Showing posts with label Newyddion. Show all posts
Showing posts with label Newyddion. Show all posts

Gwalia'n siarad


Mae S4C wedi llwyddo i ennill ffrindiau a gelynion mewn wythnos. Ar y naill law, dechreuodd cyfres newydd sbon am naw nos Fawrth, yn dilyn hynt a helyntion criw plismona ffyrdd y Gogledd yn Y Llinell Las (CREAD Cyf + Slam Media). O’r PC Alun Jones Rhosgadfan i PC Rich Priamo Wrecsam, cawn gip pry ar y wal ar eu diwrnod gwaith amrywiol, weithiau'n beryglus, yn eu Beemers chwim fel rhan o lu sy’n gyfrifol am draean o Gymru. Mae ’na ddigon o straeon am y natur ddynol yma, gydag alcohol a chyffuriau wrth wraidd sawl damwain, a lluniau dashcam o rasio ar ôl drwgweithredwyr i blesio ffans y myrdd o gyfresi tebyg ar sianeli Sky. Ac och! a gwae, ambell ddrwgweithredwr Cymraeg ei iaith hefyd. Ac ydi, mae’r lluniau drôn o Eryri, Bryniau Clwyd a hyd yn oed gwibffordd yr A55 yn odidog. Mi roedd y twitteratis wedi mopio, fel finnau – felly da iawn Rob Zyborski (dyn camera) a Stephen ‘Weiran Gaws’ Edwards (cynhyrchydd).


 

Sy’n wahanol iawn i’r ymateb gafodd y Sianel yn sgil neges ddisymwth y cyflwynydd Aled Hughes na welwn ni ragor o Waliau’n Siarad (Cynhyrchiad Unigryw). Ow! am siom. Dw i eisoes wedi adolygu'r gyfres unigryw hon, lle’r oedd Al Hughes a’r curadur a cholofnydd gwych Golwg Sara Huws, yn tyrchu i hanes coll rhai o’n hadeiladau difyrraf ni a’r bobl arferai fyw neu weithio ynddyn nhw – o ffermdy Mynachlog Fawr, Ystrad-fflur i wyrcws Dolydd Llanfyllin a hen neuadd y dref Merthyr fu’n ganolbwynt un o ralis mawr Yes Cymru ym Medi 2019. Dyddiau da, llawn hwyl, gobaith ac agosatrwydd braf.

A ’mateb S4C? Dim digon o wylwyr “amrywiol”. Dyn a wyr be’ di hynny. Falle y gwnaiff Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd y Sianel ein goleuo ni ar y mater niwlog hwn.

Cafwyd ymateb da i’r gyfres ar y cyfryngau cymdeithasol ond ni lwyddwyd i ddenu digon o wylio nac amrywiaeth o wylwyr i gyfiawnhau cyfres arall. Mae Hanes Cymru yn parhau yn genre pwysig i S4C a byddwn yn edrych i gomisiynu dogfennau a chyfresi eraill yn trafod pynciau hanesyddol

Beth am obsesiwn y ffigurau gwylio felly? Os ydi tudalen wicipedia y gyfres yn gywir, roedd y niferoedd yn amrywio o 13,000 i 27,000. Ar y sail hwnnw felly, mae Newyddion a Heno mewn ddiawl o berig yn ol y siart ddiweddaraf (6/9/2020 am ryw reswm niwlog eto, lle'r arferant fod yn wythnosol).

Do, fe gawson ni gyfres debyg dros yr haf, Trysorau Cymru: Tir, Tai a Chyfrinachau efo Elinor Gray Williams a Tudur Owen, ond dim ond eiddo National Trust Lloegr yng Nghymru oedd dan sylw fanno. Mae 'na le i'r ddwy gyfres, heb os. Ond er i mi fwynhau'r ail un, doedd hi ddim ddim hanner cystal na swmpus â Waliau’n Siarad, gyda Tudur Owen fymryn yn rhy ysgafn yn enw ‘adloniant’ i mi'n bersonol. 

Efallai mai dyma fwriad S4C. “Poblogeiddio” neu dymbing-down-eiddio hanes trwy gael rhywun fel Llyr, hogyn drwg Am Dro, i gyflwyno'n y dyfodol gyda dos go lew o iaith gref a (brat)iaith Hansh.

Ydw, dw i'n flin. Yn flin dros y cyflwynwyr, y cwmni cynhyrchu a selogion nos Sul. Ac yn disgwyl llawer mwy o eglurder gan y Sianel na phwt o drydar yn unig.

 

Elwa ar lyfra

Pa lyfrau oedd yn eich hosan Dolig eleni? Fe ges innau nofelau Llwyd Owen, Angharad Tomos, Llio Maddocks, Dyfan Lewis a dw i'n gobeithio cael un o glasuron y diweddar athrylith Jan Morris gyda'r tocyn anrheg.

Wn i ddim beth gafodd rhai o’n cyfryngis ni, ond ga i awgrymu’n garedig bod golygyddion BBC Cymru-Wales yn gadael copi hanfodol o Pa Arddodiad? D Geraint Lewis ar eu desgiau pan fyddan nhw’n dychwelyd yn 2021. O’r darllenydd newyddion i’r dyn(es) tywydd, mae’n berthnasol i bob un wan jac ohonyn nhw.

A chyn i chi sgrechian “Plisman iaith!”, fi di'r cyntaf i gyfadda nad ydw i’n berffaith fy hun. Serch addysg cwbl Gymraeg o ysgol feithrin Llanrwst ddiwedd y saithdegau reit drwodd i Brifysgol Caerdydd ganol y nawdegau, dw i wedi gorfod dysgu rheolau gramadeg o’r newydd. Dw i'n defnyddio idioma Saesneg heb dalld, ac yn diawlio'n hun a'r iaith a'r ffordd o feddwl sydd wedi concro ein byd lleiafrifol brau ni. Mae'n anodd ac yn heriol.

Rhaid bod ein darlithwyr yn poeni’n uffernol am safon iaith darpar addysgwyr, cyfieithwyr, gohebwyr a gwleidyddion y genedl, achos dw i’n cofio gorfod mynychu seminarau gloywi iaith y brifysgol am dymor dan arweiniad neb llai na’r Athro Peter Wynn Thomas, awdur gwybodus Gramadeg y Gymraeg. Ac wrth ennill fy nghrefft fel cyfieithydd proffesiynol (yn gam neu’n gymwys) wedyn, dw i wedi cael fy nghywiro a’m haddysgu gan sawl golygydd profiadol yn enwedig ar reolau arddodiad. Y defnydd cywir o brics a mortar cystrawennol yr iaith, yn y cyd-destun cywir.

Sawl tro dw i’n clywed rhywun yn camddeud “elwa o” ar Radio Cymru ac S4C yn hytrach nag elwa ar (rhywbeth), to profit, cywir. Felly hefyd effeithio, heb ar wedyn. Mae’r cyfeithiad slafaidd effeithio pobl o’r Saesneg effect people yn wall cyffredin iawn iawn. Ar hen glasur hwnnw, mynd i’r deintydd yn lle at y deintydd.

Mae llyfryn bach glas golau D Geraint Lewis yn ganllaw cwbl hwylus a handi. Nesh i ddysgu’r rheolau mewn dim o dro, diolch iddo. Mi wnewch chithau hefyd. 

Fel arall, waeth inni siarad Saesneg ddim.

Mae'n cyfryngau ni'n cael dipyn o drafferth efo'r gair "national" hefyd. Cymru ydi'n 'cenedlaethol' i, a phob Cymro a Chymraes gwerth ei halen, nid Prydain waeth beth ddywed y Toriaid y dyddiau jingoistaidd hyn. Dim ond bore ma y clywais Gwenllian Grigg yn deud "yr Archif Genedlaethol" am National Archives Lloegr a Chymru sydd â'i phencadlys yn Kew, Richmond. Ych a fi. Os mai rhywbeth Prydeinig ydi o, pam ddim defnyddio'r enw Saesneg yn unig? Yn y gorffennol, mae gohebwyr BBC Cymru hefyd wedi camgyfieithu'r National Health Service a National Insurance fel Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ac Yswiriant Cenedlaethol, pan mai 'Gwladol' sy'n gywir fama. 

Oes, mae eisiau gras a mynadd a golygydd gwell weithiau. Ond mae'n broblem ddiawledig yn yr iaith fain hefyd, fel mae bron i flwyddyn o bandemig wedi dangos. Mae'r cyfryngau Saesneg, o Sky News i ITV a'r Bìb yn sgrechian NATION a NATIONAL yn gyson anghywir pan mae Johnson (dwi'n gwrthod ei alw'n Boris fel hen fêt Andrew Marr a Robert Peston) yn cyhoeddi rhagor o newidiadau i Loegr yn unig. Mae hyd yn oed yr Americanwyr wedi'i dalld hi.

O, a chwi hwntws, defnyddiwch yr "u bedol" yn lle "i dot" er mwyn dyn. Diolch.

 




*********************************

Dyma dabl defnyddiol o ffeil ‘Arddulliadur’ Gwasanaeth Cyfieithu y Llywodraeth.

arddodiaid

·       Mae angen bod yn ofalus ag arddodiaid, yn enwedig wrth gyfieithu to, for, on ac ati.

Dyma rai camgymeriadau cyffredin:

 

CYWIR

ANGHYWIR

â/ag

 

cydweithio â

cydweithio gyda

cysylltu â

cysylltu gyda

cytuno â (rhywun/rhywbeth)

cytuno gyda

gwrthdaro â

gwrthdaro gyda

siarad â

siarad gyda

trafod â

trafod gyda

perthynas â

perthynas gyda

torri papur â siswrn

torri papur gyda siswrn

pobl ag anghenion arbennig

pobl gydag anghenion arbennig

ar/arno/arnom etc

 

gwahanol agweddau ar y pwnc

gwahanol agweddau o’r pwnc

mae’r frech goch arno

mae ganddo’r frech goch

roedd yn fodlon ar y penderfyniad

roedd yn fodlon â’r penderfyniad

mae arnom angen arian neu mae angen arian arnom

rydym angen arian

at

 

gresynu at y penderfyniad

gresynu’r penderfyniad neu gresynu wrtho

anfon e-bost at Mair (at berson)

anfon e-bost i Mair

elwa ar y profiad

elwa o’r profiad

i

 

anfon llythyr i’r Cyngor Sir (er cysondeb, arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw ymdrin â sefydliadau ac ati fel lleoliadau, felly dilynir yr un patrwm ag ‘anfon i rywle’)

anfon llythyr at y Cyngor Sir

cytuno i wneud rhywbeth

cytuno gwneud rhywbeth

tueddu i effeithio

tueddu effeithio

helpu rhywun i wneud rhywbeth

helpu rhywun wneud rhywbeth

trefnu i ddod

trefnu dod

mae’n bwysig nodi

mae’n bwysig i nodi

o

 

rwy’n falch o fod yma

rwy’n falch i fod yma

dyma’r ffordd orau o wneud hyn

dyma’r ffordd orau i wneud hyn

mae’n gyndyn o gymryd y swydd

mae’n gyndyn i gymryd y swydd

wrth

 

ynghlwm wrth

ynghlwm â neu yn glwm â

glynu wrth

glynu at neu glynu i