Pws - neu Bro gyda …