Hel straeon




Ydych chi wedi sticio efo’r adduned flwyddyn newydd? Mae gen i un dwi’n bendant am lynu ati eleni. Gwylio llai o deledu. Ie, fi, Mr Llygaid Sgwâr a rantiwr-adolygydd teledu achlysurol. Wel, nid yn hollol. Gwylio llai o deledu gwael, dramâu netfflicsaidd true crimes Americanaidd neu EwroNoir symol sy’n dechrau’n ddigon addawol cyn hen golli plwc erbyn pennod tri. A gwylio mwy o genres eraill, yn enwedig dogfennau difyr, hanesion go iawn, croniclau’r gorffennol. Gorffennol ni’r Cymry, hynny yw, nid “Britain” bondibethma. Cyfresi wedi’u llywio gan ein pobl ni'n hunain nid rhai dŵad fel Kate Humble, Griff Rhys Jones a Will Millards y byd sy'n gymaint o ffefryn gan BBC Wales. Diolch byth am S4C. Go brin y caiff cenhedlaeth newydd o Gymry fawr o ysbrydoliaeth gan ein Cwricwlwm newydd.



A dyma ddechrau’r adduned go iawn trwy droi at gyfres newydd nos Sul sy’n codi cwr y llen ar drysorau’r gorffennol a champweithiau’r presennol, yng nghwmni DJ radio “pawen lawen” poblogaidd a hanesydd pensaernïol sefydlodd amgueddfa menywod East End Llundain. Ie, Aled Hughes a Sara Huws (dim perthynas hyd y gwn i) megis Mulder a Scully Cymru yn tyrchu i hanes y genedl, drwy “ei hadeiladau... capeli, ffatrïoedd, tafarndai, bythynnod, ffermdai, cestyll, plastai, swyddfeydd... pob un yn stordy straeon” meddai’r broliant. CSI Ceredigion, os leiciwch chi, wrth i’r ddau ychwanegu nodiadau a ffotograffau ar hysbysfwrdd clir. Roedd y twitteratis wedi mopio. Dwi’n rhywfaint o sinig pan ddaw hi’n fater o heip a chanu mawl y cyfryngis cymdeithasol. Beiwch felan mis Ionawr. Ond y tro hwn, mae’r ganmoliaeth i Waliau’n Siarad (Unigryw) yn gwbl gwbl haeddiannol.

Aeth y rhaglen gyntaf â ni i fro’r Eisteddfod eleni - Ffermdy Mynachlog Fawr, drws nesaf i Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid a Thregaron. Bues i yno sawl haf yn ôl cyn crwydro moelni mawr Soar y Mynydd, yn bennaf i weld ywen Dafydd ap Gwilym (1315/20-1350/70). Prin y sylwais ar yr hen ffermdy carreg cyfagos. Rhag fy nghywilydd i. Achos, trwy ymchwiliadau Aled a Sara a’u sgyrsiau difyr â haneswyr ac ysgolheigion lleol - heb sôn am aelodau o deulu’r Arches fu’n ffarmio yno am 150 mlynedd - y daeth gogoniant y lle’n fyw. Serch y llestri llychlyd a’r cyrtens o we pry cop heddiw, clywsom am drysorau’r aelwyd ers talwm a ddenai pobl o bell ac agos. Fel y llun olew o’r diafol a godai ofn ar bawb uwch y pentan (gan gynnwys y Lyn Ebenezer ifanc), i gwpan chwedlonol Nanteos - y greal sanctaidd yr honnir i Grist a’i ddisgyblion yfed ohoni adeg y Swper Olaf - ac oedd â grym iachaol goruwchnaturiol i ymwelwyr y 19g ganrif ymlaen. Gan Charles Arch, cyflëwyd tristwch a hiraeth am ffordd o fyw sydd wedi diflannu am byth, wrth i blanhigfeydd y Comisiwn Coedwigaeth chwalu cymdogaeth y ffermydd mynydd wedi gaeaf gerwin 1947.  Gwefr Athro David Austin o brifysgol Llambed wedyn, wrth gyfeirio at garreg wreiddiol o’r ddeuddegfed ganrif ar lawr y gegin a droediwyd, mwy na thebyg, gan neb llai na Gerallt Gymro. Balchder llwyr wedyn o gyfeirio at Ystrad Fflur fel ‘Abaty Westminster Cymru’ yr Arglwydd Rhys, canolbwynt crefyddol a gweinyddol Cymru annibynnol y ddeuddegfed ganrif. Falle mai yno ddylai gorymdaith nesaf Yes Cymru fod. A gan y prifardd lleol Cyril Jones, clywsom am stamp yr Abaty ar enwau lleoedd cyfoethog y cylch. Swyddffynnon. Dolebolion. Dol yr ychain. Bron Berllan. Y cyfan yn dyst i'r anifeiliaid a'r cnydau a ffarmiwyd gan y Brodyr Gwynion. Gwae ni o'u colli i Dunroamin' y byd modern.

www.driftwooddesigns.co.uk



Dwi am biciad yno o’r Maes fis Awst. Go brin mai fi fydd yr unig un.

Ymlaen yn awchus i Goleg Harlech nos Sul nesa!


*Ol-nodyn i isdeitlwyr 'Cyfatebol'. Dwi'n ddefnyddiwr brwd o'r hen 888/889 fel rhywun trwm ei glyw, ac felly'n ddefnyddiwr beirniadol bob hyn a hyn. Mae rhai Cymraeg S4C yn dda iawn fel arfer, ac o gymorth mawr i'r Dysgwyr hefyd. Ond y tro hwn, fe wnaethon nhw gam a'r cyfrannwr hynaws Charles Arch a hiraethai am "gymdeithas gref iawn" yr hen ffermydd mynydd. 'Cymdeithas cryf iawn' meddai'r isdeitlau, sy'n anghofio'r treiglad heb son am anghofio gwrando'n iawn a pharchu'r siaradwr.


Y castell a'r coleg - Harlech