Showing posts with label Broadchurch. Show all posts
Showing posts with label Broadchurch. Show all posts

Copenhagen calling

 


Mae ciwed I’m a Celebrity yn heidio hyd yr A55, gan dorri rheola teithio Lloegr, a hacs Llundain yn prysur hogi eu jôcs defaid wrth i Ant a Dec fireinio eu hacen Gavin & Stacey. Ond dw i’n denig i Ddenmarc. Yn fy mhen, hynny yw, cyn i’r heddlu daro’r drws. Unrhyw esgus i ymgolli mewn nofel neu gyfres wedi’i gosod yn fy hoff ran o’r byd, a dw i yno. Wedi wythnosau o’r Montalbano arwynebol ond gwledd Siciliaidd i’r llygaid, dychwelodd BBC Four at ei gwreiddiau Llychlynnaidd ar nosweithiau Sadwrn gyda DNA. Gyda diolch i Fiona ’Pesda am yr argymhelliad, achos welais i’r un hys-bys ymlaen llaw.

Ymchwiliad i blentyn bach a gipiwyd o’r kindergarten yn swbwrbia København sy’n sbarduno popeth, a’r Politi lleol yn mynnu taw’r tad sy’n geisiwr lloches, ydi’r drwg yn y caws. Ond mae Rolf Larsen (Anders W. Berthelsen), tad a ditectif uchel ei barch, yn amau fel arall ac yn dal fferi i wlad Pwyl wrth i gliwiau newydd ddod i’r fei – gyda chanlyniadau trychinebus iddo fo a’i wraig. Ro’n i’n gwybod nad syniad da oedd mynd â’r fechan...

O hynny mlaen, ’da ni’n neidio o Ddenmarc i Wlad Pwyl a Ffrainc ac yn ôl, mewn drama sy’n plethu merch ifanc feichiog a lleianod anghynnes, masnachwyr pobl, clinig ffrwythloni a ditectif soffistigedig o Baris (Charlotte Rampling, gynt o Broadchurch). Os ydi’r ddwy bennod gyntaf yn ymddangos ar wasgar braidd, gyda lot o is-blotiau digyswllt, daliwch ati achos Torleif Hoppe, crëwr Forbrydelsen (The Killing), sydd wrth y llyw. Does na’m eira eto, ond cewch ddigonedd o awyr lwyd, isdeitlau, sgarffiau syml o chwaethus ac arwyddgan atmosfferig i’ch cadw’n ddiddig.



Cyn noswylio, mi ddarllena i bennod neu bump o nofel awdur The Killing (obsesd, moi?). Mae The Chestnut Man Søren Sveistrup eto wedi’i gosod yng Nghopenhagen hydrefol, a llofrudd cyfresol sy’n gadael ei stamp gwaedlyd trwy blannu ffiguryn castan ger cyrff merched ar hyd a lled y ddinas – gan beri penbleth i’r ditectifs anghymarus, y fam sengl Naia Thulin o Major Crimes a Mark Hess sydd wedi cael cic owt o Europol. I ategu’r dirgelwch, mae pob ffiguryn castan yn cynnwys olion bysedd hogan 12 oed a ddiflannodd flwyddyn ynghynt, ac sy’n digwydd bod yn ferch i Weinidog Cyfiawnder Llywodraeth Denmarc. Swnio fel cyfres deledu ddelfrydol, meddech chi, ac yn wir, mae Netflix wrthi’n ffilmio rŵan hyn.

A gyda’r sianel fawr honno ag un DR Danmark yn atgyfodi Borgen ar gyfer 2022, mi fydda i’n dal i danysgrifio am sbel go lew eto.

Politigården - pencadlys cyfarwydd yr heddlu, Copenhagen

 

Dwy bennod sy'n weddill, a dw i eisoes wedi ffeindio'r gyfres dditectif nesa i 'nghadw'n hapus trwy Dachwedd Noir, diolch i Walter Presents. Ysblander Lac d'Annecy yn yr Alpau ydi lleoliad Fear by the Lake, yr olaf o'r trioleg Ffrengig am y gŵr a'r gwraig o dditectif


 

 

Un nos Sul


Cachu Hwch. 

Dyna fy ymateb cyntaf pan glywais mai Eve Myles fyddai seren cyfres gefn-wrth-gefn newydd S4C a BBC Wales. Peidiwch â ’nghamddeall i. Dw i’n ffan fawr o’r ferch o Ystradgynlais byth ers dyddiau Belonging a Torchwood - pwy all anghofio’r olygfa eiconig hon? - ond calla dawo am ail gyfres  Broadchurch. Ac er iddi gael ei magu yn un o bentrefi Cymreiciaf topiau Cwm Tawe/de Powys, mae’n un o’r un o’r 80% nad ydynt yn medru’r iaith yn y Brexit-shire sydd ohoni heddiw. A dyma feddwl pam ddiawl mae S4C yn dychwelyd i’r dyddiau annoeth hynny o gastio enwau “mawr” di-Gymraeg yn y gobaith (aflwyddiannus gan mwyaf) o farchnata a denu rhagor o wylwyr a sylw tu hwnt i Glawdd Offa. Cofier Edward Woodward yn Tân ar y Comin (1993) a Philip Madoc yn Yr Heliwr/A Mind to Kill (1991-2002) yn actio’n Gymraeg fel petai ganddyn nhw lond ceg o bys slwtj poeth.

**RHYBUDD - PEIDIWCH Â DARLLEN HEB WELD Y BENNOD GYNTA**

Ond yn ôl at Un Bore Mercher / Keeping Faith (Vox Pictures), y cyfraniad diweddaraf i slot noir-aidd nos Sul. Yma, mae Eve yn chwarae rhan Faith Howells, mam a thwrna braf ei byd â thŷ 04 Wal mewn tref fach ddel yn y Gorllewin (cyfuniad o Dalacharn, Pontardawe, llys barn Caerfyrddin a stiwdios enfawr Pen-y-bont ar Ogwr) cyn i’w byd droi ben i waered yn sgil diflaniad disymwth ei gŵr Evan (ei chymar go iawn Bradley Freeguard) un bore - yep, dyna chi - Mercher. Cyn hir, mae’n gorfod chwarae ditectif ac yn dod ar draws cyfrinachau go anghynnes am ei chynefin. Ac mae lleoli’r gyfres yn y Gorllewin yn wirioneddol hyfryd, yn ogystal â PR da i S4C cyn symud ei phencadlys yno’r flwyddyn nesaf. Mae adolygiad cytbwys a chynhwysfawr Sioned Williams yn cyfeirio’n smala at hyn. Rhwng pyliau o gawodydd, mae’r golygfeydd o ardal Dylan Thomas - y castell, yr aber, y llwybrau arfordirol - yn drawiadol, ac yn helpu i greu awyrgylch braf a chymuned glos lle mae pawb yn ’nabod pawb yn enwedig y Trwyn Drws Nesaf (croeso mawr yn ôl i Menna Trussler).

Mae’r ddrama’n cychwyn gydag Evan Howells megis gŵr a thad y flwyddyn sy’n bwydo a suo ei blant i gysgu tra aiff ei wraig mas i slotian a sgrechian chwerthin efo criw i ddathlu ysgariad Lisa (Catherine Ayres, sy’n parhau â chwota prosecco ei chymeriad Byw Celwydd). Ond wrth gwrs, mae’r boi’n rhy ddelfrydol o’r hanner, a’r olwg boenus a’r smôc ar y slei yn awgrymu nad yw pethau’n fêl i gyd, cyn iddo godi pac ar ei ffordd i’w waith. Drama ddomestig gawson ni wedyn fwy neu lai, wrth i Faith orfod cydbwyso gwersi nofio’r plant, pledio achos meddwyn lleol yn y llys, a gadael 112 o negeseuon ar ffôn lôn ei gŵr. Ac mae ei theulu yng nghyfraith yn cau amdani, ac yn llawn ensyniadau am ei methiant i ‘blesio’ ei gŵr, wrth i ddirgelwch y diflaniad ddwysau. Gobeithio y gwelwn ni lot fwy o’r Marion Howells drwynsur, mam Evan - dwi’n gymaint o ffan o Rhian Morgan fel ’swn i’n fodlon ei gwylio’n darllen cofnodion y Cynulliad am awr gron gyfan.




Ar yr wyneb, mae Faith yn llwyddo i gadw’r heddwch, ond ar ôl cau’r drws ar y busneswrs a’r nos, daw ei rhwystredigaethau i’r amlwg. Roedd gwylio drwy ffenestr y gegin o’r tu allan, a Faith yn ffrwydro’n fud fel Mount Etna wrth olchi llestri, yn drawiadol. Mae Eve Myles wedi’i geni i’r rôl yma, a does ryfedd fod y cynhyrchwyr wedi’i phlagio i gymryd rhan er gwaetha’r her ieithyddol. A doedd dim angen iddi hi, fel ninnau, boeni am safon ei Chymraeg. Mae’n ynganu’n dda (fel y dylai siawns, ar ôl rhywfaint o Gymraeg ail iaith yn yr ysgol), yn defnyddio ambell linell o Wenglish y stryd Sir Gâr, ac mae’r golygfeydd rhyngddi hi ä’r plant yn hollol hyfryd a naturiol. Mae’r dirgelwch yn prysur gyflymu wrth i Faith chwilio a chwalu drwy wardrob ei gŵr, a chanfod bag plastig amheus ar y naw. Nage, nid ôl-rifynnau o Dogging in Carmarthenshire, ond wig, pâr o sbectols, a cherdyn DVLA ei gŵr dan enw g’neud â’r llun cuddwisg gwaethaf ers mwng Mathew Gravell yn Teulu.

Gorffennodd y bennod gyntaf yn fwy iasol, gyda Faith yn ymchwilio i honiad gyrrwr tacsi (amheus?) iddo weld car Evan wedi’i barcio ger rhyw fwyty carfyri, a dieithryn yn loetran y tu allan i’w chartref â’r plant yn eu gwelyau heb warchodwr...

Yr unig fan gwan i mi’n bersonol, oedd y defnydd o’r piano fel cerddoriaeth gefndir braidd yn rhy ffwrdd a hi i’r naws ddirgel. Byddai tincial syml i godi croen gwydd wedi bod yn well, fel Forbrydelsen bob tro roedd Sarah Lund yn taro ar gliw newydd neu'n mentro i rywle bol buwch gyda’i thortsh. Doeddwn i ddim balchach gyda cherddoriaeth glo a gyfansoddwyd gan Amy Wadge chwaith, ond fi ’di hwnnw. Y gantores, gyda llaw, ydi Ela Hughes – ac mae’r gyfres hon yn dipyn o achlysur teuluol, gyda’i thad Aneurin Hughes yn actio rhan y tad-yng-nghyfraith, a’i mam Pip Broughton yn gyfarwyddwr a chydgynhyrchydd y prosiect. Dw. I’n. Dweud. Dim.  Gyda llaw, gorau po leiaf o ôl-fflachiau o Faith ac Evan yn lapswchan mewn cae melyn, megis hys-bys siampŵ Timotei ers talwm gawn ni (ymwadiad: mae mathau eraill o siampŵs ar gael).

Gair cyn cloi am y sgript a phroblem a gododd gyda’r Gwyll hefyd. Mae’r fersiwn Gymraeg wedi’i haddasu gan Anwen Huws, sgriptwraig brofiad Pobol y Cwm a Gwaith Cartref â chlust dda iawn am dafodiaith Sir Gâr. Ond y ffaith ddiymwad amdani yw mai addasiad o syniad a sgript Saesneg ydi hon go iawn, a hynny gan Matthew Hall brodor o Lundain â CV digon parchus fel nofelydd Saesneg a chyfresi teledu’r gorffennol fel Foyle’s War a Kavanagh QC ar ITV a New Street Law ar gyfer y BBC. Ond os nad ydi S4C, hyd yn oed 35 mlynedd wedi ei sefydlu, yn barod i feithrin ein doniau cynhenid, pa obaith sydd i’r cyw-sgwenwrs rhwystredig sy’n ceisio eu gorau glas i arddel y grefft yn eu mamiaith?

Cawn weld sut y datblygith pethau dros y saith wythnos nesaf. Croesi bysedd y bydd sawl tro  yng nghynffon y stori i gynnal y chwilfrydedd tan ’Dolig.



Gormod o bwdin Broadchurch?




O na. Ail bennod o ail gyfres, ac mae ‘nghalon i’n suddo fel plwm. Wedi heip a hys-bys sylweddol, wynebau hen a newydd (Marianne Jean-Baptiste o ffilmiau Mike Leigh a Hollywood! Charlotte Rampling yr actores Eingl-Ffrengig! Eve Myles o, ym, Torchwood a Phontardawe!) a dirgelwch MI5-aidd ynglŷn â sut gythraul wnawn nhw ddilyn achos arestio gŵr diddrwg di-dda (Matthew Gravelle Ni) y ditectif am lofruddio bachgen dengmlwydd oed ar arfordir Dorset debycach i Fôr y Canoldir. Doedd dim rhagflas i’r wasg a’r cyfryngau - dim hyd yn oed i Golwg dlawd - cyn darlledu’r bennod gynta lwyddiannus (7.6 miliwn), a gorfu i’r sêr lofnodi cytundeb cyfrinachedd neu wynebu'r gosb eitha o ymddangos yn Birds of a Feather. Gorfu i Matthew Gravelle druan hyd yn oed fyw fel meudwy mewn gwesty ar wahân i’r actorion eraill, rhag difetha’r syrpreis am ddychweliad Jo Miller.

Ac wele’r ail bennod siomedig, a ddenodd 1.6 miliwn yn llai o selogion. Mam bach. Lle’r oedd y gyfres gynta’ (10 miliwn o wylwyr) yn gampwaith o gynildeb a datgelu pethau dow-dow, roedd hon yn llawn sterics opera sebon. Does ryfedd fod Grace Dent yn ei chymharu ag Eastenders. A does gen i ddim taten o fynedd na diddordeb yn yr ail blot gyda'r newydd-ddyfodiaid Eve Myles a James D’arcy, sy’n olrhain llofruddiaeth arall mewn rhan arall o’r wlad fu bron â dinistrio gyrfa, iechyd a hygrededd DI Alec Hardy (David Tennant sydd dan lach y Daily Mailers, c’radur, am ei acen annealladwy) cyn iddo gyrraedd pentref Broadchurch yng nghyfres 1. A sori, ond dim ond hyn a hyn o wep ddagreuol y “nashiynyl treshyr” Olivia Colman alla i oddef...

Ydw i’n hen sinig sy’n swnian? Yn bod yn rhy fyrbwyll? Wedi’r cwbl, ma ’na saith pennod arall ar ôl. Roi gynnig ar y drydedd wythnos nesa. Ac ma’r clogwyni a’r traeth godidog na’n apelio’n fawr ar nosweithiau Llun tamp a thywyll.


Cerddoriaeth iasol Ólafur Arnalds o Wlad yr Ia. I'w fwynhau'n llawn heb ymyrraeth troslais dynas ITV!