G'day Gymru


Mae ganddon ni gyd ein pleser euog. Boed cyfresi "realaeth" wedi'u sgriptio fel TOWIE neu Made in Chelsea, syrcas I'm a Celebrity (sy'n cynnwys llawer o gymeriadau'r ddwy sioe flaenorol) i'r ffair ffrîcs CBB (plebs sy'n perthyn i s'lebs angof) neu hyd yn oed gyfraniad ein Sianel Genedlaethol ni i'r genre - yr hynod ddisylwedd Jude Cissé: Y WAG ar Wyliau. Sioe sebon 30 mlwydd oed ydi f'un i. Heb ronyn o gywilydd, dw i'n tapio'r gyfres i'w mwynhau cyn troi am y cae sgwâr. Wedi diwrnod o ymlafnio drwy jargons Llywodraeth Cymru sy'n ddigon i ladd ysbryd unrhyw un, y peth ola mae rhywun eisiau ar derfyn dydd ydi Huw Edwards â gwep trefnydd angladdau yn siarad Brexshit (dw i'n cael hynna gan wasanaeth ardderchog Channel 4 News am 7 diolch yn fowr). Na, am ddeg yr hwyr, efo panad (er gwaetha'r cynghorion gwae) a thraed i fyny, mae'n bryd dal i fyny efo hanner awr ffwrdd-a-hi yng nghwmni rhai o gymeriadau glandeg swbwrbia Melbourne. Ydw, dw i'n noswylio efo Neighbours. A dyna fi wedi'i deud hi.

Mae'r arwyddgan enwog yno o hyd, y cartrefi brics modern bob amser ar agor i ffrindiau hoff gytun a ddim mor gytun, a phyllau nofio cyn lased â'r awyr yn union fel oedden nhw yn nyddiau'r eiconig Madge, Plain Jane Superbrain, Des a Daphne, Mrs Mangel a Bownsar y ci. Wrth gwrs, mae yna lu o gymeriadau ifanc identikit euraidd mor brennaidd â stordy MFI ers talwm ond mae'r hen stejars dal i fynd - Susan a Dr Karl, yr unig ddoctor sy'n ateb pob argyfwng yn Erinsborough, Steph y lesbiad o feicar bellach wedi dyweddio â dyn (fersiwn Oz o Gwyneth Jones?) a Toadfish bellach yn dwrna parchus. Mae'r hen Harold Bishop a Lou Carpenter yn ymddangos o'u hymddeoliad bob hyn a hyn, pan fo priodas neu brofedigaeth yn galw. Ac mae JR y stryd, Paul Robinson, yn dal i gynllwynio yn erbyn pawb a phopeth.

Fel arall, dw i'n 'nabod neb. Falle bod y setiau'n dipyn mwy cadarn nag oedden nhw'n yr 80au, ond mae'r actio mor sigledig ag erioed bob hyn a hyn (dw i wedi gweld actio gwell gan Gwmni Drama Nebo ar brydiau) a'r plotiau torcalon yr ifanc serchus wedi'u hailgylchu'n gyson ers dyddiau Scott a Charlene. Does dim pall ar berthynasau coll o bell, na chymeriadau'n ôl o farw'n fyw. Y diweddaraf ydi Dee Bliss, gwraig Jarrod 'Toadie' Rebecchi, a foddwyd r'ôl i'r car priodasol hedfan dros y dibyn yn 2003. Ac i'r don (wel, un neu ddau) o wylwyr newydd sy'n rhy ifanc i gofio'r stori honno, cawsom grynodeb stacato gan Stonefish ei frawd cyn Dolig: "...she looks like your DEAD WIFE DEE" wrth hwrjio llun ffôn lôn o flaen Toadie cegrwth.

Na, tydi cynildeb ddim yn rhan o grefft sgriptwyr Neighbours.


Ond be di'r ots? Mae'n braf rhoi switsh-off i'r ymennydd weithiau, ac mae heulwen diderfyn Ramsay Street yn falm i'r enaid ganol gaeaf noethlwm ni. A diawcs, dw i'n malio mwy am Dr Karl a Susan na wnai fyth am gymeriadau Byw Celwydd.





















Byw Cecru


Peth peryg ydi gwylio'r teledu a twitter yr un pryd. Yn bennaf achos bod rhywun yn colli rhediad y rhaglen wrth ei hashnodio hi. Hefyd, mae darllen sylwadau canmoliaethus am raglen go symol yn gwneud i chi amau eich hun. Oeddwn i'n gwylio'r un peth â mwyafrif y twitteratis tsampion? Ai difynadd a blinedig oeddwn i? Ddylwn i fod wedi sbïo ar Sherlock yn lle? Profiad felly oedd dilyn Byw Celwydd heno, sy'n ôl gyda mwy o bitsio a rhwydweithio o'r Bae fythol heulog.

Dychwelodd Angharad Wynne o'i gwyliau Americanaidd i hawlio'i sedd yn swyddfa Newyddion Cymru; chwarae mig efo Stephen Kinnock y Cenedlaetholwrs (hefo offer swyddfa gwyrdd rhag ofn nad ydych chi'n DAL i wbod pwy di pwy); bod yn fwy o dân ar groen ei thad-yng-nghyfraith o Brif Weinidog; a thrio'n ofer i gymodi efo'i chymar sy'n fwy sur na'r carton sudd oren o Lidl sy'n dal yn fy ffrij ers cyn Dolig. Mae cynghorydd arbennig y Democratiaid lawn mor gibddall i'r ffaith y byddai'n well gan ei gwr gael "awran" efo PR ddyn yr Unoliaethwyr; a'r unig aelod Sosialaidd druan yn gorfod bodloni ar ymddangos yn ffreutur Ty Crucywel bob hyn a hyn. Bwriad cwmni o'r Almaen i godi atomfa niwclear newydd ym Mhenfro oedd Testun Gwleidyddol yr wythnos, a Bethan Dwyfor yn serenu fel Thatcher y Swyddfa Gymreig yn ceisio creu pwysau ar Meirion Llywelyn i sicrhau bod llywodraeth Cymru yn cowtowio i lywodraeth San Steffan. Yr elfennau hynny oedd yn gafael fwyaf yno i, ond yn anffodus, elfennau eilaidd i'r straeon mwy sebonllyd yn seiliedig ar Angharad a'i theulu. A dyna'r drwg. Does gen i ddim taten o fynadd nac ots am Angharad a'i theulu na'r nani na Harri na phwy sy' fod i ddarllen stori Rapsgaliwn i'r hogyn bach 'cw.

Dywedodd Sioned Williams, adolygydd rheolaidd Dewi Llwyd ar Fore Sul, fod hon yn un o gyfresi gorau S4C. Tagais ar fy mhaned. Buaswn i'n bersonol yn rhoi Alys, cyfres 1af 35 Diwrnod, Con Passionate a Tair Chwaer ymhell bell o flaen Borgen-lite y Bae. O leia' mae'r twitteratis dal 'di mopio.

Efallai mai'r golygfeydd braf o'r Senedd-dy yn llygad yr haul, y caffi bars swanc, y cymeriadau trwsiadus a'r Audis sgleiniog ydi rhan o'r apêl. Teulu CF99 os leiciwch chi. Mae dawn dweud yr awdur yn llifo o enau'r cast. Ac ydw, dw i'n eiddigeddus iawn IAWN o fyngalo Bauhaus y Prif Weinidog. Ai lle felly 'sgin Carwyn tua ochra' Pen-y-bont?

Ond fel ddwedais i, dw i di blino. Y ciando amdani. Ar ôl dileu'r cyswllt-cyfres o'r bocs Sky...

Deugain a mwy


Anghofiwch am y penawdau negyddol. Ffigurau gwrando gyda'r isaf y ganrif hon (lawr o 171,000 yr wythnos yn 2009 i 103,000 yr wythnos yn 2016). Ffigurau gwrando annelwig RAJAR sydd ddim yn ystyried faint ohonom ni sy'n gynyddol ddal i fyny ar wefan BBC Iplayer. Ond ffigurau, serch hynny, sy'n hawlio'r penawdau (yn enwedig gan elynion yr iaith o fewn Wales Online a BBC Wales) ac yn poeni Betsan Powys byth ers iddi dderbyn yr arswydus barchus bali swydd Golygydd Rhaglenni Radio Cymru yn haf 2014.

Anghofiwch am rwan, achos mae'n achos dathlu! Mae'r hen orsaf yn ddeugain oed 'leni, fel y clywsom wythnos diwethaf wrth i Gwyn Llywelyn - y darllenydd newyddion cyntaf - gamu i slot y Post Cyntaf a jingls Helo Bobl yn croesawu Al Huws. Ac yn eironig, daeth ail orsaf dros dro Radio Cymru Mwy i ben fel rhan o arbrawf trimis a aeth rhagddo'n "dda" yn ôl Ms Powys. Fel un o'r ychydig breintiedig oedd yn gallu gwrando ar gloc radio digidol yn y De-ddwyrain (roedd gofyn i weddill Cymru wrando'n fyw trwy ap Facebook, iplayer, ac ar deledu lloeren), cefais flas ar gerddoriaeth a gwamalu ben bore Carl ac Alun yn arbennig, ac roedd slot Caryl yn dwyn i gof rhaglenni hynod boblogaidd Caryl a Daf Du a gafodd y fwyell wrth i'r orsaf fachu Dylan Jones amser brecwast. Wrth gwrs, roedd llu o gyflwynwyr eraill na chlywais mohonynt - o'r comedïwr Steffan Alun i'r DJ Elan Evans - ond rhyw wrando brysiog oedd hi acw rhwng cawod, cornfflêcs a bws nymbar 24 i'r swyddfa. Mae rhywun yn diflasu ar undonedd y Post Cyntaf weithiau a'i benawdau/mymryn o ddyfnder wedyn/adolygiad o bapurau Lloegr/straeon chwaraeon a nôl i benawdau eto wedyn. Dw i'n aml yn piciad at Today Radio 4  am fwy o holi a stilio treiddgar ambell waith, Classic FM dro arall. Dibynnu ar yr hwyliau. Felly, roedd Radio Cymru Mwy yn newid yn chênj braf ambell fore.

Wrth i rywun (fi) aeddfedu/heneiddio, rhyw fersiwn Radio 4 o Radio Cymru sy'n apelio fwyfwy. Iawn, dw i'n mwynhau rwdlian Tudur Owen a slot hamddennol Ifan Jones Evans ar ddydd Sadwrn ac wrth fy modd efo Dewi Llwyd, Beti, Dei Tom a Stiwdio Nia Roberts yn ddeddfol ar y Sul. Dw i ddim balchach efo rhaglenni Richard Rees, Gari Wyn na Swn Mawr y Prynhawn. Does gen i fawr o ots o golli'r Talwrn clîcadd chwaith. Mi wrandawa i ar Georgia Ruth ambell waith r'ôl swper, Lisa Gwilym weithiau, ond y teli bocs neu'r e-lyfr bia hi fin nos. Ac yn niffyg drama, dal i fyny ar rai'r iaith fain fydd hi - y diweddaraf oedd Curious Under the Stars gan Meic Povey, am foi lleol yn dychwelyd gyda'i wraig o Lundain i fro ei febyd ar arfordir y gorllewin, i redeg tafarn bron â mynd â'i phen iddi - gyda brodorion smala a naws Cantre'r Gwaelod-blaenslais-Dylan Thomas i'r cyfan. Gyda chast o Gymry Cymraeg yn bennaf (Ifan Huw Dafydd, Elis James, Eiry Hughes, Matthew Gravelle, Siw Hughes), cefais flas mawr ar hon wrth ymlwybro lawr yr A470 syrffedus wedi'r gwyliau. Mae'r holl benodau 45 munud yr un yn dal ar y we i'r rhai chwilfrydig (dalld?!) o'ch plith, ac mae 'na fwy i ddod yn ddiweddarach eleni.

2017

 
Blwyddyn newydd dda! All 'leni ddim bod ddim gwaeth na llynedd. Ac eto, dyma flwyddyn urddo Trymp yn Arlywydd un o wledydd mwyaf pwerus y byd, a'r flwyddyn y bydd Mrs T (naci nid honna) May yn sbarduno Brecsit caled coch gwyn a glas er mwyn rhyddhau Britania o hualau Joni Fforunar ddiawl. Ydi hynny'n golygu na fydd Royaumi Uni yn cymryd rhan yr Iwrofishyn yn Kiyv fis Mai?
 
Ta waeth, mae yna ddigon i'n cadw'n ddiddig dros y gaeaf ar ôl Dolig go bethma ar y bocs bach a ffigurau gwylio'r gyda'r isaf ers cadw cofnodion ym 1981 - yn yr iaith fain o leiaf. Call the Midwive oedd rhaglen fwya poblogaidd Dolig '16, gyda 9.2 miliwn o lygaid sgwâr.
Cymharwch hynny â Dolig '86 pan drodd 21.8 miliwn i wylio premier y DU o Crocodile Dundee. Yn bersonol, drama unigol Sarah Wainwright (athrylith Happy Valley, cyfres ddrama orau 2016 heb os) To Walk Invisible am ymgais y chwiorydd Bronte i lenydda i lwyddiant oedd fy fferfryn i'n bersonol. Cafwyd mwy o flas ar gynhyrchion S4C dros wyl y gormodedd. Gwylio perffaith i'r teulu cyfan yn ffilm Albi a Noa yn achub yr Iwnifyrs serch fy sinigiaeth gychwynnol am blant bach ciwt a chaneuon siwgwrllyd gan y Parry-Jonesiaid; siwrnai emosiynol Iestyn Garlick: Stori Mabwysiadu yn hel achau Gwyddelig a dwy raglen arbennig yn bwrw dychanol yn ôl ar O'r Diwedd: 2016 Am Flwyddyn! Mae sgetshis deifiol Tudur Owen a Sian Harries am bartis Dolig trist yr Aelodau Cynulliad (oedd Dafydd El a Kirsty Wilias yn gwylio?) a'r gyfres dditectif ddwyieithog "The Void / Y Canolbarth" gyda'i sgript gwgl transate a'r actio syllu-i-nunlla, yn dal i diclo. Mwy yn 2017 plis S4C!

 
Llai o edrych nol.Ymlaen piau hi. Dyma flas ar uchafbwyntia dramatig yr wythnosau noethlwm i ddod.
 
Byw Celwydd (S4C) Well i mi gychwyn gyda chyfres Gymraeg. Criw cecrus, dauwynebog, godinebus CF99 yn dychwelyd am ail gyfres dan law Meic Povey a Branwen Cennard. Disgwyliwch fwy o gymeriadau glam ond digon annifyr ar y cyfan, efo lot o decstio a chyfarfodydd mewn bariau a meysydd parcio danddaer. O, a golygfeydd yn siambr y Senedd am y tro cyntaf erioed. Sgwn i oes na aelodau o'r Blaid Biws i ychwanegu mwy o realaeth i'r cyfan? Gyda Catherine Ayres, Mathew Gravelle a Richard Elfyn yn ei elfen fel prif weinidog mor sleimllyd â'i wallt.
 
Fortitude (Sky Atlantic) 2il gyfres ddrama ddirgelwch wedi'i gosod mewn tref ddychmygol ar gyrion Cylch yr Arctig gyda smörgåsbord o actorion Llychlynaidd, Prydeinig ac Americanaidd. Er nad yn yr un cae â Trapped o bell bell ffordd, mae'r eira mawr, brwydr dyn yn erbyn natur a dynion eraill ac elfennau swreal yn dal i ddenu. Rhybudd - bydd angen stumog fel haearn Sbaen ar brydiau. Gyda Sofie Gråbøl, Richard Dormer, Denis Quaid a Ken Stott dibynadwy o dda.
 
The Unforgotten (ITV) Un arall sy'n dychwelyd am yr eildro. Cyfres dditectif arall, ond hôld on Now John, cyfres sy'n ailagor hen achosion angof. Y tro hwn, mae'r ddeuawd effeithlon DCI Cassie a DI Sunny Khan (Nicola Walker a Sanjeev Baskhar) yn ymchwilio i gorff dyn a ganfuwyd mewn siwtcês mewn camlas ar gyrion Llundain. Pos ychwanegol iddyn nhw, a ni'r gwylwyr, yw'r holl gymeriadau gwasgaredig eraill - y cwpl hoyw o Brighton sy'n ysu i fabwysiadu, athrawes uchelgeisiol o Gaersallog, nyrs ganser o Lundain a ditectif arall o'r Cotswolds ar fin ymddeol - beth yw'r cysylltiad rhyngddyn nhw a phwy sydd â gwaed 20 mlwydd oed ar ei ddwylo. Roedd y bennod gyntaf yn gafael - sut ddiawl fethais i'r gyfres gyntaf?
 
SS:GB (BBC) Drama newydd sbon gan sgwenwyr Skyfall, yn seiliedig ar nofel o 1978 o'r un enw gan Len Deighton, am Brydain (oce, Llundain) dan goncwerwyr Natsïaid wedi iddyn nhw ennill y Battle of Britain. Mae'r ditectif Douglas Archer yn chwarae â thân - a'r SS - wrth i ymchwiliad syml yr olwg i farwolaeth gwerthwr y farchnad ddu arwain at gyfrinachau atomig y mae'r Abwehr yn ysu i gael eu bachau arnynt. Gyda'r actor o fro Ogwr, Aneurin Barnard.