Showing posts with label Pili Pala. Show all posts
Showing posts with label Pili Pala. Show all posts

Mwrdro'r Moelwyn


"Awydd mynd i Bounce Below wedyn?"

*Addasiad o golofn deledu fisol 'Y Cymro'


Mae’n ddu-bitsh ac yn pistyllio. Tu mewn a’r tu allan. Ac mewn tŷ cyngor ym mro’r llechi, mae dau heddwas yn ymateb i alwad dienw. Gyda dŵr yn diferu o’r llawr cyntaf, mae’r blismones yn camu’n llechwraidd i fyny’r grisiau. Drwodd i’r stafell molchi, mae’n oedi wrth i’r gerddoriaeth godi ias. Hwyrach ei bod yn cael hunllefau tawel am Psycho, wrth chwipio llenni’r gawod ar agor...

Croeso’n ôl i Craith, y gyfres dditectif joli i’n tywys at y ’Dolig ar nosweithiau Sul S4C – gwrthbwynt perffaith i dinsels di-chwaeth yr ŵyl. Ailymunwn â Cadi John (Siân Reese-Williams a welwyd diwethaf yn Pili Pala) ac Owen Vaughan (Siôn Alun Davies) naw mis wedi’r gyfres gyntaf, o lannau’r Fenai i droed y Moelwyn. Ac ar y cyrion, criw o gymeriadau mud â’u hwynebau’n bictiwr o euogrwydd, yn poeri rhegfeydd rhwng dracht o fodca a llond pen o sbliffs. 

Fydd hon ddim at ddant cynulleidfa draddodiadol nos Sul. 


O. Gwbl. 

Ac fel y gyfres gyntaf, mae’r penderfyniadau castio’n uffernol o rwystredig. Ai Blaenau Ffestiniog ’ta Blaina Gwent ydan ni fod? Am bob Manon Prysor a Bryn Fôn, mae gynnon ni Lisa Victoria, Steffan Cenydd, Owain Gwynn. Actorion da, heb os, ond actorion sy’n wir ddifetha hygrededd y lle dan sylw.

’Sgwn i beth fydd ymateb pobl Tan'grisia?

Go brin fydd hynny’n poeni ambell wyliwr adra ’na thramor chwaith. Dros yr haf, bu cyfri twitter prif sianel y Ffindir, YLE TV1, yn hyrwyddo A new thrilling series in the Welsh landscape!” gydaMagical landscapes and the Cymric language”. Ac ydy, mae’r gwaith camera’n gwneud cyfiawnder ag Eryri waeth beth fo’r tywydd (digalon yn bennaf) a’r gyfres yn crefu am sgrîn UHD hanner can modfedd i fwynhau’r golygfeydd. Mae yna berthynas hyfryd rhwng y ddau dditectif hefyd, gyda’r naill yn malio heb fod eisiau neidio i wely’r llall, fel sy’n dueddol o ddifetha sawl cyfres debyg. Ond prin yw'r mynadd a'r diddordab yn is-blot chwiorydd Cadi (gan gynnwys yr actores Nia Roberts) sy'n dal i hiraethu am eu tad fu farw adra o gancr ers y gyfres ddiwethaf. 


O Gymru i'r Iseldiroedd


A dw i ddim yn edrych ymlaen gymaint at wylio hon fel roeddwn i'n awchu am bob cyfres newydd o'r Gwyll.  Dim mo'r un cyffro nosweithiau Sul cyn Dolig 2013 o flaen tanllwyth o dân, goleuadau pŵl a gwydraid o goch o flaen y bocs, cyn trafod y plot yn y swyddfa drannoeth. Tydi #craith heb danio'r cyfryngau cymdeithasol hyd yma, ac mae'r di-gymraeg fel un o gyd-actorion Sian RW o ddyddiau Emmerdale i'w gweld yn fwy brwd na'r brodorion. 

Achos fe ddoth y Cardi Noir i ben yn rhy gynnar o lawer fy marn bach dibwys i (diffyg cyllid?), a ninnau'n dechrau dod i nabod criw Heddlu Cambria yn well erbyn y drydedd gyfres a'r olaf yn 2016. Meddyliwch am y potensial i adrodd rhagor o straeon yn seiliedig ar stiwdants a strydoedd Aber, yn lle trigolion gwyllt yr Elenydd byth a hefyd. Mae Hinterland yn rhan o arlwy netflix byd-eang os ydych chi'n dal i hiraethu am DCI Tom Mathias a'r Volvo XC40 yn nadreddu drwy ucheldiroedd epig y Canolbarth. A'r bennod olaf un wedi cau pen y mwdwl ar ddigwyddiadau erchyll hen gartref plant Pontarfynach a'r cysylltiadau â phen bandits yr heddlu (plot hirhoedlog, effeithiol, ers cyfres 1), a Mathias wedi cael rhyw fath o heddwch o'i orffennol trist yn Llundain, mae yna wir sgôp i symud ymlaen a chanolbwyntio fwyfwy ar straeon personol DI Mared Rhys a'i parka coch eiconig, y flonden, a'r boi sbectols pot jam, ymhlith eraill.








Nid bod y gyfres honno'n berffaith chwaith, gyda'r sgript yn swnio fel cyfieithiad ar brydiau. Ond yn wahanol i Craith, roedd hi'n haws credu yn y cenhedloedd unedig o acenion oherwydd lleoliad Aber fel croesfan a chanol y genedl.


Dewch o 'na Fiction Factory
Beth am aduniad arbennig ar gyfer ffilm fawr y Dolig S4C yn y dyfodol agos?

Hej! Hej! Gwenwch!


Pwy a ŵyr, efallai fod rhyw adolygydd blin o Sweden yn barnu acenion rhanbarthol Offeren Stockholm hefyd. Dyma gyfres deg pennod am y troseddegydd Fredrika Bergman sy’n dychwelyd i’r gwaith wedi damwain drasig, wedi’i ffilmio yn y golau llwydlas unigryw hwnnw i’r cyfresi Nordig. Gyda’r bocset i gyd ar Clic, mae’n rhan o fenter newydd gyffrous “Walter Presents ar gyfer S4C” gydag isdeitlau Cymraeg neu Saesneg. Diolch i’r nefoedd mai isdeitlo maen nhw hefyd, nid trosleisio fel y gwnaeth HTV gyda’r diweddar Huw Ceredig a Robin Gruffydd fel Shane y cowboi “Cymraeg” ddiwedd y 1970au. Does dim awgrym hyd yma mai perthynas ddwyffordd fydd hi chwaith, gan na fydd cyfresi Cymraeg yn ymuno â’r llu o rai Ewropeaidd sydd ar gael i weddill Prydain trwy Walter Presents ar All4/Channel 4. 

Mae’r galw yno. Wedi’r cwbl, mae ail gyfres gyffrous Bang - am frawd a chwaer o boptu’r gyfraith yn Aberafan – sydd eto i ymddangos ar ein sgriniau, eisoes wedi’i gwerthu i’r Swediaid.

Ac mae hynny’n bwysicach nag erioed wrth i Brydain droi’n fwyfwy ynysig.   



·        

O'r crud i'r bedd




Pwy sy’n cofio Dr Elen a Glan Hafren? Dramâu sebonllyd S4C yn y 1990au wedi’u gosod yn y gwasanaeth iechyd? Y math o gyfresi oedd yn canolbwyntio ar fisdimanars doctors a nyrsys a’r cleifion, yn fwy na’r damweiniau a ddigwyddai y tu ôl i’r camera gan nad oedd cyllideb HTV Cymru’n caniatáu stỳnts na ffrwydradau uchelgeisiol? Chawsom ni ddim byd tebyg yn y Gymraeg ers hynny, tra bod Charlie Fairhead MFI o brennaidd a Casualty yn dal i rygnu 'mlaen ar y BBC bob nos Sadwrn.

Tan nawr. Achos fel rhan o arlwy’r hydref, mae gynnon ni gyfres ddrama feddygol newydd ar ein Sianel. Chwa o awyr iach i’r rhelyw sydd wedi cael llond bol ar achos gwaedlyd arall ym mherfeddion Elenydd neu Eryri. Er, roedd yr holl olygfeydd o’r cymeriadau’n fflio mynd hyd lonydd culion Penygogarth yn fy ngwneud i’n wyliwr nerfus iawn o Pili Pala gan amau ein bod ni am gael stỳnt go lew ar S4C am unwaith.

Ac roedd y bennod gyntaf o bedair yn gadael rhyw deimlad annifyr ym mêr esgyrn rhywun, wrth ein cyflwyno i ddau deulu hapus braf mewn chwip o dŷ moethus ar lan y môr. Hanes dwy ffrind yn bennaf, Sara Morris (Sian Reese-Williams), arbenigwraig mewn meddygaeth ffetol, a’i ffrind Elin (Fflur Medi Owen ysgubol o dda) sy’n drymlwythog-ddisgwyl ei phlentyn cyntaf wedi blynyddoedd o drïo torcalonnus. A chyda’r bennod gynta’n pendilio rhwng cyffro’r darpar rieni o ddewis pram a lliwiau i lofft y bychan, a thyndra’r ward esgor gyda locwm dan hyfforddiant yn gorfod camu i’r adwy yn wyneb prinder paediatregydd cymwys, roedd rhywun yn naturiol ofni’r gwaethaf. Na, tydi hi ddim yn hawdd i'w gwylio. 

Ychwanegwch wrthdaro personol a phroffesiynol rhwng gŵr a gwraig (Rhys ap Trefor fel Dygi druan sy’n gorfod magu a rhedeg tŷ wrth weld ei uchelgeisiau gyrfaol ei hun yn mynd i’r gwellt) a thensiynau rhywiol posib rhwng cydweithwyr, a dyna chi lu o bosibiladau dramatig. Hynny, a llygaid arbennig y cyfarwyddwr ffotograffiaeth Bjørn Bratberg a roes naws ffilmig arbennig i’r cyfan. Ac ai cyd-ddigwyddiad smala oedd y ffaith mai Beti (Nia Roberts) ydi enw’r teyrn o ddynas sy’n gyfrifol am benderfyniadau dadleuol bwrdd iechyd y Gogledd?

Neu ‘menyw’ ddylwn i ddweud, gan mai hwntw ydi Beti Howells fel mwyafrif actorion-staff y sbytu dan sylw. Sydd braidd yn rhyfedd, gyda BAFTA Cymru yn brolio cyfres “wedi ei osod ar arfordir Gogledd Orllewin Cymru, mae Pili Pala yn arddangos ei harddwch yn ogystal ag atgofion pŵl yr oes a fu: cefnlen syfrdanol i ddrama torcalonnus [sic].” Ond serch y golygfeydd hyfryd o ardal Llandudno, a’r rhai trawiadol o ffair a phrom y Rhyl, mae’r acenion ar wasgar ac yn dipyn nes at Glangwili na Glan Clwyd. Efallai na fydd hynny’n poeni llawer o’r gwylwyr cynhenid na thramor chwaith. Ond i mi’n bersonol, mae’n swnio’n chwithig ac yn golygu ein bod ni’n colli naws am le ac idiomau naturiol y gogledd yn union fel Craith y llynedd. 

Biti biti mawr.

Serch yr amryfuseddau hyn, mae'n werth dal ati gyda'r gyfres gyfan i'w gweld fel rhan o focset S4C/Clic ar hyn o bryd. Byddwch yn barod am rolarcostar emosiynol, chwalfa persnol a gyrfaol a sawl tro arall yng nghynffon y stori drasig hon. Efallai bod y cyfan yn berig o agos i opera sebon ar brydiau (gyda cliches sebonllyd fel arch-ast o fos, dirgelwch 'pwy di'r tad?' a slapio boch rhywun a thafod siarp) ond mae'r gwrthdaro cyson a'r cliffhangyrs yn hoelio'r sylw. 

A do, fe gawson ni ddamwain car - tu ol i'r sgrin o leia.

Ac oes yna unrhyw un gwell yng Nghymru nag Owen Arwyn (Jac) am actio dyn a'i galon yn deilchion? Da chi gynhyrchwyr, rhowch ran fymryn mwy joli iddo tro nesa,




Pili Pala (Triongl ar gyfer S4C) 8, 15, 22, 29 Medi.