Y Parc



Bu’n parciau cenedlaethol dan warchae dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid yn unig gan rai sydd wedi gorfod ffeirio Lanzarote am Lanbêr, ond criwiau teledu. Un ar ôl y llall, daethon nhw yma i ffilmio y tu hwnt i swigan yr M25 efo drôn a thrac sain epig.

Epic Wales: Valleys, Mountains & Coasts ar Channel Four oedd yr orau, gyda Cerys Matthews yn adrodd hanes pobl sy’n byw a gweithio yn Eryri, arfordir Penfro a’r Bannau – a chlywyd y Gymraeg ambell dro hefyd, gydag isdeitlau ar y sgrin i’r anwariaid unieithog. Ar y pegwn arall, daeth y cyn-sowldiwr SAS Jason Fox draw yn ei Defender newydd sbon i gadw reiat ar draphontydd a chlogwyni “Snowdonia North Wales” yn Foxy’s Fearless 48 Hours with... a oedd megis hys-bys haerllug i gwmni landrofar.  Fe welwch chi’r teips di-fasg yn meddiannu llefydd parcio, bwytai a phalmentydd cul 'Betsy Code'.

Ymunodd Channel 5 â’r llif hefyd, gan anfon ryw Fari Gwilym Albanaidd draw i Eryri yn Susan Calman’s Grand Day Out lle cafodd wers ar sut i dostio’r Welsh Rarebit perffaith gan Sais Tu Hwnt i’r Bont. Daeth canwr o’r West End yma hefyd i hel achau yn Michael Ball’s Wonderful Wales gyda dogn go lew o hiraeth, cliché a chanu ar draethau eang braf. Gan gynnwys ffricin "We'll keep a welco... " Chwarae teg, roedd ei ynganiad o’n henwau lleoedd yn rhagori ar ymgais sawl gohebydd BBC ac ITV Wales, a bu’n holi Cymry Cymraeg glân gloyw ar y ffordd. Yn eu plith, y ffarmwr a’r archgyfryngi cymdeithasol Gareth Wyn Jones wnaeth hefyd ymddangos yn Eryri: Pobl y Parc (Cwmni Da) ein sianel ni. Heb ei fêt newydd Rees Mogg.

Cyfres bedair rhan yn dilyn parc cenedlaethol y gogledd wrth iddo gyrraedd oed yr addewid, a rhywun weithiau’n teimlo ei fod wedi cael gorddos o Eryri a’i hawyrluniau drôn dramatig erbyn hyn. Cofio Eryri: Croeso Nôl y llynedd?

Roedd droniau’n gwbl hanfodol i’r gyfres hon hefyd, wrth i ‘Dechnegydd Data Cynorthwyol’ o’r enw Dion beilota un uwchben Maentwrog i fapio’r pla o rododendrons, a chwilota am hen fagnelau o’r Ail Ryfel Byd yng Nghwm Prysor er mwyn clirio’r tir yn ôl i’r corsydd gwreiddiol. Clywsom am y ffin fregus rhwng gwarchod a datblygu, gan gynnwys beiciwr mynydd proffesiynol Cymraeg oedd ddim am weld y parc yn troi’n ‘Alton Towers’ cyn vlogio a denu rhagor o’i gyfoedion ar ddwy olwyn i gadw reiat ar Bwlch Maesgwm. Ac roedd enwau lleoedd yn fiwsig i’r glust, fel Cwm Maethlon, wrth inni glywed am frwydr barhaus y gantores Catrin O’Neill gydag adran gynllunio’r parc wrth geisio troi hen laethdy ar fferm y teulu yn gartre i’w thylwyth hithau. A dros y bryn yn Aberdyfi, daeth torcalon Catrin i’r amlwg wrth iddi bwyntio ar res o fflatiau mewn tref lle mae 40% o’r stoc tai yn nwylo’r ymwelwyr. Harddwch a hagrwch realiti bywyd yn un. Gyda sgript a llais Manon Steffan, awdur y foment, yn ein llywio’n hamddenol o’r naill ardal a stori i’r llall, dylai Cwmni Da ac S4C werthu hon i BBC Four a thu hwnt gydag isdeitlau. A gadael llonydd i’n parciau cenedlaethol wedyn plîs.


 

Tra’r oedd llygaid y byd ar Glasgow fis diwethaf, Caeredin aeth â’m bryd i. Cefais fodd i fyw yn crwydro strydoedd tamp, warysau segur a phentai moethus y brifddinas yn ail gyfres Guilt BBC Scotland, am gyn-dwrna twyllodrus (Mark Bonnar) sy’n gadael carchar yn syth i fwy o strach. Mae’n llawn elfennau thriller gyda hiwmor tywyll ac wedi’i blotio’n gelfydd gyda chast o Sgotiaid heblaw un cymeriad. O! am weld BBC Wales yn creu drama gyfoes gystal yn lle comisiynu cyfres 91 o deithiau cerdded y dyn tywydd, waeth pa mor hoffus ydi o.


 

Wrth gnoi cil ar 2020, siomedig ar y cyfan fu arlwy dramatig S4C. Mae’r ffaith taw ailddarllediad 16 blwydd oed o Con Passionate gafodd y clo a’r bri mwyaf ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dweud cyfrolau. Ond dw i ddim am gloi colofn ola’r flwyddyn ar nodyn bah hymbygaidd. Cefais flas mawr ar ias a chyffro Yr Amgueddfa Fflur Dafydd, sydd bellach wedi croesi’r Iwerydd ar sianel ffrydio BritBox yn yr Unol Daleithiau. 

Dyma adolygiad o wefan ryngwladol Decider.com – “The Museum is setting itself up to be a fine thriller, with good lead performances and just enough story threads to keep viewers from getting bored... Most of the dialogue is in the native language of Wales, with some English sprinkled in. It adds a little more of a local flavor to a thriller that could take place in just about any city”.  

Da clywed bod ail gyfres i ddod o Amgueddfa Sir Gâr y tro hwn, mewn cyfweliad gyda’r awdures ar Recordiau Rhys Mwyn, un o raglenni gorau’r radio ar nos Lun.

Dolig Llawen un ac oll.